成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Nadolig a Rolling Stones
Beks yn sgrifennu o Hong Kong

Mae'r Nadolig wedi cyrraedd Hong Kong yn barod! Mae'n teimlo felly, ta beth, gan imi fod yn gweithio ar "photo shoot" Nadoligaidd i gylchgrawn Playtimes!

Dwi di gwneud dipyn o bethau gwahanol yn ystod fy ngyrfa ond erioed wedi cael y cyfle i gynllunio a threfnu shoot, felly pan gefais i'r cyfle i drefnu darn ffasiwn am ddillad tylwyth teg i blant bach fe neidiais at y cyfle hwn i wireddu breuddwydion o fynd yn hollol bananas a thros ben llestri gyda phethau benywaidd fel feather boas, milltiroedd o silc pinc, swigod, wands, ond, yn bwysicach, dillad tylwyth teg!

BeksYn naturiol roedd Ela Mai yn mynd i wneud ymddangosiad yn y cylchgrawn fel y brif dylwythen deg!!!!

Nadolig heb eira
Mae braidd yn ffals ceisio creu Nadolig oer ar gyfer plant a rhieni HK gan ei bod hi, wedi'r cyfan, tua deg gradd ar hugain oddi allan a dim gobaith caneri gennym ni i weld eira pan ddaw Sion Corn.

Felly, penderfynais beidio ag ail-greu eira ac ati ar gyfer y set ond, yn hytrach, fynd am liwiau a theimlad Nadoligaidd drwy brynu llwyth o ddefnydd melfedaidd, coch, a thrawsnewid swyddfa fishi yn Central i edrych fel Gwlad y Tylwyth Teg!

Roedd her enfawr o fy mlaen - cadw wyth merch fach rhwng deunaw mis a phump oed yn hapus am bedair awr.

Nid y peth hawsaf yn y byd pan fo rhai yng nghanol potty training ac eraill wedi blino'n swps yn dilyn ysgol feithrin drwy'r bore a phawb yn brwydro am gael gwisgo'r wisg bertaf!!!

Diolch i'r drefn, daeth Julie, y fenyw oedd yn gyfrifol am y dillad a dewis o tua 30 gwisg dylwyth teg gwahanol mewn câs enfawr ynghyd a choronau diri, hudlathau, adenydd a phopeth arall y gellid meddwl amdano sy'n gysylltiedig â thylwyth teg!!

Yn fendith ar adegau
Mae'n anghredadwy faint y gall mam ei ddysgu yn ystod ei blynyddoedd cynnar - ac un o'r pethau rwyf i wedi'i ddysgu yw, fod cymeriadau o'r enw The Wiggles yn medru bod yn fendith ar adegau.

Pedwar dyn sy'n canu a dawnsio'n fflat owt ydy'r Wiggles ag am rhyw reswm nad ydw i'n ei ddeall mae plant HK wedi dwli arnyn nhw!

Ta beth, mi wnes sicrhau fod VCD y swyddfa roeddwn i wedi'i throi yn stiwdio wedi'i lwytho drwy'r adeg gyda'r Wiggles ac fe gadwodd hyn bawb yn hapus iawn diolch yn fawr yn ystod y cyfnod o ddisgwyl eich tro!

Rwy'n hapus dros ben gyda'r canlyniadau gan ei bod yn amlwg o wynebau'r merched iddynt joio pob eiliad o fod yn dylwyth teg.

Bu'r peiriant swigod yn llwyddiant mawr hefyd a neb ishe newid nôl i'w dillad arferol ar ddiwedd eu sesiwn fodelu!

Ers y diwrnod hwnnw dydi Ela Mai ddim wedi bod ishe gwisgo dim ond dillad tylwyth teg bob bore!!!!

Disgwyl y Rolling Stones
Sôn am Nadolig yn dod yn gynnar - rydym ni wedi bod yn ffodus iawn yn HK o gael gwyl enfawr sydd wedi denu rhai o sêr mwyaf y byd yma dros yr wythnosau diwethaf fel rhan o Harbour Fest sef gwyl sy'n dathlu'r ffaith i HK "ddod drwyddi" fel petai.

Mae SARS bellach wedi myned ac yr ydym ni'n awr yn barod i groesawu twristiaid i'n plith gyda chyfle i fandiau fel The Rolling Stones ymweld â HK ar ôl gorfod gohirio sawl tro eleni.

Rydw i wastad wedi bod yn ffan enfawr o Prince a'r tro diwethaf y gwelais i'r corrach bach talentog yn perfformio oedd yn Earl's Court, Llundain ddeng mlynedd yn ôl a minnau'n dal yn y brifysgol.

Pan ddarganfyddais mai ef oedd yn agor yr wyl roeddew yn fy seithfed nen ac ni chefais fy siomi gan fod ei bresenoldeb ar y llwyfan yn gwbl drydanol fel yr oeddwn yn disgwyl gyda HK yn cael gwledd o berfformiad o glasuron fel Purple Rain ac When Doves Cryyn atseinio dros borthladd Victoria ac hefyd, Craig David, Westlife, Tatau, Jose Carreas, Santana a Michelle Branch.

O ie - a'r Wiggles, wrth gwrs!!!!

Mae'r rhestr o berfformwyr yn un felly rhaid dewis yn ofalus.



Rolling StonesYn bersonol, gan nad wyf wedi gweld y Stones yn perfformio bydd gweld yr hen Rubber Lips yn mynd amdani siwr o fod yn un o uchafbwyntiau'r wledd ac yn ffordd berffaith i gloi tair wythnos o berfformiadau.

I ddweud y gwir, dwi di prynu tocyn yn anrheg pen-blwydd i RJ ac ar gyfer dydd ei ben-blwydd, trefnais barti syrpreis iddo ar fy hoff draeth, St. Stephens sydd ond tafliad carreg o'n cartref.

Mae'r eskie wedi'i lwytho gyda iâ â Sangria; mae'r haul yn tywynnu, yr anrhegion yn barod i'w hagor, ffrindiau yn barod i weiddi "syrpreis

Dim ond un peth sydd ishe nawr i RJ ddeffro!!!!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy