成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


SARS - yr ymateb yng Nghymru
Wedi cyfnod yng nghanol argyfwng SARS yn Hong Kong bu Beks ac Ela Mai ar ymweliad a Chymru

Mae'n ymddangos mai fi yw "arbenigwraig" SARS y dwyrain pell!

Fi yw'r llais a'r wyneb mae pawb bellach yn ei gysylltu â Honkersa SARS.

Wn i ddim pa mor llesol fydd hyn i'm delwedd ond beth bynnag am hynny, gyda'r sefyllfa yn gwaethygu'n ddyddiol fe wnes i ag Ela Mai benderfynu mai'r peth doethaf fyddai hedfan nôl i Brydain am gwpwl o wythnosau.

Dim mwy o'r rhain!Rhaid cyfadde, bu'n braf medru diosg yr acsesori anhepgor yna o fwgwd.

Rwyf wedi arbed ffortiwn hefyd gan fod yn rhaid ichi wisgo un newydd sbon bob dydd!

Ac am y tro cyntaf erioed roeddwn yn falch o weld ac anadlu smog Llundain!


Roedd maes awyr Chap Lap Kock fel y bedd y noson roeddem yn hedfan yn ôl naws gyffrous arferol yn gwbl absennol a llwythi o deithiau wedi eu canslo.

Hunllef 17 awr
Mae'r daith yn ôl a blaen rhwng 12 a 13 awr fel arfer ond oherwydd SARS mae'n awr yn cymryd 17 awr sy'n hunllef gyda plentyn 23 mis oed!

Y rheswm am hyn yw fod staff BA yn gwrthod aros yn Hong Kong ac o ganlyniad rhaid hedfan i Bangcoc yn gyntaf er mwyn newid criwiau.

Ta beth - roedd un peth cadarnhaol am y daith nid oedd yr awyren ond chwarter llawn gyda digon o le i mami ac Els symud o gwmpas.

Ymateb rhyfedd
Bu'n brofiad rhyfedd bod nôl yn y wlad hon - gydag ymateb ambell i berson tuag atom yn rhyfeddach fyth!!!

Gan fy mod yn awyddus iawn i leddfu pryderon pobol fan hyn cyn cyrraedd bu Els a minnau yn gweld meddyg cyn gadael er mwyn sicrhau ein hunain ein bod yn gwbwl iach.

Ar ben hyn cawsom ein sgrinio ddwywaith ar y ffordd draw!!

Er hyn oll, mae ambell un wedi gwahardd eu plant rhag mynd yn agos at Ela ac un neu ddau wedi bod ofn dod yn agos ataf innau gan wneud hwn yn gyfnod prysur o "air kissing darling!"

Penwythnos fawr
Ta beth - y peth pwysicaf yw fod y bobol yr wyf yn eu gwir garu fel fy nheulu a'm ffrindiau wedi bod yn hynod falch o'n gweld ni'n dwy, gan gynnwys Lowri, John, Joni bach a Beca.



John Hartson - edrych yn well nag erioed!Felly, a hithau'n benwythnos fawr i Celtic y penwythnos ddiwethaf, (Celtic V Rangers) manteisiais ar y cyfle ihedfan I Glasgow i weld fy nheulu.

Roedd hi mor braf gweld y criw yn enwedig wee Joni fel mae'n cael ei alw gan yr Albanwyr!

Mae e nawr yn dri mis oed a John Hartson, ei dad prowd, wedi cael tatw enfawr JONI ar draws ei dorso.

Roeddwn innau hefyd yn hynod falch o weld John yn edrych mor ffit ac yn deneuach nag a welais i o erioed.

Dim rhyfedd ei fod yn saethu'r goliau na i mewn ac yn chwarae ei bêl-droed gorau erioed!!!

Fel yr hen ddyddiau
Ers dychwelyd o'r Alban bu fel yr hen ddyddiau i Beks ac C2 - ydw wi di bod nôl ar yr awyr yn llenwi sgidie Daf Du ac heb ddefnyddio gormod o ystyrdebau mae'n rhaid dweud ein nod ni i gyd fel un teulu mawr ar Radio Cymru a'r croeso a gefais heb os yn un hollol "gen".

SARS neu ddim, mae'r sefyllfa yn edrych dipyn well yn HK na phan adewais i ac o ganlyniad rydym ni'n dwy fach yn hedfan adre nôl - gyda'r awyren siwr o fod bron iawn yn wag a minnau'n disgwyl upgrade go dda
Siampers ahoy!!!!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy