成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Arswyd y cloc Trafferthion y Calan Chineaidd
Beks Walters mewn trafferthion gydag arferion a hen goelion yn Hong Kong - ac yn dysgu fod cloc yn rhywbeth cwbl arswydus ac anamserol.


Kung Hei Fat Choi!!!!
Blwyddyn newydd dda Chineaidd ichi gyd!

A ninnau newydd droi'r gornel wedi Nadolig wele'r flwyddyn newydd Chineaidd ar ein pennau ni gyda rhagor o wyliau!

Dwi'n dechrau dod i hoffi'r holl ddathlu traddodiadol yma; yn enwedig gan fy mod i'n hedfan bant i ynys baradwysaidd Boracay yn y Philippenes.

Cyfnod pwysig
Mae'r lunar new year fel mae'n cael ei galw yn gyfnod pwysig iawn yng nghalendr y bobol leol fan hyn gyda'r paratoadau yn parhau wythnosau gyda'r pacedi bach cochion o'r enw lai si yn hedfan oddi ar y silffoedd.

(Rydych fel arfer yn rhoi papur deng doler yn yr amlenni i blant bach neu i bobol ifanc sydd heb briodi.

I'r gwynion sy'n byw yn HK mae'n gyfle i hedfan bant i ardaloedd eraill yn Asia am wyliau bach gan fod tridiau o wyliau cyhoeddus gyda ni yma.

.Borocay - dyma finne'n dod am haul, pina colada, llonyddwch a dim chopstick i'w weld yn unman! Nefoedd!

Arswyd y cloc
Fel un sydd wedi ymgartrefu yma ers bron i flwyddyn bellach dwi'n teimlo imi ddod i adnabod y bobol leol a'u celfyddyd yn eithaf da ac rwyf wedi dechrau meistroli ychydig o Gantonaeg ac yn bwyta dim sum bron iawn yn ddyddiol ac rwyf wrth fy modd a ffasiwn Asiaidd, celfi a defnyddiau Asiaidd er, rhaid cyfaddef, dydw i yn credu y byddai byth yn deall yr holl ofergoelion sy'n rhan mor bwysig o fywydau y Chineaid.

Cefais enghraifft berffaith o hyn yn sgil camgymeriad erchyll a dydw i ddim yn sôn am osod cadair mewn cornel anghywir a sbwylio Feng Shui ystafell.

Mae un o fy ffrindiau gorau yn Honkers o dras Chineaidd a'i magu yn Singapore. Yn ogystal â bod yn gymdogion, rydym yn ciniawa â'n gilydd ac yn mynd â'r plant i wersi nofio da'i gilydd.
Rwy'n meddwl y byd ohoni.

Ta beth yr wythnos ddiwethaf roedd ei mab ieuengaf yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf a minnau wedi bod yn pendroni am achau beth i'w brynu iddo.

Roeddwn yn awyddus cael rhywbeth i'w gofio ar gyfer ei stafell wely a phan welais gloc hyfryd gydag anifeiliaid y jyngl arno roeddwn wedi gwirioni yn llwyr. Yr anrheg.perffaith!!!!

Felly bant ag Ela a minnau i barti cyntyaf Nik yn barod am bnawn o joio.

Dychmygwch y sypreis ar fy wyneb pan edrychodd gwestai'r parti'n hurt arnaf wedi i fy ffrind agor y parsel. Heb fod yn wybod i mi cloc ydy un o'r pethau mwyaf anlwcus y gallwn fod wedi mynd ag ef i gartref Chineaidd.

. Mae iddo gysylltiad cryf a marwolaeth ac roeddwn yn ysu am i'r ddaear fy llyncu!

Beth yn y byd oeddwn i'n mynd i'w wneud nawr? Sut gallwn i ymddiheuro am y fath gamsyniad?????!!!

Diolch i'r drefn roedd fy ffrind yn deall yn iawn ac wedi iddi ddod dros y sioc cefais eglurhad llawn a mynd a'r cloc yn ôl adref da fi.

Cymaint o arferion
Mae cymaint o arferion gwahanol yn ymwneud â'r Calan Chineaidd wn i ddim lle i ddechrau.

Ta beth dwi di dysgu bod yn rhaid ysgubo'r llwch tuag at ganol y llawr tra yn cymoni fel nad wyf yn ysgubo'ch ffortiwn allan drwy'r drws.

Mae hefyd yn arferiad prynu sgidiau newydd i'r plant groesawu'r flwyddyn newydd ac mae golchi'r gwallt ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn newydd yn sicr o ddwyn anlwc; a gwell peidio a gadael y ty ar y trydydd diwrnod gan fod hynny hefyd yn achosi anlwc!

Mae'r rhestr yn ddiddiwedd a dyna pam dwi'n falch o fod mas o ma gan na bfyddai hi'n ddiogel i mi fod yn Honkers dros eu calan yn croesawu'r mwnci i'r calendr newydd a ffarwelio â'r afr.

Gan fy mod y math o berson na fyddai byth yn cerdded dan ysgol byddai ceisio deall yr holl draddodiadau yma am wythnos gyfan yn ormod o gur pen.

Kung hei Fat Choita lle byddwch chi!!!

Rwy'n gwybod yn iawn lle na fyddaf i!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy