成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks Modrwy mewn Siampên
Cychwyn cyffrous i 2004 i Beks Walters yn Hong Kong.
Wel dyna ni. Fy Nadolig cyntaf yn Honkers.
Rhyngddo chi a fi, dwi'n teimlo ychydig o wacter yn fy mywyd ar ddechrau'r flwyddyn.

Wel dyna ni. Fy Nadolig cyntaf yn Honkers.
Rhyngddo chi a fi, dwi'n teimlo ychydig o wacter yn fy mywyd ar ddechrau'r flwyddyn.
Mae'n ty ni wedi bod fel ffair ers tua mis gyda Mam ac hefyd, fam a chwaer RJ, wedi bod ar ymweliad o Gymru.

Ond nawr, mae pawb wedi'n gadael am adref a minnau'n gweld eu heisiau.

Dwi'n gwybod fy mod yn farus ac yn annheg gan mai'r Dolig yma oedd yr un gorau erioed ond dwi di dod i'r casgliad nad yw ond yn naturiol i golli pobol ar ôl treulio amser gwerthfawr yn eu cwmni.

Yn enwedig pan ydych yn byw hanner ffordd ar draws y byd.

Ta beth - mae'r atgofion sydd gennyf o'r mis diwethaf yn wefreiddiol.

Na, doedd dim golwg o eira a bwyta twrci yng nghlydwch ein cartrefi - yn hytrach, pnawn o yfed, bwyta, chwerthin a joio ar ein to fu hi a hithau'n 27 gradd celsiws!

Modrwy mewn gwydr
Ond yn y tywydd braf hyd yn oed, fe ddaeth Sion Corn a diolch i waith trefnus Mami roedd Ela Mai wedi sgwennu llythyr ato yn rhoi gwybod iddo y byddai mwy o siawns 'da'r un barfog ddod o hyd iddi yn Canton Asia eleni nag yn Canton, Caerdydd!!

Roedd Mami wedi ecseitio'n llwyr noswyl Nadolig a dyna lle'r oedden ni ar ôl dod nôl o barti yn gosod cegin fach i fyny - cadair eliffant ymhlith llwyth o bethau eraill ar gyfer yr un fach.

Roedd hi'n hanner awr wedi dau y bore arnom yn gosod y teganau newydd yn stafell Ela Mai felly gallwch ddychmygu sut siâp oedd arnom yn stwffio dau dwrci am 6.30 fore'r Nadolig ar gyfer y 12 oedd yn dod draw i ginio!!!

Mae Ela, fel arfer, fel eboles fach newydd ei geni yn y boreau yn sigledig ar ei thraed, yn edrych arnom drwy lygaid sydd braidd yn medru agor.

Felly, doedd hi ddim synod inni ei gweld yn cerdded yn syth heibio'r holl deganau a adawodd Sion Corn!!!

MwynhauErbyn tua naw roeddem yn bwyta brecwast ar y to gydag Ela ac Audrey, ei ffrind gorau, yn rhedeg o gwmpas y lle fel tylwyth teg Nadoligaidd!

Roedd gan Ela bentwr enfawr o bresantau ac erbyn iddi agor eu hanner roedd yr holl both yn ormod iddi felly fe gymeron seibiant i gael llymaid o Siampyrs!!

A dyna beth oedd llymaid!!!!
A dweud y gwir, gallai'r llymaid hwnnw fod wedi fy lladd ar fore Dolig - hynny yw, pe byddwn wedi tagu ar y fodrwy dyweddïo yng ngwaelod fy ngwydr!!!!!!

Roeddwn eisoes wedi dewis y diemwnt ond wedi cael gwybod na fyddai'r fodrwy eu hun yn barod tan o leiaf ddechrau Ionawr.

Wel, heb amheuaeth, mae'r hen ystrydeb yn wir diemwntau ydi ffrindiau gorau pob merch ac ni allwn stopio syllu i lygaid y garreg ar fy mys drwy'r dydd.

Druan o RJ, roeddwn mewn cymaint o sioc ac wedi yfed y siampên mor gyflym er mwyn rhoi'r fodrwy ar fy mys doeddwn i'n da i ddim i'w helpu gyda'r ddau dwrci yn y ffwrn.

Un peth sy'n dda mewn cael 12 o bobol ar gyfer pryd yw bod digon o bobol o gwmpas i helpu ac fe gymerodd RJ a'i ffrind Bercoed ofal o'r cig ar y barbie tra roedd y menywod yn potsian yn y gegin.

Er bod cymysgedd o bum gwlad wrth y bwrdd bwyd - ffrindiau o Seland Newydd, y Philipîn, Cymru, Korea ac Awstralia - yr un oedd chwant pawb am fwyd a mwynhau craic Nadoligaidd Honkers!!!

Hefyd, cawsom ein sbwylio gyda cheroddoriaeth Bryn Terfel a Catrin Finch yn y cefnidr.

Llai gwyllt
Bu'r cyfnod wedi'r Nadolig ddim mor wyllt - wel i RJ, fi ac Ela ta beth. Roedd y mamau, ar y llaw arall, yn eu seithfed nen yn bwrw sêls un o ganolfannau siopa mwyaf cyffrous y byd!!!!

Roedd gwaith hefyd yn galw arnaf i gyda chyfle i gyflwyno sioe radio i RTHK - (Radio Televsion Hong Kong).

Dwi di cyflwyno ar nos Galan ar Radio Cymru ers dipyn felly roedd y syniad o gyflwyno unwaith eto eleni yn apelio!!!

Y gwahaniaeth oedd fy mod yn cyflwyno ar fy mhen fy hun am bedair awr - rhwng deg y nos a dau y bore - tipyn o her!!!

Roedd y demtasiwn o ddweud, "Rydych yn gwrando ar Radio Cymru," yn fawr iawn ond diolch i'r drefn wnes i mo'r camgymeriad yna!!

Roedd hi'n braf cael cwmni Sioned, fy narpar chwaer yng nghyfraith, yn y stiwdio a chloncan yn Gymraeg rhwng lincs a dyna lle'r oeddem ni am hanner nos yn nyfnderoedd stiwdio yn Kowloon.

Pwy fase'n meddwl?

Wrth deithio tuag adref mewn tacsi tuag at ynys HK yn oriau mân y bore ni allwn beidio a dyfalu, tybed beth ddaw o 2004.

Wel - priodas yn un peth amlwg!!

Roedd 2003 yn dipyn o flwyddyn - symud i Asia, dyweddio, dechrau bywyd newydd rwy'n crefu am ychydig o normalrwydd nawr!!!

Er, dydy normal ddim fel arfer yn air sy'n gysylltiedig â fy mywyd i. Cawn weld - gallaf wastad fyw mewn gobaith!

Blwyddyn newydd dda, bawb.






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy