成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhyfeddod pen-blwydd Pen-blwydd yn bedair
Beks yn trefnu parti ar y to yn Hong Kong i dywysoges fach bedair oed

O'r diwedd daeth diwrnod mawr ein tŷ ni!
Y diwrnod yr ydym ni wedi bod yn siarad amdano ers y Dolig - Mai 4, dydd pen-blwydd Ela Mai yn bedair oed!!!

Mae'n gwbwl anhygoel faint o wahaniaeth sydd wedi bod yn yr amser "arwain lan" at y parti yma o gymharu â dathlu ei phen-blwydd yn dair.

Cefais wybod tua mis Chwefror sut ben-blwydd oedd galw amdano.

Wrth gwrs, mae pethau fel hyn yn fater o "fyw neu farw" pan ydych chi'n bedair oed, credwch chi fi.

Mae eisoes yn draddodiad inni ddathlu'r achlysur yma ar y to ac felly y bu hi eleni yn y fflat newydd.

Parti Tywysogesau a Marchogion - Princesses and Knights - ar y to!!!

Pethau wedi newid
Pan oeddwn i'n blentyn roedd mynd i ddathliad pen-blwydd yn golygu "te parti" go iawn gydag ambell gêm fel pasio'r parsel neu gofgolofnau cerdd yn y canol.

Yn naturiol, roedd yna gacen ben-blwydd a bag bach gyda darn o'r gacen ac, efallai, ambell sticer, i fynd adre.

Bois, mae'r cyfnod hwnnw wedi hen ddarfod - wel, yn HK ta beth!!!

Yn fy marn i mae byw mewn cymdeithas sydd mor ryngwladol gyda phlant o bob cwr o'r byd yn cymysgu â'i gilydd yn ddyddiol yn golygu bod chwaeth y plant mewn bwyd yn aeddfed dros ben.

Yn hytrach na brechdan jam neu gaws, creision, jeli a hufen iâ, hanfodion y wledd ydi spring rolls, crab cakes, noodles a phethau felly.

Rhaid cyfaddef fod y pethau hen ffash fel cup cakes a bisgedi yn dal i fod yr un mor boblogaidd hefyd.

Ta beth, o ganlyniad i chwaeth aeddfetach y plant mae angen cogydd arnoch chi i drefnu parti ar gyfer y 30 bach sydd fel arfer yn bresennol gyda rhiant !!!
Oes, mae angen lot o fwyd!!!

Gemau'n bwysig
Mae gemau hefyd yn "beth mawr"!
Er bod y rhai bychan yn ddigon hapus i redeg o gwmpas y to neu chwarae ar eu beiciau, bownsio ar y trampolîn, defnyddio llithren a defnyddio eu dychymyg yn chwarae Peter Pan ( y ffefryn), mamis a dadis ac ati maen nhw hefyd wrth eu boddau gyda gemau fel rhoi cynffon ar asyn a pasio'r parsel .

Ond yr un fwyaf poblogaidd ohonyn nhw i gyd ydi taro'r piñata.

Credaf mai peth Americanaidd yw'r piñata a'r arferiad yw Ilenwi eich piñata gyda losin a phawb wedyn yn cymryd eu tro i daro'r hyn sy'n hongian yn uchel lan gyda bat pêl fâs neu rywbeth tebyg.

Gan mai thema parti Ela oedd Princesses and Knights llwyddais i ddod o hyd i biñata ar ffurf castell tywysoges a chafodd Ela a minnau lawer o hwyl yn llenwi'r peth gyda phob math o losin.

Heb os, taro'r piñata oedd un o uchafbwytniau'r parti.
Fel cŵn yn hela cadno
Roedd y 30 bach yn hapus i aros eu tro i afael yn y bat cyn "mynd amdani!"

Mae'n siŵr i bob plentyn gael tua thri chyfle yr un cyn i un o'r dadis afael yn y bat a chwalu'r peth y racs - a dyna pryd ddechreuodd pethau fynd yn hollol ddwl!

Dwi erioed wedi gweld plant yn "ymosod" ar losin yn y fath fodd na phan ddisgynnodd popeth ar y llawr - sôn am fod fel cŵn yn hel cadno!

I ddweud y gwir, roeddwn yn ofni ar un adeg y byddai rhywun yn cael dolur ond diolch I'r drefn fe ddaeth pawb allan yn fyw gyda gwên fawr ar bob wyneb!!!

Chwythu'r canhwyllau
Y diweddglo ac, heb os, uchafbwynt y diwrnod i'r dywysoges fach yn ein tŷ ni oedd chwythu'r canhwyllau ar y gacen.

Ar un adeg edrychai fel petai hyn yn mynd i fod yn dipyn o jobin gan fod y to yn gwbwl agored ag erbyn diwedd y dydd mae'r gwynt yn medru cydio dipyn!

Yn naturiol, cacen Sindarela - Llyn yr Elyrch oedd dewis Ela fel y gacen berffaith ac wedi dod o hyd i'r ddol roedd bu'n rhaid adeiladu sgert sbwng o gwmpas ei chorff.

Roedd Ela wedi gwirioni'n llwyr ar y gacen binc oedd fel rhywbeth allan o ffilm dylwyth teg!

Ar ôl ceisio goleuo'r canhwyllau sawl gwaith roedd hi'n bryd i bawb ganu ag i'n tywysoges fach chwythu!!!

Chwythu'r canhwyllau - gyda mam yn y cefndirDo, bu'n barti llwyddiannus unwaith eto - er, rhaid cyfaddef roedd gen i deimlad y buaswn yn ysbyty y Matilda drannoeth yn croesawu tywysog neu dywysoges fach arall i'r teulu!

O gofio fy mod o fewn llai na mis o gael baban efallai y buasai parti yn Pizza Express wedi bod yn ddoethach o safbwynt gwaith a threfnu.

Ar y llaw arall, rhaid oedd cadw at y traddodiad ac mae gen i'n awr flwyddyn arall i atgyfnerthu!

Bydd angen y nerth arnaf hefyd gan y byddaf yn trefnu parti i ddau yr adeg honno!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy