|
|
Ymwelwyr o Gymru
Beks yn siopa gyda hen ffrindiau yn Hong Kong - ac yn rhedeg dros fynydd!
|
Mae Mawrth y cyntaf wastad yn ddyddiad pwysig yng nghalendr Cymdeithas Gymraeg Hong Kong ac roedd dydd Gŵyl Ddewi eleni yn llawn bwrlwm a digwyddiadau.
Yn hytrach na gwledd flynyddol, cawsom Noson Lawen.
Doedd gen i ddim syniad bod cymaint o dalent yn perthyn i'r gymdeithas gyda rhai yn adrodd ac eraill yn darllen ac yn canu - yn unigol ac mewn grŵp.
Powlen o gawl Rhaid cyfaddef, bu ambell i jôc sâl ond cafodd pawb bowlen o "gawl" - neu o leiaf ymdrech y Kowloon Bowling Club - nad oedd cweit cystal â rysáit fy hen nain - ac yr oedd yr ysbryd yn dda!
Mae clywed Côr Meibion Hong Kong wastad yn gwneud i mi deimlo'n hynod o hiraethus dim ond dechrau canu Mi Glywaf Dyner Lai ac rwyf yn fy nagrau!
Roedd y diwrnod hefyd yn brofiad gwahanol i'r hyn mae Ela wedi arfer ag e yn Hong Kong.
Pan oedd hi'n mynychu ei hysgol fach roedd hi bob amser yn gwisgo lan yn ei gwisg Gymreig draddodiadol ond nawr ei bod yn mynd i ysgol fawr nid yw hyn yn bosib.
Yn hytrach, cafodd wisgo lan ar ôl ysgol.
Nid oedd fawr o glem da'r bois am Ddydd Gŵyl Dewi eleni gan eu bod mor fach ond o leiaf cawsom gyfle i wisgo eu crysau rygbi Cymreig a chwrdd â ffrindiau bach eraill sy'n siarad Cymraeg.
Helpodd Joni fi i wneud pice ar y maen ond roedd mwy o gyrens arno fe nag yn y bowlen gymysgu ar un adeg!
Cyfarfod hen ffrindiau Bu mis Mawrth i gyd yn un cymdeithasol iawn ac yn gyfle i ddala lan gyda thipyn o ffrindiau sy'n digwydd bod yn ymweld â HK.
Yr ymwelydd cyntaf oedd y gantores Gwenda Owen ar ei ffordd yn ôl o Awstralia ac roedd hi'n hyfryd dala lan da hi dros de yn y Grand Hyatt.
Dwi heb weld Gwenda ers pum mlynedd felly roedd lot o waith clebran!
Edrychai'n gyfforddus iawn ac fel y rhan fwyaf o ymwelwyr wedi gwneud ei siâr o siopa deche!!!
Croesi'r ffin i siopa! Yr ail ymwelwyr oedd hen ffrindiau o'r 成人快手, Emma a Sian.
Roedd Emma wedi ymweld â HK unwaith o'r blaen ar gyfer fy hen night ond dyma ymweliad cyntaf Sian ac yn naturiol roedd y ddwy yn awyddus i weld cymaint â phosib.
Yn ogystal â siopa yn HK fe benderfynon ni groesi'r ffin i Shenzhen yn China am y diwrnod.
Mae canolfan siopa enfawr yno lle gellir prynu popeth dan haul am hanner yr hyn fuasech yn ei dalu yn Hong Kong er nad yw ond hanner awr o ganol dre.
Gall y ddwy yma siopa yn broffesiynol, fel minnau, felly fel y byddech yn dychmygu, roedd hwn yn brofiad pleserus iawn ac fe adawyd Shenzhen ar y trên gyda'n bagiau, sbectols haul, sgidiau, dillad, teganau a llawer mwy, yn dair menyw blinedig iawn!!!
Roedd hi mor braf eu gweld nhw gan fod rhywbeth arbennig iawn mewn gweld hen ffrindiau - dwi heb chwerthin cymaint ers ache!
Rhedeg a rasio Golygodd diwedd Mawrth lawer o redeg o gwmpas i mi - yn llythrennol!!!
Mae rhedeg yn rhywbeth dwi wastad wedi'i fwynhau ond wnes i erioed ffansio rhedeg ras - tan nawr!!
Mae rhedeg a cherdded yn y mynyddoedd yn beth poblogaidd iawn yn HK gan fod cymaint o'r ynys yn dir y Parc Cenedlaethol - ydy, mae Hong Kong yn wyrdd iawn er syndod - ac mae sawl ras fawr bob blwyddyn.
Ond yr un sydd wedi apelio ataf i ydy ras 15k The Mount Butler Race ac fe benderfynais fynd amdani am y tro cyntaf eleni!
Roedd y tywydd yn berffaith - rhyw 20 gradd gydag ychydig o law ysgafn.
Rhaid cyfaddef fy mod yn teimlo'n hynod o nerfus cyn dechrau ac ar adegau roedd fy nghoesau yn drwm iawn ond er syndod croesais y llinell mewn awr a hanner sy'n amser eithaf deche.
Ac roedd y teulu oll yno yn gweiddi eu cefnogaeth.
Mae rhedeg yn beth sy'n gallu gwir gydio ynddo chi ac rwy'n clywed bod ambell i aelod Radio Cymru yn rhedeg ym Marathon Llundain eleni.
Pob hwyl ichi fechgyn! Pwy a ŵyr, falle gwelai chi yno fy hun yn 2008!!!
|
|