|
|
Santa'n codi ofn!
Gyda Hong Kong yn paratoi ar gyfer y Nadolig sylweddola Beks nad pawb sy'n croesawu dyfodiad Sion Corn . . .
|
O'r diwedd dwi'n weddol 'fyw' unwaith eto!!! Wedi wythnosau o deimlo fel trychineb daeth fy egni arferol yn ôl a pheidiodd y morning sickness diarhebol. Ni allais erioed ddeall pam y penderfynwyd ei alw wrth yr enw yna gan fod y rhan fwyaf o'r menywod beichiog yr ydw i yn eu hadnabod yn rhedeg i'r tŷ bach bedair awr ar hugain y dydd!
Ta beth, mae'n braf medru bwyta'r pethau arferol unwaith eto - er fe fyddai'n gadael y chicken's feet a'r fish balls i'r bobl leol tan ar ôl mis Mehefin!
Blocbystar ar fideo Cefais sgan yr wythnos diwethaf i sicrhau fod popeth yn iawn - profiad afreal iawn gan fod y cyfan yn cael ei gadw ar VCD y gallwch ei wylio drosodd a throsodd adref.
Doedd y fath beth ddim yn bod dair blynedd yn ôl pan oeddwn i'n disgwyl Ela ond mae'n siŵr fod yr un peth ar gael ym Mhrydain hefyd erbyn hyn.
Gallwch ddychmygu ymateb Ela. "Pam fod y cyfan yn ddu o gwmpas y baban? "Edrych, mae'n symud ei fysedd. "Dwi'n gallu gwneud hynna. " A bant a hi i chwarae a'i theganau arferol.
Roedd y VCD yn fwy o smash hit neu flocbyster gyda Mam a Rod nag ydoedd gyda'r chwaer fawr!!!!!
Paratoi am y Dolig A hithau'n ddechrau Rhagfyr mae HK wedi mynd dros ben llestri yn llwyr gyda pharatoadau Nadolig!!!
Os mynd amdani yna mynd amdani ac fel arfer mae'n rhaid i HK ddangos i'r byd sut mae gwneud pethau orau.
Yn y winterfest arferol yng nghanol y dre mae coeden Nadolig dros 35 metr.
Mae 'tref Santa', wedyn, yn denu cannoedd ar gannoedd o dwristiaid ddydd a nos.
Un peth sydd wastad wedi fy synnu i yw mor hoff yw'r Chineaid, yn blant ac yn oedolion, o gael tynnu eu lluniau gyda choed Dolig a Sion Corn er nad ydyn nhw eu hunain yn dathlu'r ŵyl.
Santa yn codi braw Perthynas o garu a chasáu fu un Ela a Sion Corn erioed.
Roeddwn i wastad o'r farn fod hon yn berthynas a fyddai'n gwella wrth iddi fynd yn hŷn a chyda chymaint o sôn wedi bod am Sion Corn yn ein tŷ ni ers rhai wythnosau a'r teganau meddal o Sion a Sian Corn mor boblogaidd, doeddwn i ddim yn disgwyl unrhyw broblemau eleni - hynny yw, nes inni fynd i ffair Ddolig dros y penwythnos!!!!
Yng ngwres gaeafol HK eisteddwn gyda ffrindiau mewn caffi y tu allan i'r ffair enfawr pan ddaeth y Sion Corn talaf a welais erioed rownd y gornel.
Roedd tua naw troedfedd o daldra ond yn edrych yn debycach i un o'r weebles roedden ni'n chware â hwy pan oeddwn i'n fach!!!!
A'r lle yn orlawn, roedd y rhan fwyaf o'r rhai bach wedi gwirioni'n llwyr o weld Sion Corn yn y cnawd - tal neu beidio.
Ar wahân i un ferch fach!
O fewn eiliadau llifodd pob tamaid o liw o wyneb Ela gan wneud i bili pala a beintiwyd ar ei hwyneb edrych fel clais enfawr drwy'r dagrau.
Crynu a llefain Neidiodd i fy nghol yn crynu a llefain y glaw. Bu'n rhaid imi ei chario hi ar redeg i siop gyfagos a disgwyl nes bo Sion Corn wedi mynd am adre!!!
Druan ohoni - Duw a ŵyr beth ddigwydd rhwng nawr a'r Dolig gyda chymaint o Sion Cyrn o gwmpas.
Y gêm newydd fydd, Sut mae osgoi Sion Corn?
|
|