成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ela, Beks a JJ Babi newydd
Mae JJ y babi newydd wedi cyrraedd cartref Beks yn Hong Kong

Maddeuwch fy absenoldeb dros y mis diwethaf ond trowyd byd teulu'r James ben ei waered ers dyfodiad "y dyn bach mawr!"

Wedi'r hir ymaros a'r enedigaeth ddramatig - fydde chi'n disgwyl dim llai wrth gwrs - mae Joni Teifi James wedi cyrraedd yn saff ac mae e nawr bron yn fis oed!

Fe'i ganwyd ar Fehefin 11 yn ysbyty Matilda, Hong Kong.

Fel yr oeddem ni'n tybio wedi wythnos o fynd dros y dyddiad penodedig bu'n rhaid imi gael fy 'nghymell' gan nad oedd unrhyw sôn fod y dyn bach am ymddangos ohono'i hun - tebyg i'w dad, roedd yn hapus i ymlacio a'i chymryd hi'n braf!!!

Ta beth, wedi un awr ar bymtheg o wewyr esgor, bu'n rhaid wrth emergency c- section i roi genedigaeth i Joni Teifi oedd yn pwyso 4.5kg neu 10 pwys.

Wompyn o faban da llond pen o wallt du!
Cariad.

Y gwesty ar y bryn
Mae'r chwe noson o aros yn y Matilda yn teimlo fel blynyddoedd yn ôl nawr ond roedd yn brofiad bendigedig bod yno yn gwella wedi'r llawdriniaeth a chlosio at JJ.

Daw'r rhan fwyaf o'r bydwragedd o Singapore, Indonesia a Hong Kong ei hun ac yr oedd yn amlwg yn syth fod ganddynt allu greddfol i ofalu am bobl.

Brawd bach newyddRoedd fy mydwraig i, Angie, yn angel a theimlwn yn chwithig dros ben yn ffarwelio â hi cyn troi am adref.

Mae'r ysbyty ar dir uchaf yr ynys gyda golygfeydd rhyfeddol o ynys HK. Mae'n cael ei alw "the hotel on the hill" gan ei fod yn lle mor hyfryd.

Roedd gen i falconi i mi fy hun ger fy stafell preifat. Sôn am driniaeth pum seren!

Gan inni gael tywydd teiffŵn gyda glaw ofnadwy gydol mis Mehefin dim ond unwaith, yn anffodus, y cefais i'r pleser o eistedd ar gadair esmwyth i fwynhau'r golygfeydd gyda'r babi.

Tro nesa, byddaf yn ceisio amseru pethau'n well - hynny yw, os bydd tro nesa!

Wedi gwirioni
Fel gallwch ddychmygu, mae Dad wedi gwirioni'n llwyr gyda'i fab deg pwys a dwi'n credu bod y deigryn yna oedd yn ei lygaid pan welodd Joni am y tro cyntaf yn dal i fod yna!

Y tad hapusYn amlwg, mae gobeithion mawr gyda ni y bydd i'r bychan yrfa fel chwaraewr rygbi i Gymru!

Mae'r corff ganddo ac ar ben hynny fe'i ganwyd yn 2005 - blwyddyn y Gamp Lawn.

Ydym, rydym ni'n gredwyr mawr mewn ffawd yn ein tŷ ni!

A sôn am ffawd, mae JJ (fel rydym ni'n ei alw) wedi ei eni hefyd ym mlwyddyn y ceiliog yn ôl y calendr Chineaidd sy'n golygu y bydd e'n gymeriad gyda chweched synnwyr, yn weithiwr caled, yn dweud ei feddwl ac yn greadur extravagant iawn!

Tybed, pwy mae e'n ddilyn fan yna te??!!

Cyn belled nad yw e'n gwario ei arian i gyd ac yn cadw ychydig i ofalu am ei fam yn ei henoed!!

Ffrindiau da
Mae'r ffaith nad oes gennym deulu agos yn Honkers yn golled fawr ar adegau fel hyn ond bu ein ffrindiau yn anhygoel o gefnogol ym mhob ffordd gan brofi fod y ffrindiau rydych chi'n wneud oddi cartref yn medru bod bron mor agos â theulu.

Cawsom ein sbwylio'n llwyr ac mae Ela Mai wedi derbyn bron iawn yn un faint o anrhegion a JJ!

Ac mae'r "chwaer fawr" wedi ymateb yn anhygoel i'w brawd bach a gallaf ddweud a fy llaw ar fy nghalon na fu owns o eiddigedd.

Mae wrth ei bodd yn helpu Mam i newid clytiau, rhoi bath iddo ac yn y blaen.

Croeso adref
Pan dychwelodd y ddau ohonom o'r ysbyty roedd hi wedi gwneud posteri "croeso adref" a pharatoi te parti gyda balŵns a chacen siocled!

Dyna beth oedd croeso anhygoel.



Myfi sy'n magu'r babiYn amlwg mae baban newydd yn trawsnewid eich byd am gyfnod.

Gall y diffyg cwsg fod yn anodd ar adegau ond mae'r pleser o gael "bwndel" sy'n medru rhoi gwên ar eich wyneb dim ots pa adeg o'r dydd neu'r nos yw hi yn brofiad gwefreiddiol.

Mae JJ yn datblygu'n ddyddiol gan fod ar ddihun am gyfnodau hirach.

Mae hefyd yn dechrau ymateb i'n lleisiau.

Dwi di mwynhau y mis cyntaf o fywyd Joni yn fawr iawn ac os bydd y misoedd a'r blynyddoedd nesaf unrhyw beth tebyg byddaf yn fam hapus iawn!!!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy