成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Diwrnod y briodas
Beks Walters - gynt, ond James yn awr, yn sgrifennu o Hong Kong am ei phriodas yn y lle harddaf yn y byd.


Helo oddi wrth Mrs. James!
Maddeuwch fy absenoldeb dros y chwech wythnos ddiwethaf ond rwyf wedi bod yn eithaf bishi yn gwneud pethau fel ... priodi!

Wedi'r holl fisoedd o baratoi a'r cynnwrf mawr bu'r diwrnod mawr yn un aruthrol.

Gallaf ddweud a'm llaw ar fy nghalon nad wyf wedi joio diwrnod cystal yn fy mywyd - ac rwy'n credu gallaf fod mor hyf a dweud fod fy ngŵr, Rod, yn teimlo'r un fath!

Heulwen, milltiroedd o awyr las, dolffiniaid yn llamu yn y môr a symlrwydd eglwys fach wen - eglwys Mwnt.

Ddim rhyfedd i T. Llew Jones gyfansoddi cerdd amdani!
Hyn oll ar ddiwrnod eich priodas.

Pe byddwn i wedi bod ar fy ngliniau'n gweddïo am ddiwrnod gwell, ni allai neb 'lan fana' fod wedi trefnu gwell. Diolch!

Nerfau yn racs
Yn unol â thraddodiad ni welais Rod y noson cyn y briodas ac arhosais yn nhŷ fy mam tra'i fod ef yn ei gartref yntau.

Roedd hi'n noson i'r bois ac yn noson i'r merched gyda'r merched mewn tafarn yng Nghastellnewydd Emlyn a'r bois yn Y Porth yn Llandysul.

A dweud y gwir, roedd fy nerfau yn racs - nes imi gael diferyn neu ddau o'r ddiod ddrwg - whisgi!

Roedd hi mor braf gweld hen ffrindiau o'r 成人快手, Caerdydd a Llundain yn ogystal â'r rheini a deithiodd o Asia..

Wedi diwrnod o redeg o gwmpas Mwnt yn paratoi y marcî a chlebran yn ddiball gyda ffrindiau, cysgais fel baban - ond dim ond am rhyw bedair awr gan fod yr adrenalin yn ffrydio drwy nghorff!

Erbyn saith y bore roedd pawb ar ddihun ac fel y gog yn nhŷ fy mam. Fi, Mam, Lowri, Ela a phlant Lowri, Beca a Joni.

Dychmygwch y bwrlwm
Gallwch ddychmygu'r bwrlwm , yn enwedig ar ôl i Sioned fy chwaer yng nghyfraith a Nest, fy mam yng nghyfraith, gyrraedd!

Bum yn dyfalu ers hydoedd sut y buaswn yn teimlo ar y diwrnod mawr ond rhaid imi gyfaddef fy mod, ar ôl gwisgo fy ffrog a gweld pawb arall yn eu dillad, yn ysu am y seremoni.

Roedd y merched bach wrth eu boddau yn eu "dillad tywysoges!' a Joni fel tywysog bach.

Roedd 'y merched mawr' ar y llaw arall yn llawn direidi a drygioni a bu bron iddyn nhw anghofio eu blodau yn y tŷ.

Cawsom ein cludo mewn car o Gastellnewydd i'r Mwnt.

Roedd traffig yr haf yn ddifrifol gyda thwristiaid diri ar yr heol fach sy'n eich cludo lawr at y lleoliad hudolus.

Ac oeddwn, roeddwn yn hwyr iawn! Hanner awr yn hwyr! Ac heb yn wybod i mi roedd ein gwestai priodas yn cloncan fflat owt ac yn yfed dŵr yn yr eglwys grasboeth.

Ond dyna fe - dyna fraint ac anrhydedd priodferch !

Car a cheffyl
Ta beth, fe'm cludwyd i, Beca ac Ela gan gar a cheffyl ychydig o'r ffordd lawr at yr eglwys a bois, doeddwn i erioed wedi teimlo mor nerfus.

Roedd yr holl brofiad o fod ar gar ceffyl yn gwbwl hudolus a gallwn weld torf o flaen yr eglwys fach yn y pellter. Ac wrth inni nesau a gweld wynebau ffrindiau, roedd hi'n anodd dal y dagrau'n ôl.

Y diwrnod gorau erioedLowri fy chwaer wnaeth fy nghyflwyno ac wrth gerdded at yr allor bach i gyfeiliant Catrin y delynores yn chwarae Llety'r Bugail ceisiwn ddychmygu sut yr oedd Rod yn teimlo.

A oedd o yr un mor nerfus â mi?

Ond yr eiliad yr oedd y ddau ohonom gerbron yr offeiriad ger yr allor diflannodd y nerfau. Roeddwn yn sâff . Roedd fy narpar ŵr yno gyda mi a dyna'r peth pwysicaf yn y byd.

Diflannodd pawb arall!

Roedd y gwasanaeth yn ddwyieithog a'r holl ysbryd yn hwyliog gyda lot a chwerthin, canmol, canu a sbort.

Mwynheais bob eiliad ac hyd y gwn i fe wnaeth pawb arall hrfyd.

Roedd y babell mewn cae ger yr eglwys a chan fod y tywydd mor braf roedd pawb yn hapus o gael siampers a chanapes yn yr heulwen boeth tra'n mwynhau yr hyn yr ydw i'n ei ystyried yn un olygfeydd harddaf y byd - arfordir Sir Aberteifi.

Lle'n byd harddach
Er fy mod yn ferch lwcus iawn - yn deffro bob bore yng ngolwg môr de China - does dim yn cymharu â'r hyn a welwn yng ngorllewin Cymru.

Roeddwn mor browd bod yn Gymraes y diwrnod hwn!

A ninnau'n byw yn Asia roedd hi'n braf hefyd, cael blas Asiaidd i bethau o ran blodau, bwyd, addurniadau bwrdd ac ati a'r arogleuon yn y marcî fel bod mewn marchnad flodau yn Hong Kong. Y cyfanl wedi'u hedfan o Asia a'r lliwiau pinc trawiadol yn wledd i'r llygaid.

Llawn rhamant
Roedd y diwrnod i gyd yn llawn rhamant ac fe wnes lefain llawer ...a phawb arall hefyd - fy ngŵr, y teulu, ffrindiau.

Ni theimlais i erioed gymaint o hapusrwydd ac o edrych ar luniau'r briodas nawr mae hynny'n gwbl amlwg ar ein hwynebau.

Rwyf wedi cwrdd a fy ffrind gorau a chariad yn un.
Mae'r Ying a'r Yang yn gwbwl gyflawn.






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy