成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Yn oerach nag erioed!
Dwi nawr yn gallu deall sut oedd hi ar y bobol hynny oedd yn byw yn ystod cyfnod o ddogni - rationing, hynny yw, meddai Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong.


Dwi nawr yn gallu deall sut oedd hi ar y bobol hynny oedd yn byw yn ystod cyfnod o ddogni - rationing

Falle mod i'n gorddweud mymryn bach ond unwaith eto mae bywyd yn HK wedi bod yn ddrama!

Roedd cyrraedd nôl a throedio concrid oer HK wedi tywod poeth Borocay yn dipyn o sioc a dweud y lleiaf.

Mae'r Calan Chineaidd bob amser yn adeg digon oer yn gyfnod oeraf y flwyddyn, yn wir - ond eleni bu'r cyfnod hiraf erioed o oerni yn ôl yr HK Observatory.

Edrych fel hen nain!
Felly, wedi deng niwrnod mewn bicinis roeddwn yn mynd i'r gwely yn edrych fel hen nain, yn gwisgo dillad loncian heb sôn am ddau gwilt ar y gwely.

Mae naw gradd selsiws fel bod yn yr antartig i'r bobol leol sy'n mwynhau tymheredd sy'n amrywio o bleserus i dwym am un mis ar ddeg o'r flwyddyn!

Unwaith mae hi'n dechrau oeri gallech feddwl eich bod yn cerdded drwy'r Sgwâr Coch ganol gaeaf gyda'r dillad cynnes i gyd yn dod mas o gefn y cwpwrdd am bythefnos: menig, cotiau ffwr, hetiau gwlân, sgarffiau.

Fyddai dim gobaith caneri da'r bois hyn orfod treulio'r gaeaf yng Nghaernarfon!!!

Yn dipyn o fabi
A rhaid imi gyfaddef i minnau fod yn dipyn o fabi yn cwyno am naw gradd selsiws a minnau wedi byw 30 mlynedd ym Mhrydain.

Ond wedi dweud hynny roedd na wahaniaeth y tro yma:
un o'r pethau yr oeddem yn dibynnu mwy na dim arno yng Nghymru yn y gaeaf - heblaw am fy Pashimnas fflyddlon - oedd gwres canolog.

Ac roeddwn innau y math o berson a fyddai'n cadw'r gwres ymlaen o fore gwyn tan nos bob dydd o'r wythnos.

Wrth gwrs, does mo'r dewis hwn yn HK gan nad oes gwres canolog yn y tai.

Mae gan rai pobol gefnog yr hyn maen nhw'n alw yn reverse cycle sy'n chwythu gwynt poeth o'r peiriant air côn.

Yn anffodus, dydyn ni ddim ymhlith y breintiedig rai!

Teipio mewn menig!
Wedi deuddydd o fod yn y swyddfa mewn menig tra'n pwnio'r cyfrifiadur ac yn gwylio'r teledu wedi'm lapio mewn carthen Gymreig ac yn yfed galwyni o siocled poeth fe benderfynais; digon yw digon.

Dim ond un ateb oedd yna: prynu gwresogydd i wneud y deng niwrnod nesaf yn oddefol.

Felly, bant a fi un bore Sul oer i siop Fortress yng nghanol y dref.

Siop sy'n gwerthu popeth trydan dan haul ydi hon a gallech gredu fod hanner Honkers wedi cael yr un syniad â mi - ac wedi'i gael tra'r oeddem ni yn gorweddian yng ngwres yn y Philippines.

Beth bynnag, doedd dim gwresogydd o unrhyw fath ar ôl!

A'r un oedd yr ateb yn siopau eraill yr ynys.

A chan fy mod yn barod i fynd i bellafoedd byd i chwilio am wres erbyn hyn - beth am y New Territories? Siom eto gyda'r wybodaeth nad oeddan nhw'n disgwyl stoc newydd yn yr un o siopau Fortress am o leiaf fis.

Felly, bant a fi adref a chadw fy ngôt amdanaf yn y fflat drwy'r dydd.

Yfed gwinoedd mewn cotiau mawr
Roedd hefyd yn brofiad rhyfedd mynd i dai ffrindiau am swper neu barti achos am y tro cyntaf gwelais ffrindiau mewn llewisau hiron a chotiau tra'n yfed gwin cynnes!!!

Pan gefais wahoddiad i barti yn nhy un o'r ffodusion a lwyddodd i gael gafael mewn gwresogydd roeddwn yn fy seithfed nen a chefais dipyn o job symud fy mhen ôl or gwres i fwyta fy nghawl winwns Ffrengig!

A hithau, bellach, yn 27 gradd selsiws prin y gallaf gredu'r gwahaniaeth gan ein bod ni nawr, bant ar y traeth am y tro cyntaf yn '04.

Ein barbi cyntaf
Byddl ein barbi cyntaf ar y to heno ac mae'r fflat yn teimlo fel adref unwaith eto yn gynnes, braf.

Erbyn hyn, rwyf wedi bod dros flwyddyn yn byw yn Hong Kong ac yn sicr wedi dysgu fy ngwers bwysicaf - prynu gwresogydd pan fyddai'n ôl yng Nghymru ganol yr haf ar gyfer y briodas.

Dwi ishe bod yn berson hapus a chynnes dros y Calan Chineaidd yn 2005!

Beth sy'n digwydd eich rhan chi o'r byd?
Cliciwch i anfon ebost




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy