成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Duran duran Duran Duran - a wynebu Wal China
Beks yn sgrifennus o Hong Kong

Rhaid cyfaddef, er fy mod nawr hanner ffordd drwy fy nhridegau mae ambell i seren bop ac actor o fy mhlentyndod yn dal i wneud i'm calon guro yn gyflym iawn!!

Cefais gyfle i wireddu hen ddymuniadau yn ddiweddar pan ymwelodd un o fy arwyr â Hong kong - Simon Le Bon a Duran Duran!!!!

Sôn am fod yn 15 eto!

Pan gadarnhaodd y wasg fod un o supergroups yr Wythdegau yn dod i Hong Kong am un noson yn unig roedd fy ffôn a'm e- bost ar dân!

Duran duran Roedd pob menyw - ac ambell ddyn eisiau gweld y band ac ail fyw'r teimlad yna o ddawnsio o gwmpas y stafell wely gyda sychwr gwallt yn un llaw yn canu Girls On Film tra'n syllu i fyw llygaid poster Simon ar fy nghwpwrdd dillad!

Tra'n paratoi yn fy stafell wely yn HK noson y cyngerdd ni allwn ond dyfalu sut oedden nhw'n teimlo i fod yma.

Ble oedden nhw'n aros?
Beth oedd eu disgwyliadau?
Sut oedden nhw wedi newid?

Yn amlwg, roedd pawb bownd o fod wedi heneiddio - ond heneiddio mewn ffordd da?! Roeddwn i'n ysu i'w gweld!!!

Profiad rhanantus
Yn Kowloon roedd y cyngerdd nid ar ynys HK ei hun ond pa wahaniaeth am hynny gan fod hwylio ar y Star Ferry bob amser yn brofiad rhamantus hyd yn oed heb fod yn teithio i weld yr eilunod hyn!

Roedd yr arena yn Kowoloon dan ei sang - rhai yn gwisgo dillad yr Wythdeagu a'r rhan fwyaf yn eu tri a'u pedwar degau ac fel minnau wedi tyfu lan yn gwrando ar hits mawr y bois.

Ac ni siomwyd neb!

O'r eiliad cerddon nhw ar y llwyfan daeth yn amlwg eu bod nhw'n dal i fwynhau pob eiliad.

Agorwyd y noson gyda thrac o'r albwm newydd Red Carpet Massacare. Yna daeth y ffefrynnau un ar ôl y llall - Hungry Like the Wolf, The Reflex, Wild Boys, Notorious, Save a Prayer ...

Er iddi ymddangos yn debycach i Glastonbury nag i Hong Kong gyda glaw difrifol doedd dim amheuaeth o gwbl fod y dorf yn mwynhau pob eiliad.

Roedd Simon Le Bon yn showman o'r cychwyn i'r diwedd, yn siarad dipyn da'r dorf ac yn gloi i ddweud bod yr hyn roedd e'n ei wynebu - skyline Hong Kong - yn un o'r pethau greodd yr argraff fwyaf erioed arno mewn cyngerdd ac yn dipyn mwy trawiadol na chefndir eu llwyfan nhw.

Uchafbwynt y noson
Ar y cyfan, roedd pawb wedi heneiddio dipyn ond wi'n credu fod hwn yn fwy amlwg nawr gan eu bod yn perfformio gyda llai o golur nag yr oedden nhw - yn enwedig Nick Rhodes!

Uchafbwynt y noson heb os oedd Rio - sef finale y band!

Hon oedd y dorf wedi bod yn aros amdani drwy'r nos ac roedd ei chadw tan y foment olaf yn wyrth!!

Sut gellid gorffen gydag unrhyw gân arall?

Tra yn teithio'n ôl i ynys HK y noson honno teimlwn fy mod ishe i'r noson barhau am oes a minnau'n teimlo tua 16 eto - prin gallai gredu y bydd Ela yn mynd i gyngherddau tebyg mewn rhai blynyddoedd!

Diolch am ddod i HK am noson fechgyn gan ein bod yn aml yn cael ein anghofio gan y bandiau mawr wrth iddyn nhw fwrw Bangkok a Singapore .

Paratoi i wynebu'r Wal Fawr
Bu Ebrill yn fis o ymdrech a minnau'n paratoi ar gyfer rhedeg hanner marathon ar Wal Fawr China!!!

Rhedais un hanner marathon yn bariod ond pan glywais am y ras hon doedd ond un peth amdani - trefnu trip i Beijing a mynd amdani!

Bu'r gwaith ymarfer yn gwbwl wahanol i ymarfer arferol ar gyfer rhedeg ar heol wastad gan fod y wal yn mynd i fod yn daith anodd gyda milltiroedd o risiau serth yn hytrach na wyneb gwastad.

Bwrw'r mynyddoedd
Felly, dwi di bod yn bwrw'r mynyddoedd am gwpwl o oriau tua phedair gwaith yr wythnos yn y gobaith o ennill nerth yn y coesau.

Dwi erioed wedi ymweld â'r "Wal" na Beijing o'r blaen a dwi'n credu y bydd ymweld â'r ddinas nawr - cyn yr Olympics - yn brofiad gwerthfawr ac rwy'n gobeithio y bydd gennyf atgofion anhygoel am fy nhaith gyntaf i Beijing.

Ond yn y cyfamser ... mwy o redeg!!!!






cysylltiadau


asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy