I gofnodi ein colled ddirfawr fe hoffem i'r paragraff agoriadol hwn fod y gorau a fu erioed yn Y Ffynnon. 'Fydd o ddim. Mae'r sawl a fedrai sgwennu hwnnw wedi'n gadael.Brawddegau cyntaf y cofnod am farwolaeth Wheldon, y pen beiciwr gynt, yw'r top lein o hyd. Fe'i cofiwch mae'n siwr: "Mae'n gynnes heddiw a'r haul yn tywynnu ar Blas Newydd, Cricieth 'ond mae rhywbeth o'i le yn y dref:' Does yna fawr ddim i'w glywed ond sibrwd swil ambell dderyn bach. Mae'r Mansel mawr a'r moto bach wedi tewi a'r cyrn yn fud am fod y gadair wen yn wag a'r saliwt wedi diflannu. Anodd braidd yw dygymod"
William Samuel, wrth gwrs, a ysgrifennodd y geiriau ac anodd hefyd yw dygymod a'i ymadawiad yntau. Bydd yn chwith garw i'r Ffynnon hebddo. Fel popeth Cymraeg, roedd 'yr hen bapur bach' yn agos iawn at ei galon. Ni bu neb ffyddlonach i'r Ffynnon o'r dechrau un ym Mehefin 1976. W.S. oedd un o'r sefydlwyr brwdfrydig, y mwyaf brwdfrydig, siwr o fod, a pharhaodd yn symbyliad i bawb a fu wrthi yn ymhel 芒'r papur ar hyd y blynyddoedd.
Bu'n un o'r golygyddion am gyfnod a'i ddewis o benawdau yn ogleisiol yn arni. Cofiwn, er enghraifft, am 'Ta, Ta, Tabor' pan ddymchwelwyd capel yr Annibynwyr ym Mhentrefelin a 'Sawl C sydd yn Caccwn?' adeg yr anghydwelediad am ddwy C fondigrybwyll rhwng Y Ffynnon a Chyngor Tref Cricieth.
Ysgrifennodd straeon yn gyson am bobl y fro, yn 'wreng a bonedd,' chwedl ei arwyddion i wahaniaethu rhwng y safon yn ei bympiau petrol yn y Crown erstalwm. Yn bobl, roedd pawb ar yr un tir i W.S. Manylodd am geir a motobeics wrth reswm ac am eu perchnogion a'u rhifau cofrestru a gofiai wrth y dwsinau. ac ef hefyd a sefydlodd Glwb Beicio'r Ffynnon i gymowta ar hyd ceimffyrdd Eifionydd, a thu hwnt, ar brynhawn Sadyrnau.
Bu'n hel pentyrrau o hysbysebion ar gyfer rhifynnau Nadolig. A phentyrrau yw'r gair gan na fyddai neb byth yn ei wrthod.
Gorchwyl arall a gyflawnai yn ddeddfol bob mis Medi am flynyddoedd oedd mynd rownd ysgolion y fro i dynnu lluniau y newydd-ddyfodiaid. Ei gydymaith ar yr anturiaethau hyn fyddai y diweddar Dafydd Lloyd Roberts, Cricieth, y naill yn tynnu a'r Hall yn cofnodi'r enwau.
Yr unig beth nad oedd yn fodlon ymhel ag o oedd y gosod, sef glynu'r stribedi teipiedig ar garbord ar gyfer yr argraffwyr. Yn wahanol i'w frawd, Elis Gwyn, twmffat., medda fo, oedd yr unig beth y gwnaeth lun ohono erioed - ac roedd hynny yn ddigon o brawf na feddai ar fysedd digon hyblyg i drin Letraset a gosod pethau'n syth - medda fo eto!
Hyd ei waeledd yn ddiweddar gallech gyfri ar un llaw, mae'n si诺r, sawl tro y collodd o bwyllgor Y Ffynnon mewn deng mlynedd ar hugain, - a chyda llaw, a chwarae teg, Dora ei briod yn amlach na pheidio fyddai'r unig un o blith 'y cyhoedd' a ddeuai i'r cyfarfodydd blynyddol hefyd.
Bu Wil Sam farw ar nos Iau 15 Tachwedd yn 87 oed a bu'r angladd echdoe, ddydd Mercher, yng nghapel Moriah a mynwent newydd Llanystumdwy.
Cydymdeimlwn yn fawr 芒 Mrs Dora Jones, a Mair ac Elin a'u teuluoedd.
Dyfed Evans