Trefnwyd y ddarlith gan Gyfeillion Amgueddfa Lloyd George - cymdeithas sy'n trefnu darlithoedd yn Llanystumdwy.
Yn yr Amgueddfa y byddant yn cyfarfod fel arfer, ond gan eu bod yn amau y byddai ffigwr cenedlaethol fel Ffion Hague, sy'n hanu o Gaerdydd, yn denu cynulleidfa ehangach, penderfynwyd cynnal cyfarfod cynta'r tymor yn Neuadd y Pentref.
Bu'r ff么n yn wynias yn ystod y pythefnos yn arwain at y ddarlith, felly aethpwyd ati i ail-leoli am yr eildro - y tro hwn i Gapel Moreia.
A'r capel dan ei sang, croesawyd y wraig wadd gan Emrys Williams, Cadeirydd y Cyfeillion, a thraddododd Ffion Hague ddarlith hynod hwyliog a difyr am y merched fu'n ddylanwad ar fywyd y cyn-Brif Weinidog: Betsy, ei fam; Margaret Owen, ei wraig; Frances Stephenson, ei feistres; a Mair, Olwen a Megan, ei ferched.
Dyfyniad gan Ann Parry, ei howsgipar, a fenthycwyd yn deitl i'r llyfr.
Oedd, roedd cynnal perthynas agos a Lloyd George yn "boen ac yn fraint": yn sgil ei enwogrwydd, deuai statws a moethusrwydd - ond am bris, o gofio ei enw drwg fel arch-ferchetwr.
Rhesymau personol a ysgogodd Ffion i fynd i'r afael a phwnc y llyfr.
Fel Margaret, mae hi'n Gymraes Gymraeg sy'n briod a gwleidydd (William Hague,
cyn-arweinydd y Ceidwadwyr); ac fel Frances, cafodd gipolwg breintiedig tu 么l i'r llenni gwleidyddol, yn rhinwedd ei swydd yn Ysgrifennydd Personol i wleidydd amlwg.
Treuliodd dair blynedd yn ymchwilio ac ysgrifennu'r llyfr; chwe mis o'r cyfnod hwnnw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn pori trwy fynyddoedd o lythyrau personol o eiddo Lloyd George, Margaret a Frances. Yn oes y ff么n, yr e-bost a'r neges destun, mae'n debyg na fydd yr un dystiolaeth ar gael i awduron y dyfodol.
Mae'n anodd i ni, sy'n byw yng nghyfnod datguddiadol papurau'r gwter, ddirnad sut ar wyneb daear y llwyddodd Lloyd George i gynnal perthynas odinebus a Frances (ymysg eraill) am gyfnod o 30 mlynedd, heb gael ei ddarnio'n gyhoeddus a'i erlid o'i swydd.
Ond, dyna gonfensiwn y dydd - rhoddodd barwniaid y wasg rwydd hynt i ddynion o statws ymddwyn fel hyn, ar yr amod eu bod yn cadw draw o'r llysoedd ysgariad.
Rhwng cloriau'r llyfr, hefyd, cawn gipolwg ar fywyd yn Llanystumdwy gan mlynedd a mwy yn 么l; down i ddeall maint aberth y teulu 么ll wrth feithrin gyrfa Lloyd George, a'i gynnal yn Stryd Downing; a chawn gyfle i amgyffred holl ddoniau a dyfeisgarwch y 'Dewin' ei hun.
Diolchwyd i Ffion Hague gan Philip George (W欧r i William, brawd Lloyd George), a pharatowyd lluniaeth ysgafn, yn ogystal a chyfle i'r awdures lofnodi cop茂au o'r llyfr, yn y Neuadd ar ddiwedd y noson
. Os oes awydd stori ddifyr a gafaelgar arnoch, mynnwch gopi o'r llyfr - mae pob un o'r 553 tudalen yn werth ei ddarllen.