'Does mo'i thebyg yn unman yng Nghymru na'r Alban nac Iwerddon. Yn wir, nid oes ond un 'lori arall o'i bath yng ngwledydd Prydain benbaladr. Yn Nyfnaint mae'r llall. Yr hyn a'i gwna yn arbennig yw fod arni offer i dorri tyfiant ar ochrau'r ffyrdd, gyda b么n y cloddiau, fel y gwn芒i hen lengthmyn y Cyngor Sir erstalwm efo rhaw. Gwnaed y lori ei hun yn Sweden, y brwsus a'r sugnwr baw yn Dorking, Swydd Surrey a'r gyllell gron i dorri'r tyfiant yn Denmarc. Mae'n dal saith tunnell yn ei chrombil. Gweld fod mawr angen cymhennu ochrau'r ffyrdd a wnaeth Meurig - fel pawb ohonom, bid si诺r - a mentro prynu'r lori fel y gallai gynnig gwasanaeth i gynghorau sir neu stadau preifat. Gyda dyfodiad y Scania newydd y mae ym Melin Plas Du wyth o lor茂au yn awr a chyflogir yno un-ar-ddeg o weithwyr. Gwelir y lor茂au yn cario sgipiau ac yn sgubo a thrwsio ffyrdd draw am ochrau Caer a Chaergybi ac i lawr am Dywyn, Meirionnydd. Pan welwch y lori newydd byddwch yn si诺r o'i hadnabod ar drawiad. Mae llun Draig Goch fawr yn dal brws ar ei hochr, ac mae arwyddocad hefyd i'r rhif cofrestredig. M.OJ. rhywbeth neu'i gilydd yw rhifau amryw byd o gerbydau Melin Plas Du, ond 'adlewyrchu enw'r busnes "Williams a Williams" a wna WM5 4 WMS. Tri mab Meurig ac Angela sydd yn y llun.
|