Am ddeng mlynedd ar hugain y mae Mrs Eirian Hughes wedi mwynhau ei rhan yn paratoi plant Ysgol Garndolbenmaen ar gyfer eu cyngerdd Nadolig. Gofalu am y gwisgoedd gyda chymorth y rhieni, a chael y plant i ddysgu'r geiriau fu ei chyfraniad pennaf.
Y flwyddyn nesaf, fodd bynnag, edrych ymlaen am wahoddiad i'r cyngerdd y bydd hi. Mae'n ymddeol yn gynnar y Nadolig hwn i gael rhagor o amser hamdden.
Ar wahan i wn卯o, un o'i phrif ddiddordebau yw cerdded ac mae'n
ystyried ymuno a Chymdeithas Edward Llwyd gan fod hynny'n ffordd dda i gymdeithasu, a cherdded mewn criw yn ddiogelach bid si诺r. Efallai y try at chwarae golff hefyd ond nid mor amI 芒'i g诺r! Nigel Hughes, y ffotograffydd, yw hwnnw.
Un o genod Porthmadog yw Eirian Hughes. Ar 么l ei chymhwyso ei hun yn athrawes yn y Coleg Normal bu'n dysgu am gyfnod byr yn Lerpwl ac wedyn yn Henryd, Dyffryn Conwy cyn dychwelyd i Eifionydd, i Ysgol y Garn, ar 么l priodi.
Yn ystod ei chyfnod yn athrawes gwelodd newidiadau sylweddol ym myd addysg - a'r peth mwyaf cyson fu'r newid cyson, meddai hi.
Bydd chwith garw ganddi golli'r hen blant. Dyna un rheswm pam y gobeithia gael gwahoddiad i gyngherddau Nadolig y dyfodol. Bydd rhai o'i chyn ddisgyblion yn dal yn yr ysgol am rai
blynyddoedd eto.
Ei holynydd y tymor nesaf fydd Mrs Gwenno Sian Jones, sy'n hannu o Abergele, ond yn byw bellach yn Crugan,
Llanbedrog. Mae hi wedi bod yn athrawes dros dro yn y Garn ers mis Medi.
|