Bu'r gwerthiant yn arbennig iawn, fel y dywed Marilyn:
Wyddoch chi, ein bwriad ni ar y cychwyn oedd dim ond trio codi rhyw ddau neu dri chant o bunnoedd i T欧 Gobaith, ond mewn dim, cymerodd y calendars ein bywyda ni drosodd a hynny am bron i dri mis!
Gwerthwyd tri chant pedwar deg ohonyn nhw, a gwnaed elw anhygoel o 拢780. At ben hyn 'roedd arian y jams, y picls a'r crempoga a werthwyd yma yn ystod y flwyddyn, yn chwyddo'r cyfanswm i 拢1035, a'r cyfan yn mynd tuag at yr hosbis. Gwych ynte. Cyflwynwyd y siec anferth i D欧 Gobaith, wythnos cyn y Nadolig drwy law Mrs Brenda Chidley (Trysorydd pwyllgor codi arian Pen Ll欧n).
Ond cofiwch yn sgil gwerthu'r calendars, cawsom hefyd lawer iawn o hwyl, a'r gora oedd Daphne Brookside (aelod newydd), yn rhoi un ohonynt ar E-Bay. Gan nad oedd na ddim diddordeb ynddo am ddyrnodia, a finna yn dallt dim am E-Bay, gofynnais i Elfed y Post fidio yn ddirgel ar fy rhan.
Rhoddais y rhyddid iddo i godi hyd at ugain punt (er wnes i ddim meddwl talu iddo ymlaen llaw chwaith). Alwen Aberkin oedd yn mynd i godi yn ei erbyn, i gadw'r ocsiwn i fynd am ddyddia.
Dechreuodd Daphne fy ffonio dydd Iau, wedi gwirioni, ond eto pob tro yr awn i'r siop, gofynnai Elfed yn amheus, "Chdi sydd yn talu am hwn ynte?" Wel roedd yn anodd iawn cadw wyneb syth, rhwng y ddau ohonnyn nhw!
Dydd Llun cafodd Daphne wybod mai Elfed Y Post oedd y prynwr, ac 'roedd ei hedmygedd ohonno yn ddibendraw! "0 boi bach neis", "hogyn meddylgar" a hyn a llall. Teimlai yntau mor euog, rhoddodd ddeg punt o'i boced ei hun hefyd at y calendr. Meddyliwch, UN calendr wedi codi 拢30. Hy! faint fasa ni wneud tasa ni wedi rhoi y cwbwl ar E-Bay ta?
Datgelwyd y cyfan i Daphne druan noson trosglwyddo'r arian i D欧 Gobaith...fedra hi ddim coelio ei bod wedi coelio'r fath ffwlbri, ond eto erbyn hyn deallwn fod y calendr drudfawr yn hongian ar y wal ym Mrookside!
Dymuna holl aelodau Sefydliad y Merched Chwilog ddiolch i Dewi Wyn am ei ymroddiad hwyliog, i Ashley Hughes am ei amynedd diflino, ond wir, i chi mae'r diolch mwya, am eich cefnogaeth fantastic i'r fenter yma. Mewn byd sy'n ymddangos mor hunanol, mae'n galondid mawr gweld haelioni fel hyn. Diolch yn fawr iawn.
Marilyn a'r Calendr Gyrls.