Bydd Lois Angharad Williams yn y ddinas honno, yn un o ddwsin o bobl ifanc o wledydd Prydain, mewn cynhadledd dan nawdd y Cyngor Cenhadaeth Byd-eang, y gwelir talfyrru ei enw yn ami i CWM - Council for World Mission. Daw i'r gynhadledd bobl o wledydd lawer ac o bob cyfandir, a bydd yno banel o siaradwyr yn cynrychioli gwahanol ranbartbau o'r byd. Y thema eleni yw Globaleiddiaeth, a gofynnwyd i Lois roi anerchiad ar y pwnc i gynrychioli rhanbarth Ewrop. Beth, er enghraifft, yw'r ymateb - Cristnogol i'r globaleiddio - neu beth a ddylai fod? Bydd Lois yn treulio deng niwrnod yn Johannesburg gan letya y rhan fwyaf o'r amser yn y ganolfan lle cynhelir y gynhadledd ond caiff hefyd aros noson neu ddwy gyda theulu yn y dinas a chael cyfle i ymweld ag eglwysi lleol. Bydd y daith i Dde Affrica yn fyrrach o ran pellter ac o ran amser na'r un y cychwynnodd Lois arni y llynedd. Ar 么l graddio mewn Cymdeithaseg a Seicoleg yng Ngholeg Crist, Caergrawnt yr haf diwethaf aeth i'r Wladfa ym mis Hydref i ddysgu Cymraeg i bobl yn Esquel. Bu yno am saith mis hyd 7 Mai eleni. Pan ddychwel o Johannesburg ganol y mis nesaf bydd yn chwilio am waith, a hwnnw yn ymwneud, os yn bosibl, a rhyw elusen
|