Rhoi cynnig ar y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 15 oed wnaeth Margiad, dan arweiniad Miss Eleri Wyn Owen, ei hathrawes Gymraeg.
Doedd hi fawr feddwl wrth ysgrifennu'r stori cyn y Nadolig diwethaf y byddai Twm Morys, y beirniad, o'r farn mai ei gwaith hi oedd yr ymgais orau ymhlith holl gynnyrch y cystadlaethau llenyddol i rai dan 25 oed.
'Tro ar fyd' oedd testun y gystadleuaeth ac ymweliad a mynwent, o bob dim, a esgorodd ar y stori. Roedd Margiad wedi bod yn rhoi blodau ar fedd ei hen dlaid a nain ym mynwent Tai Duon pan ddechreuodd holi Bethan, ei mam, yngl欧n 芒 cherrig beddau eraill o'i chwmpas.
Fe gyrhaeddodd garreg fedd Gwen Williams, Nant Cwmbr芒n a gofynnodd Margiad pwy oedd hi. Eglurodd Bethan mai hen ferch oedd Gwen yn byw gyda'i brawd ar lethrau'r Graig Goch, ac adroddodd rai hanesion amdani. Soniodd fel yr arferai nol d诺r o'r pistyll yn foreol ac fel yr etifeddodd deledu gan berthynas o Loegr, er nad oedd ganddi glem sut i'w weithio.
Roedd dydd Sadwrn 3 Mawrth yn ddiwrnod eithriadol o brysur i Margiad gan ei bod hefyd yn ddiwrnod eisteddfodau cylch Yr Urdd lle roedd yn cystadlu ar yr unawd, yr unawd cerdd dant a'r ddeuawd.
Stori arall gan Margiad o Sgwad Sgwennu Gwynedd
|