Y model o'r Scammell Tank Transporter a welwch yma yw'r un a ddyfarnwyd yn orau o blith yr holl fodelau o Wledydd Prydain, yr Iseldiroedd a Denmarc mewn arddangosfa dan nawdd Amgueddfa Gaydon, gerllaw Warwick y llynedd.
A'r g诺r a'i lluniodd yw Ian Williams, 'Rynys, Llanaelhaearn sy'n fforman hefo'r Bwrdd D诺r.
Enillodd yr un gamp yn 2004, a chipiodd eisoes eleni bedair gwobr gyntaf a dwy ail gyda modelau llai.
Ar wah芒n i'r gallu i ddeall cynlluniau a medr i drin llafnau miniog yn hylaw, y cymhwyster hanfodol arall i wneud modelau yw amynedd - peth mwdredd o amynedd!
Mae yn y model mawr o'r Scammell filoedd ar filoedd o ddarnau, y
cyfan wedi eu torri o blyg o blastig, ac fe gymerodd, yn fras, tua blwyddyn a hanner i Ian i roi'r cwbl wrth ei gilydd.
Bu ef yn hoff o wneud modelau er pan oedd yn blentyn. Ei hoff bynciau yn yr ysgol ym Mhwllheli oedd gwaith coed a dylunio technegol ac yn syth o'r ysgol cafodd le i'w brentisio'n ffitar efo'r Bwrdd D诺r. Yn ogystal a llunio modelau y mae wrth ei fodd hefyd yn gwneud giatiau a rheiliau ac addurniadau haearn o bob math.
Rhyw wyth mlynedd yn 么l yr aeth ati o ddifri i gystadlu 芒'r modelau gan ennill rhesi o wobrau mewn sioeau yn Huddersfield, Crewe, Stoke-on- Trent a Hinkley yn ogystal , sioe Gaydon sy'n gyfyngedig i fodelau o dryciau yn unig.
Yn ddiweddar y mae Ian yn
canolbwyntio. mwy ar wneud modelau bychain gan brynu'r darnau, eu haddasu ac ychwanegu atynt. Mae ganddo bedair-ar-ddeg o loriau ar y gweill ar y funud.
Mantais modelau bychain yw y gall eu gwneud yn y t欧 yng nghwmni Ann, y wraig sy'n weinyddes yn Ysbyty Gwynedd, a Mari y ferch flwydd oed. Gwrando ar y teledu y bydd Iau a gofyn i Ann beth sy'n digwydd!
Yn ddiweddar mae wedi dechrau ysgrifennu erthyglau ar y grefft o wneud modelau i gylchgronau arbenigol ac mae'n mwynhau gwneud hynny hefyd.
|