成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
Megan Williams Enwebu Megan
Mai 2009
Anti Megan yw hi i ddisgyblion Ysgol y Gorlan, Tremadog. Mrs Williams yw hi i'r anghyfarwydd.

Ond i bawb arall fel Megan Cefn Coch yr adnabyddir y wraig fferm hon o Gwm Ystradllyn - o bosib un o'r bobl prysuraf gerddodd daear erioed.

Oherwydd nid oes pall ar ei brwdfrydedd. Nid oes stop ar ei s锚l. Nid oes dim sy'n ormod ganddi wrth ymroi i'w gwahanol ddyletswyddau sydd gymaint a hyd braich ynddynt eu hunain.

I ddechrau mae'n Ymddiriedolwr Canolfan Treftadaeth Cae'r Gors yn Rhosgadfan. Mae'n Ysgrifennydd Canolfan Gymdeithasol Golan. Mae'n Aelod o Gyngor Cymuned Dolbenmaen. Bu'n aelod o Awdurdod Heddlu'r Gogledd tan yn ddiweddar, ac i goroni'r cwbl hi hefyd yw Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Gorlan.

Ac yn rhinwedd y cyfrifoldeb olaf yna y bydd Megan yn teithio i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd ddechrau mis Mehefin ar gyfer Gwobrau Addysgu Cymru, 2009.

Oherwydd ei bod hi wedi'i henwebu'n Lywodraethwyr Ysgol y Flwyddyn am eleni a hynny "am ei hymroddiad nodedig i waith Bwrdd Lywodraethwyr Ysgol y Gorlan".

"Mae'n fraint aruthrol cael fy enwebu ar gyfer gwobr mor arbennig," meddai Megan.

"Os byddaf mor lwcus ag ennill yna byddaf yn derbyn y Wobr ar ran yr ysgol oherwydd yr ysgol - yr athrawon a phlant - sy'n gwneud fy ngwaith i fel Cadeirydd y Llywodraethwyr mor bleserus."

Bu Megan, sy'n hanu o ardal Rhydymain ac yna Ddyffryn Ardudwy ym Meirionnydd, yn gysylltiedig ag Ysgol y Golan ers iddi ymgartrefu yng Nghwm Ystradllyn dros 350 flynyddoedd yn 么l.

Dros y blynyddoedd bu'n rhannu o'i phrofiad fel cyn-athrawes ei hun gan helpu disgyblion yr ysgol gyda'u darllen a chynorthwyo ar deithiau addysgiadol. Mae'n Lywodraethwr ers 12 mlynedd ac yn Gadeirydd y corff ers 2004.

"Er bod sawl peth yn newid ym mywyd ysgol mae'n rhyfedd fel bod rhai pethau fel diogelwch y plant yn 么l ac ymlaen i'r ysgol, ar droed ac mewn car 卢yn parhau i'n poeni o flwyddyn i flwyddyn," ychwanegodd Megan.

"Ond ar 么l dweud hynny ein dyletswydd fel llywodraethwyr yw ymateb i faterion diogelwch sy'n codi a cheisio ei datrys hyd gorau ein gallu."

Y llynedd arweiniodd Megan Ysgol y Gorlan drwy arolwg ddyfarnodd Radd 1 ymhob un o'r saith Cwestiwn Allweddol a ofynnir gan Arolygwyr Ysgolion.

0 ganlyniad mae'r Arolygwyr Ysgolion yng Nghymru ESTYN, yn enwi Ysgol y Gorlan fel enghraifft o arfer dda mewn darllen a llythrennedd.

"Mae arweiniad cadarn a chyngor doeth Mrs Williams yn gefn i mi a'r staff ar bob achlysur," meddai Pennaeth Ysgol y Gorlan ,Rhys Glyn.

"Os oes rhywun yn haeddu Gwobr Llywodraethwyr y flwyddyn yna hi yw honno."

Ysgol y Gorlan ei hun sydd wedi enwebu Megan ar gyfer y Wobr ond mae'r enwebiad hwnnw wedi'i gefnogi gan unigolion eraill fu'n cydweithio a hi ar wahanol faterion megis Bethan Jones Parry o Ganolfan Treftadaeth Cae'r Gors a neb llai na Phrif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd ei hun.

"Fel aelod o Awdurdod Heddlu'r Gogledd gweithiodd Megan yn ddiflino gan ddadlau'n effeithiol dros ben am well plismona ar gyfer pobl ifanc," meddai Richard Brunstrom.

"Gweithiodd hefyd yn angerddol ac yn ddylanwadol dros yr iaith Gymraeg o fewn yr Awdurdod ac mae'r diolch iddi hi fod Heddlu'r Gogledd bellach yn arddel dwyieithrwydd fydd yn eu tro'n denu rhagor o siaradwyr Cymraeg i ymuno a'r llu."

Ond i ddisgyblion Ysgol y Gorlan mae Anti Megan yn rhan o'u bywydau ifanc. Gyda'i gw锚n lydan a'i chwerthin braf mae ganddi'r ddawn unigryw i annog, hybu ac arwain.

Am hynny'n unig mae'n haeddu ennill Gwobr Llywodraethwyr Ysgol y flwyddyn - a phob clod ddaw yn sgil hynny.

Nid yw'r person prysuraf gerddodd daear erioed yn haeddu dim llai.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy