'Lansiad triplex', chwedl Stewart Jones wrth lond neuadd o edmygwyr Wil Sam a ddaeth i Lanystumdwy i ddathlu cyhoeddi 'Newyddion Ffoltia Mawr', 'M芒n Bethau Hwylus' a 'Rhigymau Wil Sam'.
Bu'n noson afieithus o ddarllen ac actio, canu a 'sbonio - a chloi'n annisgwyl mewn seremoni o goroni/cadeirio'r awdur 芒 thorch o nionod; llysiau nad yw ef, a dweud y lleiaf, yn or-hoff o'u blas na'u harogl. Buan iawn yr ysgydwodd W.S. y plisgod oddi ar ei arffed a gwahodd pawb i ymuno 芒 mudiad yr CDN - Cymdeithas Difa Nionod.
Gwasg Carreg Gwalch a Gwasg Gwynedd, cyhoeddwyr y cyfrolau, a drefnodd y noson. Yr hyn a wneid, meddai Myrddin ap Dafydd oedd dathlu sgwennu cwbl, cwbl arbennig. Bob tro y clywid y ddau air 'Wil Sam' deuai gw锚n i'w canlyn; bob tro y gwelid hwy ar glawr deuai llam i'r galon. 'Roedd cyhoeddi tair cyfrol mor wahanol i'w gilydd, yn 85 oed, yn dweud rhywbeth arbennig iawn am y dyn.
Pwysleisiwyd gwahanolrwydd W.S. ymhellach mewn cyfraniadau byrion difyr gan Alwyn Elis, Ioan Roberts a Twm Morys. Darllenwyd o ddwy gyfrol gan Stewart Jones, cyflwynwyd deialogau gan bedwar aelod o gwmni drama Llwyndyrys - Gwilym Griffith, Nia Williams, Kit Ellis a Dic Parry - a chafwyd detholiad o'r ddrama 'Bobi a Sami' gan ddau lanc o F么n, Iddon Alaw o Lanfugail ac Arwyn Jones o Lansadwrn, dau o s锚r y gyfres 'Rownd a Rownd'.
Ian Parry, tafarnwr y Plu, a William Hefin, cyd-aelod 芒 W.S. yn nosbarth/seiat barddas Twm Morys yn Llanystumdwy a gafodd y fraint o'i hebrwng i'w goroni. Canwyd c芒n y coroni, gwaith Myrddin ap Dafydd, gan Geraint Lovgreen ar alaw 'Mistar Duw'.
Dyma hi:
Mi glywais lawer s么n am Wil Sam J么ns:
Rho'th ddarlith Babell L锚n ar Doblar么ns,
Mae'n ddyn y ddrama gegin,
Mae'n gneud i'r sycha chwerthin,
Mae'n hoff o adar drycin - Wil Sam J么ns.
Wil Sam J么ns, Wil Sam J么ns,
Gwisgo'i iaith fel gwisgo tr么ns,
Wil Sam J么ns: Mae dy glust di'n fain o hyd;
Wil Sam J么ns, Wil Sam J么ns,
Rwyt ti'n clywed, Wil Sam J么ns,
Geiriau'n cerdded i dy boced, Wil Sam J么ns.
Un hoff o foto-beics 'di Wil Sam J么ns
A gwlad y Ginis du a'r leprac么ns,
Un hoff o'r snygbar cynnes
A drama fach ddirodres
A hoff iawn o'r frenhines - Wil Sam J么ns.
Mae Rhywbeth Bach yn poeni Wil Sam J么ns:
Mae'r Dalar Deg yn llawn o Alcap么ns,
Dim lle i Bob na Sami,
Nid oes un Ddinas inni,
Dim ond Tro Crwn amdani - Wil Sam J么ns.
Mae ambell hen gym锚r gan Wil Sam J么ns
Di dawnsio hyd y llwyfan yn ei dr么ns
A wir mae'n achos dathlu
Ei fod o'n dal i sgwennu
A diolch mae dy Gymru - Wil Sam J么ns.