Roedd yr awyr agored yn rhan bwysig o'r 诺yl eleni. Dechreuwyd gyda noson wych yn Galeri gyda dau o'r goreuon am sgwennu am yr amgylchfyd, Jim Perrin a Robert Macfarlane, yn cael eu holi gan Mike Harding.
Cafwyd sgwrs am gynaladwyedd gan y bardd Robert Minhinnick, a gorffennwyd ar y dydd Sul gyda dwy daith gerdded a phnawn i'r teulu oll yng ngardd T欧 Newydd.
Roedd hwn yn bnawn bendigedig gyda dros 100 yma yn mwynhau y stor茂wr Daniel Morden gyda cherddoriaeth y gr诺p Newfolk, pypedau Cwmni Cortyn a chaneuon a cherddi Gwyneth Glyn.
Enillydd y gystadleuaeth newydd, Pencerdd Ty Newydd, oedd Eurig Salisbury. Roeddynt yn cael eu beirniadu ar y cerddi a'u perfformiad ohonynt ac ym marn y ddau feirniad, T. James Jones ac Idris Reynolds, Eurig oedd y gorau o 10 bardd - llawer ohonynt yn feirdd h欧n a mwy profiadol. Ei wobr oedd "ffon y Pencerdd" - ffon dderw hardd wedi ei gwneud gan Elis Gwyn.
Cafwyd cinio Sul yng nghwmni'r Arglwydd Dafydd Elis- Thomas, gwrandawyd ar Jon Gower yn holi Mererid Hopwood, Eigra Lewis Roberts ac Angharad Price, cafwyd cyfle i holi Gwen Pritchard Jones am ei nofel Dygwyl Eneidiau, sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn a sawl digwyddiad arall yn y ddwy iaith.
Diolch i bawb gefnogodd yr 诺yl a diolch yn arbennig i'r Academi am eu cymorth ariannol ac ymarferol. Edrychwn ymlaen at yr 诺yl nesaf.
|