Diolch byth am yr ocsiwns addewidion ma ddeuda i, er mwyn inni gael ffendio rhyw hobis gwahanol. Ocsiwn i godi arian tuag at Ysgol Hafod Lon oedd hon, ac fel arfer roedd na lawer o'r addewidion at ein dant ni.
Doeddan ni ddim yn siwr os oedd syrffio yn addas inni a deud y gwir, ond i'n cynnig ni y disgynodd y morthwyl!!! Un wers syrffio oeddan ni wedi ei brynu ac ym mis Mai eleni aeth Carys a fina (undercover) i'r shop syrffio yn Abersoch i gael gweld drosom ein hunan seis y boards aballu!!
Yn ffenast y shop gwelsom fod pris gwers yn 拢27 a'i bod yn para am ddwy awr a hannar, gwelsom hefyd seis y boards!!!!! Mentrodd y ddwy ohonom i fewn i'r siop a gofyn i'r boi fasa ni'n cael rhannu'r wers oeddan ni wedi brynu yn yr ocsiwn? "No" medda fo yn syth, "but I'll give you another one free" a dywedodd wrthym am ffonio ymhellach ymlaen yn yr haf i drefnu.
Wel daeth y diwrnod, y Llun cynta yng Ngorffennaf. Roeddan ni'n mynd i'r siop yn Abersoch i ddechra i ffitio wetsuit a sgidia. Rhoddwyd ffurflen inni i lenwi 'next of kin' a gofyn ein hoed. O'n gweld ni'n gyndyn o lenwi'r oed, dywedodd John yr athro nad oedd angen deud yr hollol wir. Edrychodd Carys a fina ar ein gilydd a dyma'r ddwy ohonom yn rhoi ugain i lawr!!
Cymerodd John un cip olwg arnom, a rhoi dwy wetsuit (wlyb) seis 12 inni!! Roeddan ni wedyn yn mynd i Borth Neigwl i roid y siwtia a'r sgidia amdanom, ac aros i John ddwad hefo'r
boards...
.. Aeth siwt Carys amdani reit handi, ond sut medda chi fedra unrhyw un feddwl bod ni'n dwy 'r un seis. Cymerodd chwarter awr o lygio, stwffio a gwasgu i nghael i fewn iddi, ond ar 么l llwyddo roedd yn well nag unryw staes!! Cyrhaeddodd na ferch ifanc o Lanberis, Eve, 'roedd hitha hefyd yn cael gwers.
Ar ben y traeth cawsom ein gwers gynta!. Sut i afael yn y board; sut i aros am don; sut i neidio yn sydyn; sut i orwedd ar y board. Hy! Digon hawdd wrth gwrs ar dywod! Wedyn cario'r board at lan at y d诺r, rhoi y strap rownd ein ff锚r rhag ei golli a chwffio ein ffordd drwy'r tonnau gwyllt nes ein bod mewn digon o dd诺r i syrffio!!!!
Yna roedd John yn dangos pa don i aros amdani, pryd i neidio, ac yn gwaeddi ar dop ei lais go go go go go go go go go go .. ..ond er trio'n gora roeddan ni'n cael ein lluchio oddiar y board a diflannu mewn panic dan y d诺r...... hynny ydi nes llwyddo o'r diwedd i aros arno fo, a saethu, ia ar fy marw, saethu i'r lan, ac hyd yn oed i fyny ar y tywod. O!!!!!!!!!!!!!!roedd o'n ffantastic!!!!!!!
Ond wyddoch chi roedd yn goblyn o job cario'r boards yma yn 么l allan i'r m么r bob tro. O'n i'n deud wrth Carys ar y canol y basa'n well tasa ni wedi deud y gwir yngl欧n 芒'n hoed. Ella basa John wedi helpu mwy arnan ni wedyn.
Yr ail wers oedd sut i sefyll ar y boards!! O! nes i ddim trio gneud hyn, wir, ddim a geiria dwytha ddeudodd Now wrthai cyn cychwyn "hart atac gei di" yn atsain yn fy nghlustia, ond fe welwn Eve a Carys weithia are eu penaglinia yn barod i godi.
Ar ddiwedd y wers, bu'n rhaid cario'r boards yn 么l i'r fan, a biti dyma'r unig gyfle gawsom ni i ddod i adnabod Eve.
Roddwn i'n poeni yn arw na fasa na ddim record o'r dwrnod yma a fasa neb yn coelio ein bod wedi bod yn syrffio o gwbwl, felly erfyniais ar Ceri (Ceri a Morus) ddod yno hefo'i chamera. Wel s么n am ddiwmod ofnadwy o gyffrous a chanmoliaeth mawr i John Ceri a'r siop yn Abersoch am gyfrannu llawer at hwyl y diwrnod.
Whew dyna'r ocsiwn yna drosodd eto, rest rwan cyn y nesa!!! ! !!
syrffio yn y gogledd ddwyrain