成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
Yr hen felin Troi'r Felin?
Ionawr 2005
Menter Ffriwlwyd
Manylion ffurfio Menter Ffriwlwyd gyda'r nod o archwilio'r posibiliadau o ddatblygu canolfan gymunedol ar hen safle Golchdy Afonwen.
Mae'n debyg nad yw bodolaeth na chefndir safle Hen Felin Ffriwlwyd yn gwbl gyfarwydd i bawb ohonoch ond yno y saif hyd heddiw yng nghysgod adeilad sydd yn llawer mwy cyfarwydd i bawb sef hen Olchdy Afonwen.

Ers blynyddoedd bellach mae'r adeiladau yn wag ac wedi bod yn destun trafod a phryder i lawer ohonom.

I'r perwyl hwnnw daeth rhai ohonom ynghyd i rannu syniadau yngl欧n 芒'r posibilrwydd o adennill yr hen safle er budd a ffyniant y gymuned. Bellach mae Menter Ffriwlwyd wedi ei ffurfio gyda'r nod o archwilio'r posibiliadau o ddatblygu canolfan gymunedol fyddai'n cynnig cyfleon a chyfleusterau i ddiwallu anghenion ystod eang o drigolion yr ardal.

Prif amcan y fenter yw defnyddio hen safle Golchdy Afonwen i sefydlu canolfan gymunedol ffyniannus i wasanaethu ardal Eifionydd.

Mae'r safle mewn man delfrydol i greu menter o'r fath ar sail sawl ffactor-:
Mae'r adeilad yn wag ac yn brysur ddadfeilio ac yn cynnig ei hun yn gwbl naturiol fel safle i sefydlu menter i'r ardal.

Gan fod y gwaith o ddarparu ffordd newydd yr A497 ymlaen ar hyn o bryd mae'n gyfle gwych i fanteisio ar gydweithrediad yr asiantaethau sydd yn gyfrifol am ddatblygu'r ffordd newydd.

Mae'r safle yn fan hanesyddol difyr a nodweddiadol sydd wedi ei leoli ar stepen drws y L么n Goed ac felly yn cynnig ei hun fel man delfrydol fel canolbwynt i ardal Eifionydd.

Mae gweledigaeth eisoes wedi ei ffurfio ar gyfer Menter Ffriwlwyd ac mae trefniadau ar y gweill drwy gefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Mantell Gwynedd i ddarparu astudiaeth dichonoldeb fydd yn ymchwilio i'r posibiliadau.

Drwy gefnogaeth a chyfraniad y gymuned rydym yn awyddus i ddatblygu syniadau i ddarparu canolfan er mwyn cynnig cyfleusterau newydd i'r ardal a allai gynnwys:

  • Caffi at wasanaeth y gymuned leol ac i gefnogi cyfleusterau cynhadledd ac ymwelwyr i'r ganolfan.
  • Neuadd gynhadledd fyddai ar gael i'r cyhoedd fyddai'n cynnwys adnoddau technegol o safon uchel.
  • Canolfan a llyfrgell dreftadaeth fyddai'n cynnwys arddangosfeydd am hanes yr ardal mewn dulliau amlgyfrwng clywedol a gweledol.
  • Oriel a siop grefftau i arddangos gwaith artistiaid a chrefftwyr lleol.
  • Unedau ar ffurf gweithdai / swyddfeydd fyddai ar gael i'w rhentu gan grefftwyr / busnesau lleol.
  • Gwasanaeth i arwain teithiau hanesyddol yn yr ardal.

    I'r perwyl hwnnw y cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Goffa Chwilog Dydd Mercher Chwefror 2il gyda chyfle i'r gymuned gynnig eu syniadau a'u barn yngl欧n a'r fenter.

    Os nad oeddech chi'n gallu dod draw ar y noson, beth am fynegi eich barn i aelodau'r fenter: Edward Elias (Cadeirydd), Yr Esgair, Llangybi 01766810732
    Aled Davies (Trysorydd), Ael y Bryn, Chwilog 01766 810092
    Arwel Roberts, Awel y Grug, Chwilog 01766 810058
    Keith Houghton, Penarth Fawr, Chwilog 01766810880


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy