成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
John a Nell Davies Hughes sy'n ffarwelio 芒'r siop a George a Jackie Povey sy'n cymryd drosodd. "Medical Hall"
Ebrill 2003
Ar y 7ed o Ebrill eleni wrth i John a Nell Davies Hughes, Medical Hall, gau'r drws am y tro olaf yn y siop ar waelod y stryd yng Nghricieth bydd cysylltiad y teulu 芒'r busnes yn dod i ben a hynny ar 么l bron i gan mlynedd.
Sefydlwyd y busnes i ddechrau yn 1875 gan wr o'r enw Mr J Bowen, Fferyllydd ydoedd ac ef oedd yn gyfrifol am newid enw 1 Bro Gyntun, Cricieth yn Medical Hall. Roedd y siop bryd hynny hefyd yn llyfrgell, yn ganolfan rhentu cadeiriau i'r anabl ac yn off licence i'r ardal gyfan. I lawr yn y seler roedd cwrw yn cael ei botelu gan beiriant arbennig a'i labelu gyda'r enw Bowen.

Yn 1906 y daeth Edward Davies Hughes i gadw'r siop. Gwr ydoedd a anwyd yn Kashai yn yr India lle roedd ei dad yn genhadwr. Roedd y fferyllwr ifanc yn wybodus iawn am feddyginiaethau ar gyfer anifeiliaid yn ogystal 芒 phobl a phan fyddai anhwylder ar rhyw anifail yn yr ardal i'r Medical Hall y deuai llawer o'r ffermwyr i nol ffisig.

Roedd stabl islaw'r siop, lle mae'r garej heddiw, ac yma y cedwid Polly y gaseg a'r trap a ddefnyddid i gario cwrw i'r ardal.

I'r ystafell yng nghefn y siop y deuai David Lloyd George i sgwrsio efo "Hughes" a thrin materion y byd.

Parhaodd y siop i gynnig amrywiaeth o nwyddau yn y blynyddoedd diweddarach hefyd. Daeth teganau ar y silffoedd yn ogystal ag amrywiaeth o chwaraeon traeth a chardiau post.

Ganed dau fab i Edward a'i briod Jane, sef John a Peter ac wedi marw ei dad yn 1956 daeth John yn bartner yn y busnes gyda'i fam. Yn 1962 priododd yntau gyda Nell a ganed iddynt hwythau ddau fab sef David a Michael.

Wrth ffarwelio a'r siop y mae John a Nell yn edrych ymlaen at ryddid yr ymddeoliad ac yn dymuno'r gorau i George a Jackie Povey a'r plant sydd wedi prynu'r busnes. Dymunwn ninnau'n dda i'r ddau gwpwl i'r dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy