Y mae Owain Myrddin Edwards, 23 oed, T欧 Mawr, Treflys mewn swydd yn y Llysgenhadaeth yn y brifddinas, Dinas Mexico.
Y Llysgennad yno yw Giles Paxman, brawd Jeremy Paxman, holwr craff 'Newsnight' a chyflwynydd 'University Challenge'.
Gwaith pennaf Myrddin yn ei swydd newydd yw cyfarfod gwladweinwyr a phwysigion byd busnes 'yn y maes awyr, a'u tywys a chyd-hedfan 芒 hwy pan fo angen, i wahanol lefydd led-led Mexico.
Aeth Myrddin i Mexico yn wreiddiol yn athro Saesneg mewn coleg yn nhref Tapachula yn neheudir y wlad, nid nepell o'r ffin 芒 Gwatamala.
Ei fwriad oedd aros am flwyddyn ond pan welodd hysbyseb am y swydd yn y Llysgenhadaeth gwnaeth gais amdani.
Cafodd air i fynd am gyfweliad i Ddinas Mexico, ond tynnodd ef sylw'r awdurdodau mor hirfaith y siwrnai o Tapachula i'r brifddinas. Y canlyniad fu cael cyfweliad ar y ff么n - a sicrhau'r swydd hefyd.
I weithio ym Mexico y mae Myrddin, wrth gwrs, yn rhugl ei Sbaeneg. - a'i Ffrangeg hefyd ran hynny. Graddiodd yn y ddwy iaith yn y Brifysgol yng Nghaerdydd.
Yn ystod ei gwrs o bedair blynedd treuliodd hanner blwyddyn yn Strasbourg yn ymchwilydd i Eurig Wyn pan oedd hwnnw'n Aelod Seneddol Ewropeaidd, a hanner blwyddyn arall yn Sbaen.
Ei fwriad yn awr yw eistedd arholiadau i'w gymhwyso ei hun yn Ddiplomat. Caiff wedyn deithio i wahanol lysgenadlaethau led-led y byd.
Mae'n dod i Lundain p'run bynnag ym mis Medi ac yn gobeithio y bydd cyfle i bicio adref i Dreflys i weld ei rieni, Dorothy a Meirion Edwards a gweddill y teulu.
|