成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
Tenzing a Hillary Yr arwr difalch
Mawrth 2008
Jan Morris yn cofio Syr Edmund Hillary
Petai s么n am efeillio rhywle dros y mor ag Eifionydd, mi allai yn hawdd fod yn ardal wledig yn Seland Newydd. Syndod i mi, pan soniais fy mod yn mynd yno, oedd mor glos ydi'r berthynas.
Cymaint o feibion neu feibion-yng-nghyfraith sydd draw yno, cymaint o atgofion sydd am wyliau braf, cymaint o'u hogiau nhw fu'n gweithio ar ein ffermydd ni, cymaint o gyfeillion fu'n ymweld 芒'u ffermydd nhw. Llai o ryfeddodd wedyn, pan landiais yno y mis diwetha', oedd cyfarfod dau gefnder i mi na wyddwn i un dim amdanynt cynt! Mynd wnes i ar wahoddiad Llywodraeth Seland Newydd i angladd Syr Edmund Hillary yn Auckland, ei ddinas enedigol.

Y fi oedd y newyddiadurwr efo'r cyrch ym 1953, pan aeth Hillary a'i gyfaill Sherpa Tenzing Norgay i ben Mynydd Everest, y ddau ddyn cynta' i sefyll ar ben y byd. Pump o'r rhai fu ar y cyrch hwnnw sy'n dal yn fyw (yr ifenga' yn 80 oed, a'r hyna' yn 95) a chawsom hedfan i gyd i Auckland ar gost y Kiwis hael.

Jan Morris Roedd Ed ei hun (neu 'Syr Ed' fel y byddai pawb yn Seland Newydd yn ei alw) a chysylltiadau ers talwm 芒'n cwr ni o'r byd. O dafarn enwog y dringwyr ym Mhen y Gwryd, wrth droed yr Wyddfa y byddai o a'r lleill yn mynd i ymarfer at y cyrch, ac mi ddoi wedyn yn ddi-ffael i'r aduniad fyddai'n cael ei gynnal yno flwyddyn ar 么l blwyddyn. Roedd ei osgo heglog, hir yn ddigon cyfarwydd yn ein mynyddoedd, ac weithiau mi fyddai'n dringo'r Wyddfa efo Cymro lleol fu efo fo ar y cyrch enwog, y meddyg ymenydd Charles Evans, a ddaeth yn ddiweddarach, fel Syr Charles, yn bennaeth ar Brifysgol Bangor. Mae llawer crair sy'n dwyn Hillary i go' ym mar Pen y Gwryd, lle bu cymaint o Everestwyr yn yfed eu peintiau.

Felly, doedd Cymru ddim mor bell a hynny yn fy meddwl pa welais yr hen wron yn gorwedd o dan ei grwys yng Nghadeirlan Auckland, ac yn cael ei anrhydeddu, fel chydig iawn o neb o Seland Newydd o'i flaen, ag angladd gwladol seremon茂ol. Meddyliais wedyn, er mai un o'r ochr draw i'r byd oedd o, mor gartrefol y byddai wedi bod yn y gymdeithas wledig Gymraeg. Roedd o'n gwbwl ddiddosbarth, a heb orchest na rhodres. Yn hogyn, bu'n gweithio efo'i dad yn cadw cychod gwenyn; cafodd fagwraeth anghydffurfiol gadarn; bu'n llywio awyrennau m么r yn yr ail Ryfel Byd; ac yn ystod y 50 mlynedd y b没m i yn ei nabod, ni welais mohono'n newid rhyw lawer.

Bu am sbel yn Llysgennad dros Seland Newydd yn India, roedd yn Farchog y Gardas yn Lloegr, bu'n cyfeillachu 芒 brenhinoedd a phrif Weinidogion ar draws y byd. Ond cadwodd ei symylrwydd drwy'r cwbwl, a dynol iawn oedd ei gryfderau a'i ffaeleddau - roedd yn dad bedydd i'm mab Henry, ac, fel y cyfaddefodd ei hun, yn dad bedydd da i ddim!

Nid yn unig roeddwn yn hoff ohono, ond, fel un fydd yn ddigon dirmygus o enwogrwydd, roeddwn yn ei edmygu. Mi fuom efo'n gilydd ar daith ddarlithio yn yr Unol Daleithiau, a mwya'n y byd y gwelwn i'r dyn o dan haul enwogrwydd, mwya'n y byd yr edmygwn ei wyleidd-dra diffuant. Roedd yn gwbwl nodweddiadol ohono, a'i anturiaethau drosodd, iddo ymroi yn ei henaint i ymorol am y Sherpas, brodorion Mynydd Everest. Mi ddychwelodd gannoedd o weithiau i orchwylio adeiladu ysgolion ac ysbytai a ffyrdd. Roedd yn eilun gan y byd, ond y clod mwya' iddo ydi ei fod yn ddyn difalch a chlen.

Ydi hyn i gyd yn dwyn rhywun arall i go'? Lawer gwaith yn ystod yr angladd, b没m yn dychmygu Ed yn dod yn ffrindiau mawr yn y Nefoedd efo gwron arall oedd yn anad dim yn ddyn da, sef Ray Gravell. Y Sherpa, y Cymro, a'r Ciwi - dyna ichi d卯m a hanner!
Jan Morris

(Yn 1953, yn ohebydd gyda phapur newydd Times, fe ddringodd yr awdur i 20,000 troedfedd. ar Everest a chyhoeddi i'r byd newyddion am lwyddiant yr ymgyrch. Mae'n awdur nifer fawr o lyfrau - rhai teithio yn bennaf, ond mae hefyd yn enwog am astudiaeth hanesyddol dair cyfrol o'r Ymerodraeth Brydeinig, Gol.)

  • Mwy am gysylltiad Hillary ac Eryri

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy