... ond o fis Mawrth ymlaen g诺r ifanc o Chwilog fydd yn gyfrifol am lawer o'r penderfyniadau fydd yn cael eu gwneud yngl欧n ag economi, gweinyddiaeth ac amgylchedd y wlad honno. Ar hyn o bryd y mae Osian Jones, Islwyn, Chwilog, mab ieuengaf Elwyn a Maureen Jones, Pandy Garage gynt, yn gweithio ym Mharis fel Is-reolwr Financement Aide et Action. Gwaith y mudiad hwn yw gwella amgylchiadau pobl yn y Trydydd Byd trwy ddechrau a chynnal prosiectau penodol.
Graddio mewn Cynllunio Gwledig a Threfol a wnaeth Osian i ddechrau, cyn mynd ymlaen i wneud Gradd Meistr mewn agweddau o gynllunio ar gyfer y Trydydd Byd ym Mhrifysgol Llundain. Ar Ynys Nevis yn y Carib卯 y cafodd ei swydd gyntaf yn sefydlu prosiectau i fudiad Datblygiadau Tramor Prydain. Annog y brodorion i fod yn hunan gynhaliol yn hytrach na dibynnu ar fewnforion o America oedd prif amcan ei waith yno. Symudodd o'r swydd honno i'w swydd bresennol oedd a'r pencadlys ym Mharis. Ymhlith y gwledydd sy'n derbyn cymorth gan yr asiantaeth hon y mae ardaloedd yn Haiti, Affrica, India, Cambodia a Sri Lanka ac yn rhinwedd ei swydd bydd Osian yn ymweld 芒'r mannau hynny yn aml. Yn ei swydd newydd yn Suriname, sef gwlad yr arferid ei galw yn Guiana a Dutch Guiana yng Ngogledd De America, bydd Osian yn Rheolwr ar un o Gynlluniau Datblygu'r Cenhedloedd Unedig (U.N.D.T.). Bydd yn Bennaeth ar y t卯m fydd yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth y wlad i hybu datblygiad. Er fod Suriname yn wlad gyfoethog o ran adnoddau megis aur, y mae yno hefyd dlodi mawr.
Fel y gallwch ddychmygu yr oedd cryn gystadlu am swydd o'r fath ac o'r pedair mil a geisiodd daeth Osian yn drydydd ar y rhestr. Tipyn o gamp. Y mae'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y sialens newydd hon meddai. Sialens arall fydd o'i flaen fydd dysgu rhywfaint ar yr iaith Iseldireg. Er mai Saesneg yw iaith swyddogol y wlad yr Iseldireg yw'r iaith a siaredir gan y bobl. Ond ddylai hynny ddim peri gormod o anhawster i Osian gan iddo orfod meistroli'r Ffrangeg yn go sydyn pan ddechreuodd weithio ym Mharis. Yn wir y mae ef a Laurence, ei briod ac Iestyn eu mab yn siarad cymysgedd o Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg ar eu haelwyd. Dymunwn pob llwyddiant i Osian a'r teulu a llongyfarchiadau hefyd iddynt ar achlysur eu priodas ddiweddar.
|