成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
Plant Belarus yn Ysgol Llangybi O afael yr ymbelydredd
Medi 2006
Cafodd disgyblion Ysgol Llangybi olwg tra gwahanol ar fywyd yr wythnos hon pan ddaeth 13 o blant o Belarus ar ymweliad yno.
Er bod 20 mlynedd wedi mynd heibio ers y ffrwydriad yn Atomfa Niwclear Chernobyl, mae'r plant yma'n dal i deimlo effaith y ddamwain erchyll. Yn 么l Tamara Zosimova -cyfieithydd ac arweinydd y gr诺p - mae pob babi sy'n cael ei eni yn Lipin (pentref genedigol y plant) yn dioddef o furmur y galon, ac erbyn iddynt gyrraedd eu harddegau mae nifer helaeth ohonynt yn dioddef o lewcemia a mathau eraill o gancr y gwaed.

Pentref anghysbell, rhyw 350 milltir o Chernobyl yw Lipin ac mae yno un ysgol ar gyfer 140 o ddisgyblion. Bydd y plant yn mynychu'r ysgol hon o pan fyddant yn 6 mlwydd oed hyd nes byddant yn 17. Ychydig iawn o arian y mae ysgolion Belarus yn ei dderbyn gan Lywodraeth y wlad ac yn sg卯l hyn, prin iawn yw'r adnoddau. Dibynna'r plant ar haelioni'r pentrefwyr ac elusennau tramor i gyflenwi pethau mor elfennol 芒 phensiliau, papurau a sialc. Gan nad oes yna dd诺r yn yr ysgol, twll yn y ddaear yw'r toiled.

Bydd y gwersi'n dechrau am 8 y bore tan 2 y prynhawn, pan fydd criw arall o ddisgyblion yn cyrraedd i dderbyn gwersi tan 8 yr hwyr. Dilynir rhaglen waith ddwys gyda'r plant yn cael eu trwytho mewn Mathemateg, Rwsieg a Belarwsieg, ymysg pynciau eraill.

"Bywydau difreintiedig iawn sydd gan y plant yma" meddai Tamara, sy'n athrawes ei hun. " 'Does ganddyn nhw ddim tapiau yn eu tai, felly pan fydd eu rhieni yn nol d诺r o'r pwmp yng nghanol y pentref yn y gaeaf, mae cynnwys eu bwcedi wedi rhewi'n gorn erbyn iddyn nhw gyrraedd yn 么l i'w tai."

Ychwanegodd Tamara, "Mae lefel diweithdra'n uchel iawn yn Belarus, gyda mamau'r plant yn aros gartref a'r rhan fwyaf o'r tadau yn gweithio am gyflog isel iawn ar y ffermydd cyfalafol. Ond mae'r. plant hefyd yn gorfod gweithio'n galed - yn tyfu llysiau a ffrwythau ar gyfer y cartref. Tatws, bresych a moron yw'r diet mwyaf cyffredin, gyda'r llysiau hyn wedi eu meithrin mewn pridd ymbelydrol".

Terry a Menna McDaid o Waunfawr a drefnodd yr ymweliad ag Ysgol Llangybi. Sefydlasant gangen o'r elusen 'Chernobyl Children Life Line' yn ardal Caernarfon bedair blynedd yn 么l ac ers hynny bu'r ddau'n gweithio'n ddyfal i drefnu gweithgareddau codi arian er mwyn croesawu criwiau bychain o blant sy'n dioddef o 么l-effeithiau'r drychineb i Gymru am fis o wyliau ymarferol yn flynyddol.

"Mae'r plant yma'n bwyta, yfed ac anadlu ymbelydredd bob dydd o'u hoes", meddai Terry a Menna, "ac, yn syfrdanol, mae treulio mis ymhell o amgylchedd niweidiol Chernobyl yn ychwanegu dwy flynedd at eu heinioes". Tra'n lletya gyda gwahanol deuluoedd yn lleol, bydd mwyafrif y plant a ddaw ar ymweliad misol yn tyfu: rhwng 2 a 3 modfedd yn ystod eu harhosiad, yn ogystal 芒 gweld optegydd a deintydd am y tro cyntaf yn ystod eu hoes.

Cyflwynodd yr ymwelwyr o Belarus anrhegion bychain i ddisgyblion Ysgol Llangybi - pib, botymau a thlysau pren wedi eu paentio'n gelfydd 芒 llaw, a derbyniasant hwythau fag ysgol, organ geg a phensiliau lliw bob un.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy