Enillodd y tlws yn 1981, ond oherwydd cnwd o eira methodd a chael y car i'r lon a chollodd y seremoni.
Enillydd Tlws yr Ifanc yn y Ff么r nos Sadwrn diwethaf oedd ei mab, Gwilym Dwyfor, a chyd-ddigwyddiad oedd iddo yntau fethu a bod yno hefyd.
Nid eira na llwch o Wlad yr 卯a a'i rhwystrodd ond ei waith rhan-amser yng Nghaerdydd.
Fe'i cynrychiolwyd gan ei fam.
Hyfryd hefyd oedd gweld Dic ei dad yno yn dilyn ei lawdriniaeth.
Yn 么l y Prifardd Twm Morys, y beirniad, 'roedd y gystadleuaeth yn un galonogol iawn o ran niferoedd ac o ran
safon.
Ceid digon o wreiddioldeb a mentr yn y cyfansoddiadau.
Stori am 诺r ifanc yn bysgio a ddaeth a Gwilym Dwyfor i'r brig.
'Roedd y beirniad wedi cymryd ati yn arw. Yn un peth, soniai am ffordd o fyw y bu ef ei hun yn ei 'how-ddilyn' ar un adeg, ond na welsai erioed ddim wedi ei sgwcnnu amdani o'r blaen.
Disgrifid y bywyd hwnnw, ei hwyl a'i siom a'i droeon trwstan yn gywir - ac
roedd yn stori wedi ei hysgrifennu'n dda iawn.
'Wil' (er cof am W.S. ei daid tybed?) oedd ffugenw Gwilym Dwyfor, sy'n 22 oed.
Graddiodd yn y Gymraeg yng Nghaerdydd y llynedd ac mae'n awr yn dilyn cwrs M.A. mewn ysgrifennu creadigol a gwerthu hufen 卯a Cadwaladars yn rhan amser yn y brifddinas.
Rhoddwyd y wobr ariannol o 拢30 gan gwmni drama Llwyndyrys. Gwilym a enillodd ar y stori fer hefyd.
|