成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
Gwenan Gibbard gydag Annette a Deian Evans Dathlu yn Nhoronto
Rhagfyr 2007
Bu dau o drigolion Eifionydd yn brysur iawn yn ddiweddar mewn dathliad go arbennig.
Mae'r Parch Deian Evans a'i wraig Annette, fel y g诺yr darllenwyr Y Ffynnon, yn byw bellach yn Nhoronto, Canada, a Deian yn weinidog Eglwys Gymraeg Dewi Sant yn y ddinas. Eleni roedd yr Eglwys yn dathlu canmlwyddiant ei sefydlu a chafwyd penwythnos hir o ddathliadau.

Mi fues innau'n ddigon ffodus i gael gwahoddiad i fynd draw yno i ddinas braf Toronto i gymryd rhan, ynghyd 芒 Ch么r Meibion Cymry Toronto, C么r Meibion Burlington a ch么r merched Eglwys Dewi Sant, sef Merched Dewi, yn y cyngerdd arbennig a'r Gymanfa Ganu a gynhaliwyd i nodi'r garreg filltir.

Wyddwn i ddim fod yna gymdeithas Gymreig mor fywiog i'w chael yno. Yn wir, mi ges i agoriad llygad wrth weld y bwrlwm a'r brwdfrydedd ymysg aelodau'r Eglwys. Mae diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg yn fyw iawn yno a'r Eglwys yn ganolfan nid yn unig ar gyfer addoliad yn y Gymraeg, ond ar gyfer llu o weithgareddau eraill megis dosbarthiadau Cymraeg, ymarferion c么r, dawnsio gwerin ac eisteddfodau.

Cefais groeso arbennig iawn gan bawb yno ac roedd hi'n brofiad rhyfedd bod mor bell o gartref a gallu siarad cymaint o Gymraeg! Mi wnes i lawer o ffrindiau newydd a chyfarfod ambell un o'r pen yma hefyd - fel y Parch Elwyn Hughes, Efailnewydd gynt, cyn weinidog Eglwys Dewi Sant a David Jones o Bwllheli.

Yn rhan o ddathliadau'r penwythnos cafwyd Noson Lawen a gwledd ar y nos Wener, cyngerdd mawreddog ar y nos Sadwrn a Chymanfa Ganu ar y Sul. Penwythnos bythgofiadwy, a Deian ac Annette yn ganolog wrth gwrs yn y trefnu a'r paratoi. Roedd hi'n bleser ac yn brofiad arbennig i gael hod yn rhan o'r gweithgareddau ac i gael cwmni a chyfeillgarwch aelodau Eglwys Dewi Sant, Toronto am wythnos lawn o ddathlu a mwynhau.

Gwenan Gibbard


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy