成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
John a Dic gyda'r gadair Cadair y Brifwyl
Chwefror 2005
Cyfraniad Dau Frawd
Wyddoch chwi fod yna gysylltiad clos rhwng dau o feibion Gwindy Llecheiddior, Bryncir, a chadair Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005?
John Meurig Parry, sydd bellach yn byw ger Morfa Bychan, sydd wedi dylunio a saernio'r gadair, a Dic ei frawd, sy'n parhau i fyw a ffermio yn y Gwindy, fydd yn ei chyflwyno i'r Eisteddfod, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaernarfon.

Aeth tair blynedd heibio ers i Bwyllgor Gwaith yr Undeb benderfynu noddi'r gadair, ac anfonwyd at golegau ac ysgolion i wahodd ceisiadau. Gan fod cynllun ei frawd mawr ymysg y ddau gynllun manwl a ddaeth i law, bu'n rhaid i Dic, a oedd yn Is-Gadeirydd ar y pryd, ymatal o'r broses ddethol.

Er nad oedd John wedi cynllunio cadair eisteddfodol fawr o'r blaen, ei gynllun trawiadol ef a apeliodd fwyaf ac a dderbyniodd s锚l bendith yr Eisteddfod.

Bu John yn ymddiddori yng ngwaith y saer ers pan oedd yn hogyn ifanc, ac mae ei ddyled yn fawr, meddai, i Wyn Jones, Penbryn, Garndolbenmaen ei gyn-athro yn Ysgol Eifionydd. Ar 么l hyfforddi yn y Coleg Normal, Bangor treuliodd 34 mlynedd fel athro Gwaith Coed; i ddechrau yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, yna yn Ysgol Y Berwyn, Y Bala, cyn dychwelyd i'w hen ysgol yn y Port.

Llwyn Derw, ei gartref, a ysbrydolodd gynllun y gadair, gan fod y t欧, a llawer o'r celfi sydd ynddo, yn deillio o'r cyfuod Art Nouveau: mudiad pensaern茂ol oedd yn ei fri, ym Mharis ac ar y cyfandir yn bennaf, rhwng 1892 a blynyddoedd cynharaf yr ugeinfed ganrif. Gellir gweld y llinellau troellog, sydd mor nodweddiadol o'r arddull hwn, yn blaen ym mhren golau'r gadair.

I wneud y gadair roedd yn rhaid cael pren derw o drwch arbennig wedi ei sychu mewn odyn, a chan nad oedd pren o'r fath i'w gael yn lleol, bu'n rhaid teithio i Feifod, cartref Eisteddfod 2003, i gael y deunydd crai.

Cwblhaodd John y rhan fwyaf o'r gwaith yn ystod misoedd Medi a Hydref y llynedd ac, wrth gwrs, bu'n rhaid addasu rhywfaint ar y cynllun i gyd-fynd 芒 ffurf a graen unigryw y pren.

Ar hyn o bryd, mae rhannau uchaf y gadair yng ngweithdy Martin Wenham ym Mangor, ble mae'r llythrennwr yn naddu a phaentio enw'r eisteddfod, y flwyddyn a'r nod cyfrin arnynt. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Joyce Jones, Cricieth yn pwytho dyluniad arwyddocaol ar ledr y sedd, ac mae John yn gobeithio y bydd y rhannau wedi eu huno a'r gadair wedi ei chwblhau erbyn Y Pasg.

Yn amlwg, mae Dic yn ymfalch茂o yng ngwaith ei frawd, ac yn edrych ymlaen at gyflwyno'r gadair orffenedig. Mae'n gyd-ddigwyddiad hapus fod dau frawd wedi chwarae rhan mor allweddol yn natblygiad cadair Eisteddfod Genedlaethol Eryri.

Edrychwn ymlaen i weld y gadair ddeniadol ar lwyfan y Brifwyl, gan obeithio'n fawr y bydd teilyngdod yng nghystadleuaeth Yr Awdl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy