|
|
|
Ymdrech Eifionydd Mai 2008 Cafwyd cynrychiolaeth deilwng iawn o'r ardal hon yn y R芒s am Fywyd a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ddydd Sul 11 Mai. |
|
|
|
Fel y g诺yr pawb, pwrpas y ras flynyddol hon yw codi arian at ymchwil cancr yn enw'r elusen Cancer Research U.K. Gwneir hynny trwy annog pobl i gymryd eu noddi am redeg neu gerdded tua thair milltir. Dyma'r ail dro i'r ras gael ei chynnal yng Nghaernarfon ac eleni daeth yn agos i dair mil o ferched yn bennaf, ynghyd i gymryd rhan. Yn eu plith yr oedd y criw hwyliog o Ganolfan Iechyd Cricieth, pob un ohonynt wedi penderfynu cymryd rhan am wahanol resymau. Yn 么l y genod, er
iddynt fwynhau bu'n ddiwrnod emosiynol ar lawer ystyr. Newydd golli ei mam i gancr, chwe wythnos yn 么l y mae Nyrs Helen Roberts a dywedodd bod y cyfnod pan oedd pawb yn ymgynnull cyn dechrau'r ras yn anodd iawn gan iddynt gynnal munud o dawelwch i gofio am y rhai a gollwyd. Meddai Helen, "Roeddwn i yn gweld hynny yn anodd iawn am fod fy ngholled i mor agos". Roedd Rhian Hughes, sydd wedi dioddef o gancr ei hun yn cytuno fod gweld cymaint o bobl yn wylo yn brofiad anodd iddi hithau hefyd. Bu Rhian trwy gwrs dwys o gemotherapi a bu farw amryw o'r merched oedd yn yr ysbyty yr un pryd a hi. Gwelodd Wendy
Owen amryw o aelodau ei theulu a ffrind agos yn dioddef hefyd ac roedd yn falch o fedru cyfrannu mewn modd ymarferol meddai. Cerdded er cof am ei mam, dau ewythr a modryb yr oedd Yvonne Williams ac wrth gwrs yr oedd hithau fel Nyrs Mannon Griffith yn fatch o helpu gan eu bod yn edmygu dewrder llawer o'r dioddefwyr y maent yn eu gweld yn eu gwaith bob dydd. Yr oedd Sioned Prys Thomas ymhlith y rhai cyntaf i gwblhau'r ras a llwyddodd i wneud hynny mewn amser o bum munud ar hugain. Meddai Sioned, "Roeddwn i yn falch o gael gwneud hyn am ei fod yn fodd rhywsut i ddangos ein cefnogaeth i Rhian sydd wedi llwyddo i ddangos i ni, sy'n gweithio yn y Ganolfan Iechyd, fod modd ymdopi gyda'r afiechyd creulon hwn."
Y mhlith y rhai ieuengaf i redeg yn y ras ddydd Sul yr oedd Elan Bryn, 10 oed, o Tan y Ffordd, Pantglas. Rhedodd y ras yng nghwmni ei mam Haf Hughes a
llwyddodd i godi dros 拢100 ar gyfer yr elusen.
|
|
|
|
|
|