成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
Elisabeth Hughes Cau Siop Pencae
Medi 2009
Gwawriodd un arall o arwyddion yr amserau ar Bencaenewydd.

Am y tro cyntaf ers cenedlaethau mae'r pentref heb siop.

Ar 么l 36 mlynedd tu 么 i'r cownter caeodd Elisabeth Hughes y drysau'n derfynol nos Sadwm 28 Awst.

Bydd yn chwith sobr colli'r hwylustod o bicio i siop o fewn cyrraedd, a cholli gw锚n a chymwynasgarwch y perchennog.

Daeth Elisabeth i'r siop wedi i'w modryb a'i phriod, Jane a Goronwy Parry, ymadael yn 1973 ar 么 23 mlynedd yno.

Cyn hynny perthynai'r busnes i gwmni cydweithredol lleol - y Co-op - gydag asiantaeth y post yn enw William Jones, ysgrifennydd Amaethwyr Eifionydd a rheolwr/rheolwraig yn gofalu am y siop.

Yn rheolwyr yn eu tro bu Nathan Thomas o Gricieth, O.J. Roberts o Fryncroes (y g诺r a arweiniai'r canu ar y traeth yng Nghricieth, gynt), Griffith Williams (tad y Parch John Wyn Williams, Hen Golwyn) Jane Catherine Owen (Jones wedi hynny, mam Alun Ll锚n Llyn) a Nansi Thomas o Lithfaen.

Cyn dyddiau'r Co-op cedwid y siop gan Letitia Griffith, mam Tal Griffith, y cyfrifydd ac arweinydd C么r Glannau Erch erstalwm.

Ar 么l gadael yr ysgol bu Elisabeth am gyfnod yn gweithio yn labordy y ffatri laeth yn Rhydygwystl ac yna mewn tair swydd ym Mhwllheli - yn gweinyddu yng Nghaffi Bodawen ar y gornel, yn clercio a gwerthu petrol yn garej Russel ac am 12 mlynedd yn siop Wellfield gyferbyn 芒'r Post Mawr.

Dywed Lis, sy'n 67 oed, iddi fwynhau ei blynyddoedd yn siop Pencae yn fawr iawn.

Bydd yn chwith ganddi golli'r gwmn茂aeth ac yn arbennig syniadau a dywediadau gwreiddiol y plant.

Yn werthfawrogiad o'i gwasanaeth a'i chyfeillgarwch cyflwynwyd anrheg iddi gan yr ardalwyr.

Er bod y siop wedi cau y mae Ifan Garej Llanaelhaearn, brawd Elisabeth, yn ymorol fod pawb a'u myn yn dal i gael eu papurau newydd yn lleol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy