The Wicker Man (2006) Mynd i'r gwellt
Y s锚r
Nicolas Cage, Ellen Burstyn, Kate Beahan, Frances Conroy, Molly Parker, Leelee Sobieski
Cyfarwyddo
Neil LaBute
Sgrifennu
Neil LaBute - gan ddilyn Anthony Shaffer
Hyd
115 munud
Sut ffilm
Ailbobiad o ffilm ddychryn o'r un enw a wnaed yn 1973 gan Robin Hardy a sgript afaelgar gan Anthony Shaffer.
Ond tra bo honno wedi ei lleoli ar ynys bellennig oddi ar arfordir gorllewin yr Alban symudwyd y stori ar gyfer y cynhyrchiad hwn i ynys yn y Puget Sound oddi ar arfordir gogledd orllewinol yr Unol Daleithiau.
Crewyd dechrau a diwedd newydd i'r stori ond yn ei hanfod yr un stori yw hi.
Y stori
Plismon sy'n cael anhawster dod dros ddamwain ffordd erchyll y bu'n dyst iddi, lle lladdwyd mam a'i merch fach, ydi Edward Malus y prif gymeriad.
Mae'n teithio i ynys Summersisle yn dilyn llythyr gan hen gariad iddo sy'n byw yno yn crefu am ei help i ddod o hyd i'w merch fach sydd wedi diflannu.
Mae cyrraedd Summersisle fel camu'n 么l ddwy ganrif o ran gwisgoedd ac i gymdeithas fatriarchaidd lle nad yw'r dynion ond gweision mud a lle yr arferir defodau paganaidd a'u pwyslais ar ryw a ffrwythlondeb corff a daear.
O dipyn i beth sylweddola Malus mai dichell sydd wedi ei hudo yno a bod ei fywyd yntau mewn perygl wrth iddo geisio dod o hyd i'r ferch fach sydd wedi diflannu.
Mae'r cyfan yn cyrraedd yr un uchafbwynt erchyll a The Wicker Man gwreiddiol ond bod y cyfarwyddwr newydd, Neil LaBute, yn cynnig tro ychwanegol yn y gynffon cyn ffarwelio.
Y canlyniad "Mae rhywbeth ofnadwy ar fin digwydd - fe allai deimlo hynny," meddai Edward Malus yn fuan yn y ffilm - a phe byddai'n s么n am y ffilm ei hun byddai yn llygaid ei le!
Ffilm 'B' rad oedd The Wicker Man wreiddiol - yn cael ei dangos yn y sinem芒u i lenwi'r amser cyn gweld Don't Look Now gyda Julie Christie a Donald Sutherland - ond dros y blynyddoedd enillodd lawer o edmygwyr gyda'r olygfa olaf erchyll ymhlith golygfeydd mwyaf cofiadwy y sinema.
Tystysgfrif 15 sydd i ffilm 1973. Mae'r ffaith mai 12A yw hon yn dweud cyfrolau. Sut gellir cymryd o ddifrif ffilm ddychryn y mae hawl i fynd a phlentyn pump oed gyda chi i'w gweld?
Heb os, camgymeriad dybryd oedd newid lleoliad y ffilm ac y mae gosod y digwyddiadau mewn cymdeithas sydd wedi goroesi, o ran gwisg ac edrychiad, o'r ail ganrif ar bymtheg yn gamgymeriad dybryd ac yn ein hatgoffa'n ormodol o ffilm ddiweddar Night Shyamalan, The Village.
Yr hyn oedd yn gwneud y Summerisle Albanaidd (Summersisle erbyn hyn am rhyw reswm) yn wirioneddol sinistr a bygythiol oedd ei bod yn ymddangos ar yr wyneb fel unrhyw gymuned arall a dim ond bob yn dipyn y mae'r plismon Neil Howie (Edward Woodward) a ninnau yn sylweddoli bod rhywbeth mawr o'i le ar yr ynys ddiarffordd hon.
Mae'r gwrthdaro, rhyngddo ef, y plismon crefyddol sy'n bregethwr lleyg ar y tir mawr, a Lord Summerisle gymaint mwy effeithiol na'r gwrthdrawiad rhwng Malus 芒 Sister Summersisle.
Hefyd, cymhlethu pethau heb ddiben y mae'r ffaith fod Malus yn cael hunllefau yn dilyn y ddamwain ffordd y bu'n dyst iddi.
Ac y mae cymaint o elfennau effeithiol yn y ffilm wreiddiol na chawsant eu trosglwyddo i'r un newydd - yn arbennig y ffordd iasol y gosodir llawenydd s诺n cerddoriaeth werin yn gyfeiliant i ofn ac arswyd.
Profwyd unwaith yn rhagor ei bod yn well peidio 芒 mynd ati i drwsio rhywbeth sydd ddim wedi malu. Anfantais pennaf y ffilm hon yw ei bod yn methu rhagori ar yr hyn y mae'n ceisio'i wella a hithau wedi ei thynghedu i gael ei chymharu a honno.
Perfformiadau O ystyried y mela 芒 fu gyda'r stori mae Nicolas Cage yn cael gwell hwyl na'r disgwyl arni gyda pherfformiad sydd yn un tra gwahanol i un Edward Woodward yn y gwreiddiol. Un o'i arfau pennaf, heb amheuaeth, yw ei wyneb diddorol.
Ellen Burstyn fel Sister Summersisle yw'r pen dihiryn y tro hwn ond nid yw'n creu yr wythfed ran o'r ias ac a gr毛wyd gan Christopher Lee yn felfed ac yn ddur bob yn ail fel Lord Summerisle yn 1973 pan oedd y gwrthdaro rhyngddo ef a Howie yn ffrwydrol.
Ambell i farn Mae gwefan ffilmiau y 成人快手 yn holi pam y byddai cyfarwyddwr o safon LaBute eisiau blotio'i gopibwc gyda'r fath ailbobiad. "Chwerthinllyd o s芒l gydag actio ofnadwy," meddir.
Yr un modd yr Observer sy'n dweud mai gweithred annoeth iawn ar ei ran LaBute oedd hon.
Darnau gorau Yr agoriad.
Y dyn gwiail.
Ymhlith y cychod gwenyn.
Er cof Edward Malus ydi enw'r plismon yn 2006 a Willow Woodward yw enw ei gariad sy'n ei ddenu i'r ynys.
Gwerth ei gweld? Nid tra bo CD o'r gwreiddiol yn dal ar gael - oni bai eich bod yn un sy'n cael dileit mewn cymharu.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|