Red Eye Braw yn yr awyr - ymlid ar lawr
Y s锚r Rachel McAdams, Cillian Murphy, Brian Cox, Jayma Mays
Cyfarwyddwr Wes Craven
Sgrifennu Carl Ellsworth
Hyd 85 munud
Sut ffilm Ffilm dyndra lle mae merch ifanc mewn perygl oddi wrth ddyn sy'n ymddangos yn gyfeillgar ar y cychwyn. Y cyfarwyddwr ydi Wes Craven a ddaeth i amlygrwydd - a phoblogrwydd - gyda'r ffilmiau Scream ac er iddo hepgor yr horror traddodiadol y tro hwn y mae 么l rhywfaint o'r feddylfryd honno ar ddiwedd y ffilm hon hefyd.
Y stori Wrth hedfan i Hawai mae rheolwraig gwesty, Lisa Reisert (Rachel McAdams), yn gwneud ffrindiau o deithiwr arall, Jackson Rippner (Cillian Murphy).
Ond er gwaethaf ei gyfeillgarwch cychwynnol dyn drwg ydi Jack a'r pris y mae'n gorfodi Lisa i'w dalu am beidio a'i gynorthwyo yn ei ymdrech i ladd gwleidydd blaenllaw yw bywyd ei thad ei hun.
Ar amrantiad try taith awyren, 30,000 troedfedd uwchben y ddaear yn hunllef i Lisa. Sut y gall hi achub nid yn unig y gwleidydd yn ei gwesty ond ei thad hefyd?
Ond yn dilyn ymosodiad rhywiol arni yn y gorffennol mae mwy o blwc yn Lisa nag a dybiodd Jack - er mawr ofid iddo!
Y canlyniad Gorau'n byd, lleia'n byd a ddywedir am y plot anhebygol.
Ffilm ddigon gafaelgar gyda helfa fygythiol ar y diwedd.
Efallai fod mymryn gormod o dindroi ar y cychwyn yn ystod y cyfnod o ymgyfeillachu/fflyrtio rhwng Jack a Lisa yn y maes awyr ond unwaith y mae'r stori go iawn yn cychwyn yng nghaban yr awyren mae digon i gadw rhywun ar ymyl ei sedd.
Er bod elfennau o Hitchcock dydi'r gwead ddim mor gywrain 芒'r hyn a ollyngwyd o law y meistr - ond pwy sy'n cwyno ar gyfnod digon dreng yn y sinema?
Y darnau gorau I droi eich stumog - sticio Jack ar yr awyren.
Lisa yn trafod y ddau gwsmer cwyngar ar ddiwedd y ffilm.
Yr ymlid yng nghartref tad Lisa.
Perfformiadau Hei, peidiwch ag anghofio Cynthia (Jayma Mays) sy'n fendigedig fel y ferch led benwan yn nerbynfa y gwesty a reolir gan Lisa. Gellid fod wedi gwneud mwy o'r rhan hon er mwyn dwyn elfen o hiwmor i'r ffilm ac ychwanegu at y tyndra.
Mae McAdams a Murphy yn rhagorol yn eu rhannau hwythau yn enwedig yn ystod y golygfeydd clos ar yr awyren.
Yn ystod yr ymlid ar y diwedd perthyn rhyw naw byw cath rhyfeddol i Jack ac er yn cael ei drywanu, ei ffustio a'i saethu yn dal i godi'n fygythiol.
Rhai geiriau "Does gen i ddim syniad sut dwi'n mynd i egluro hyn," meddai Cynthia ar 么l i'r gwesty gael ei chwythu'n yfflon.
Gystal 芒'r trelar? Ydi.
Ambell i farn Plesiwyd y rhan fwyaf er nad oes yna delynegu gwirion - classy a byrlymog ymhlith ansoddeiriau gwefan Saesneg y 成人快手.
Y ffilm fwyaf cyffrous sydd o gwmpas ar hyn o bryd meddai'r Observer sy'n cael ei atgoffa o The Man Who Knew Too Much Hitchcock.
Thriller o'r radd flaenaf meddai'r Sunday Times ond yn ein rhybuddio i beidio a chraffu'n rhy fanwl ar y plot!
Gwerth mynd i'w gweld? Awran ddifyr ddigon.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|