Shorts in Colour Amrywio rhwng y telynegol a'r cartwnaidd
Adolygiad Gwyn Griffiths o ffilmiau byrion yn ymwneud 芒 chefndiroedd ethnig. UWIC - campws Cyncoed Caerdydd. Chwefror 2005
Bu'n brynhawn difyr o wylio ffilmiau byrion wedi ei gwneud gan ddoniau newydd, ifanc, o'r gymuned ddu ac ethnig yng Nghymru yng nghanol llond stafell o fyfyrwyr. Dangoswyd saith o ffilmiau i gyd, yn amrywio o'r telynegol i'r cart诺n ac i'r haniaethol - y mwyafrif yn ymdrin ag ymateb pobl ethnig i Gymru, ac ymateb y Cymry iddyn nhw.
Roedd dwy o'r ffilmiau yn Gymreig a Chymraeg iawn, D诺r Dwfn a Journey Man.
O Somalia Ffrwyth cystadleuaeth stori fer a drefnwyd gan S4C oedd D诺r Dwfn, ffilm ddeng munud wedi ei chynhyrchu gan Catrin Clarke, awdur buddugol y gystadleuaeth.
Daw merch ifanc o Somalia i fyw i dref yng Nghymru lle mae pawb yn siarad Cymraeg.
Mae pawb yn cefnu arni, gan gynnwys y bobl ifanc eraill er bod un ferch ddu yn eu plith, a'r siopwr a chwaraeir gan John Ogwen. Gwelwn hi'n crwydro hyd lwybrau rhan uchaf Cwm Nedd, ffilmio hyfryd o olygfeydd coediog a'r rhaeadrau.
Yna mae'n gweld y merched eraill yn gwylio bechgyn yn neidio o ben y rhaeadr i'r pwll. Aiff hithau i ben y rhaeadr a neidio i'r pwll yn ei gwisg Somalaidd frodorol a thrwy hynny ennill edmygedd a chyfeillgarwch y merched eraill.
Mae hi'n plymio i'r "d诺r dwfn" mewn mwy nag un ystyr.
Diddorol iawn oedd llurgunio sain y siarad fel ein bod ni'r gynulleidfa'n clywed y geiriau fel mae'n debyg y buasai'r Somaliad ifanc yn eu clywed -clywed ond heb ddeall. Ffilm delynegol o stori delynegol, hyfryd.
Cuddio ar long Dyn o Sierra Leone, sy'n cuddio ar long a glanio yng Nghymru, yw Journey Man.
Mae'n cyrraedd pentref Cymraeg a phan fo gwraig y dafarn yn deall mai Mohammad Ali yw ei enw, mae'r ddau'n cael hwyl yn trafod bocsio.
Mae yma olygfeydd doniol fel pan fo'r Moslem yn cael selsig cig moch ymhlith pethau eraill i frecwast a dod yn ffrindiau mawr gyda'r ci!
Wyddon ni byth beth all dynnu pobl at ei gilydd - yn yr achos hwn hoffter o focsio, a dim cig moch.
Gwersyll ffoaduriaid Hoffais yn fawr y ffilm Shadi gan Mahdi Fleifel am fachgen awtistig mewn gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd. Mae bachgen arall yn dwyn ei golomen a chawn hanes ei ymdrech i'w chael yn 么l.
Mae'n stori annwyl a thrist. Tristwch a danlinellir gan y tai a'r muriau adfeiliedig - ond yn llawer o hiwmor a dewrder.
Pryd blasus Fy ffefryn mawr arall oedd Dee's Dish Of The Day - ffilm gart诺n gan Kyle Legall, lle mae'r cogydd Dee yn cyflwyno'i rys谩it am y dydd ac yn hel atgofion yn ddifyr a doniol yr un pryd.
Tair merch Yn Brown Girl mae tair merch fach yn dod i fyw yng Nghymru ar 么l gadael eu hynys hardd yn Barbados oherwydd ysgariad eu rhieni.
Mae'r golygfeydd o draethau'r India'r Gorllewin yn hyfryd ac yn cyferbynnu'n dda 芒'r golygfeydd trefol a llwydaidd yng Nghymru.
Herio labeli Y ffilm arall ar y rhaglen oedd Exhale ... gan Aparna Sharma am fachgen ifanc o'r India yn herio'r labeli arferol a roddir arno gan y gymuned drwy ymddwyn mewn ffordd annisgwyl ac ymuno ym mhob math o weithgareddau na chysylltir hwy a'r India.
Ond fedrwn i ddim gwneud llawer o'r stori hon.Byd barbwr Cafwyd un ffilm arall, ychwanegol, Barrie the Barber, gan gwmni Osmosis heb unrhyw gymeriadau du nag ethnig ynddi.
Ond bod Barrie, fel sawl barbwr arall, yn Eidalwr.
Mae ambell ennyd ddoniol ynddo fel pan ddaw g诺r mawr, moel, y tebyca welwyd erioed i Craig Quinnell, i mewn.
"Yr arferol?" meddai Barrie.
Mae'r dyn yn amneidio ac y mae Barrie'n mynd a'i glipars dros ben moel y cawr a chymryd ei d芒l, papur decpunt, a rhoi dim newid iddo. Bargen s芒l!
Roedd y ffilmiau hyn o blith goreuon Gŵyl Ffilm Ethnig 2003 ac eisoes fe'u gwelwyd mewn amryw sefydliadau yng Nghymru a Lloegr, Barbados, Chicago a'r India ac fe'u gwelir yn Affrica yn ystod yr wythnosau nesaf.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|