'We Own The Night' (2007) Ceidwad ei frawd
Y S锚r:
Joaquin Phoenix, Mark Wahlberg, Robert Duvall, Eva Mendes, Alex Veadov
Cyfarwyddo:
James Gray
Sgrifennu:
James Gray
Hyd:
117 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Cefais archwaeth am ragor o ffilmiau trosedd ar 么l gwylio'r ffilm American Gangster ac er bod We Own the Night gan y cyfarwyddwr James Gray yn wahanol iawn o ran cynllun a chymeriadau mae yna elfennau tebyg iawn yn y ddwy ffilm a dyna pam yr hoffais i hi mas draw.
Mae Bobby (Joaquin Phoenix) yn ddyn llwyddiannus sy'n rhedeg clwb poblogaidd iawn. Mae ganddo bopeth mewn bywyd gan gynnwys digon o arian a sboner bert ac mae'n delio 芒 chyffuriau anghyfreithlon.
Mae ei frawd (Mark Wahlberg) yn hollol wahanol, yn blismon llwyddiannus iawn sydd ar drywydd smyglwr cyffuriau peryglus iawn sy'n berchen y clwb mae Bobby yn ei redeg.
Mae tad y ddau frawd (Robert Duvall) yn blismon hefyd, ac mae pethau yn newid pan yw brawd Bobby yn cael niwed a Bobby yn penderfynu ei helpu i ddala'r smyglwr cyffuriau a chan ei fod yn delio 芒 chyffuriau ei hunan mae'n defnyddio ei ffrindiau sy'n droseddwyr i'w helpu.
Mae hon yn ffilm dda iawn yn canolbwyntio ar un sy'n cael ei orfodi i wneud y dewis pwysig iawn o unai helpu ei hunan neu aberthu llawer trwy helpu ei deulu.
Mae Joaquin Phoenix yn arbennig fel Bobby sy'n wynebu'r dewisiadau hyn.
Hoffais berfformiad Mark Wahlberg fel brawd Bobby, oherwydd mae'n pwysleisio pa mor anodd yw hi i wneud dewisiadau sy'n effeithio ar fywydau eraill gan gynnwys ei deulu, ac er ei bod yn ymddangos ei fod yn cas谩u ei frawd gwyddom fod llawer o gariad rhwng y ddau.
Fel arfer, mae Robert Duvall sy'n actor ardderchog yn wych fel y tad.
Heb os, mae hon yn ffilm sy'n llwyddo i ddangos pa mor beryglus oedd yr Efrog Newydd nol yn yr Wythdegau a sut yr oedd cyffuriau yn dinistrio bywydau diniwed.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|