Australia Cynhyrchiad nad yw'n siomi!
Y S锚r Nicole Kidman, Hugh Jackman, Brandon Walters
Cyfarwyddo Baz Luhrmann
Sgrifennu Baz Luhrmann, Stuart Beattie, Ronald Harwood, Richard Flanagan
Hyd 165 munud
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Cynhyrchiad hir-ddisgwyliedig y dewin o Down-Under, Baz Luhrmann, yw Australia a rhaid dweud nad yw'n siomi.
Yn wir, wrth ei heipio i'r entrychion, disgrifiodd ei chfarwyddwr hi fel fersiwn Awstralia o Gone With the Wind ac os cofiwch chi'r cynhyrchiad mawr, rhamantus, dros-ben-llestri hwnnw mae'r gymhariaeth yn un ddigon teg.
Golygfa ysgubol Mae'r ffilm yn dechrau 芒 golygfa ysgubol o baith di-ddiwedd talaith y Northern Territory ac o fewn dim cawn ein cyflwyno - trwy ei droslais ei hun - i Nullah, bachgen naw oed o dras Aborigini a'i dad-cu, y dewin a'r penteulu King George, wrth iddynt droedio'r tir ar walkabout.
O fewn dim, daw criw o borthmyn gwynion yn croesi afon 芒 gyrr o wartheg i darfu ar yr olygfa hon.
Mae King George, sydd wedi hen brofi uchelgais anwar ei gymdogion gwyn, yn cynghori Nullah i "ddiflannu", ac wrth iddo blymio i ddyfnderoedd yr afon gerllaw, y peth nesaf a w锚l yw canlyniad llofruddiaeth yr Arglwydd Ashley a saeth wydr seremoniol trwy'i galon gan ddyn mewn sgidie crocodeil.
Achubir Nullah o'r afon gan King George a charlama'r bachgen ar ferlen y Sais i'w gartref ger yst芒d Farway Downs.
Dyma hefyd pryd gwelwn ni newydd ddyfodwraig yn cyrraedd yr ystad wartheg- yr Arglwyddes Sarah Ashley, gwraig y diweddar reolwr, ar ddiwedd taith faith i ddarganfod paham fod yn well gan y bonheddwr dreulio'i amser ym mhendraw'r byd nag yn cadw cwmni iddi hi yn eu plasty moethus yn ne Lloegr.
Yn gyfrifol am ei chludiant o borthladd Darwin y mae Drover, porthmon enigmatig sydd yn well ganddo gwmni'r Brodorion na'r Foneddiges ffyslyd.
Mae ef ar fin ffarwelio 芒 hi pan ganfu Arglwyddes farwolaeth ei g诺r, a chynllun is-reolwr yr yst芒d, Neil Fletcher (David Wenham) i'w twyllo trwy ychwanegu gwartheg Faraway Downs at yrr helaeth yr unig gystadleuaeth - "King " Carney (Bryan Brown, ar ei orau) - er mwyn iddo yntau arwyddo cytundeb i gyflenwi holl gig eidion y Fyddin Brydeinig yn y M么r Tawel ar drothwy'r Ail Ryfel Byd.
Dim ond un dewis Ymddengys nad oes gan yr Arglwyddes ond un dewis, perswadio Drover i arwain t卯m o borthmyn cwbl amhrofiadol - gan gynnwys y bachgen Nullah, yr Arglwyddes ei hun, a'i meddwyn o gyfreithiwr - i yrru dwy fil o wartheg Farway Downs dros y paith i long ryfel y fyddin yn Darwin cyn bod King Carney yn cael cyfle i arwyddo'r cytundeb.
Wnan nhw gyrraedd mewn pryd? A ddaw Drover a'r Arglwyddes i ddeall ei gilydd cyn diwedd y daith?
Cyn ymhelaethu gwell pwysleisio mai traean cynta'r ffilm yn unig yw hyn ac yn sylfaen gadarn i Luhrmann gyfuno golygfeydd ysgubol o Ogledd Awstralia gyda chyffro ffilm Western, a d么s go dda o hiwmor a rhamant.
Dydy'r ffilm ryfel - sef prif elfen y cynhyrchiad - ddim yn cychwyn tan ymhell ar 么l i'r criw ddychwelyd i Faraway Downs, a hynny ar achlysur un o'r cyrchoedd lleiaf adnabyddus yn hanes yr Ail Ryfel Byd, bomio dinas Darwin gan y fyddin Siapaneaidd ym 1942.
Rhwng hyn oll, dilynir hanes Nullah - y bachgen amddifad sy'n pontio'r diwylliant gwyn a'r diwylliant brodorol gan gynrhychioli carfan o'r boblogaeth y cyfeirir atynt bellach fel y Genhedlaeth Goll.
Plethu A chyn inni anghofio mai ffilm gan y King of Camp yw Australia, ceir cyfeirio cyson at un o brif ffilmiau'r cyfnod, The Wizard of Oz, gan blethu mytholeg Dreamtime y Brodorion 芒 breuddwydion a wireddir "draw dros yr enfys."
Oes, mae yna wendidau; sgript wan ar adegau, tuedd i orsentimentaleiddio profiad y Brodorion ac wrth gwrs ambell i olygfa sy'n teimlo fel hysbyseb estynedig ar ran Bwrdd Twristiaeth Awstralia - ond mae modd maddau hyn oll gan fod yma chwip o stori a phob eiliad wedi'i chynllunio i'r dim diolch i weledigaeth Luhrmann a llygad barcud ei lefftennant cyson, Catherine Martin.
Er nad ydw i'n rhagweld gwobrau i'r prif actorion - er mor hwyliog yw'r rhamant rhwng y Nicole brydferth a'r Hugh golygus (enillydd haeddiannol gwobr Sexiest Man Alive 2008 cylchgrawn People) - mae gan Brandon Walters siawns dda cipio enwebiad neu ddau yng nghategori'r actor cynorthwyol gorau am ei bortread hynod hoffus o Nullah, y cymeriad sydd yn cynrhychioli gwir galon y ffilm.
Meddwl agored
Fy nghyngor i fyddai mynd i weld Australia gyda meddwl - a chalon - agored, hances boced neu ddwy, a gadael eich sinigiaeth wrth y drws, er mwyn ei gwerthfawrogi hi'n llawn.
Mae wastad yn bleser gweld ffilm gan Baz Luhrman, gan mai ef yw un o'r unig gyfarwyddwyr cyfoes a all arlwyo gwledd i'r llygaid gyda joch o hud hen-ffasiwn Hollywood.
Yn wyneb hygyrchedd dvd's a'r rhyngrhwyd, mae e'n deall i'r dim pam fod miliynau o bobol yn dal i dyrru i'r sinema am ddihangfa wythnosol, a dyma paham mai Luhrman bellach gaiff ei ystyried yn Wizard of Oz.
|
|