The Lake House (2006) Chwilio am amser i garu
Y s锚r
Keanu Reeves, Sandra Bullock, Dylan Walsh, Shohreh Aghdashloo, Christopher Plummer
Cyfarwyddo
Alejandro Agresti
Sgrifennu
David Auburn - yn dilyn ffilm o Dde Korea, Il Mare.
Hyd
98 munud
Sut ffilm
Ffilm amser sy'n drwm o ramantiaeth ond ei rhesymeg 芒 mwy o dyllau na gogor.
Y stori
Wrth adael ei chartref ger y llyn yn 2006 mae'r meddyg Kate Forster (Sandra Bullock) yn gadael neges yn y blwch llythyrau yn gofyn i'r preswylydd nesaf anfon ymlaen unrhyw lythyrau a ddaw iddi. Derbynnir y neges honno gan Alex Wyler (Keanu Reeves) sy'n byw yn y t欧 yn 2004.
Beth bynnag, mae'r llythyru yn parhau drwy'r blwch llythyrau hudol ger y t欧 sydd ger y llyn a'r ddau yn syrthio mewn cariad a'i gilydd. Ef yn ei amser ef a hithau yn ei hamser hithau ddwy flynedd yn ei ddyfodol ef.
Y cwestiwn yw sut y mae dod 芒'r ddau gariad ynghyd - hi yn feddyg mewn ysbyty yn Chicago ac yntau yn bensaer yn y ddinas honno yn byw ei fywyd ddwy flynedd yn 么l iddi hi.
Mae'n gwneud ichi feddwl am y bachgen bach yn gofyn i'w dad, "Os rydw i yn ddeg eleni, faint o amser mae hi'n mynd i gymryd imi ddal i fyny efo chi?"
Y canlyniad Be di'r broblem? Unwaith y mae'r ddau yn gwybod am fodolaeth ei gilydd onid mater bach fyddai hi iddyn nhw drefnu cyfarfod a'i gilydd? Dyw yr un ohonyn nhw yn meddwl edrych yn llyfr ff么n ei gyfnod er enghraifft.
Ond yn y ffilm maen nhw'n gwneud m么r a mynydd o bethau - neu lyn a mynydd a th欧 efallai - gydag Alex yn trefnu cyfarfodydd aflwyddiannus gyda hi ddwy flynedd yn ei ddyfodol.
Wrth gwrs, fyddai yna ddim ffilm pe byddai pob twll mewn rhesymeg wedi ei lenwi ac y mae sawl un o'r farn nad drwg o beth fyddai hynny.
Ond hei, o anwybyddu pethau fel rhesymeg a synnwyr cyffredin mae The Lake House yn cynnig orig ddigon pleserus o ddifyrrwch i rai ag amser ar eu dwylo yn hytrach nag ar eu meddwl.
Ambell i farn Rhamant "digon dymunol" i fwydo ynddi yn 么l gwefan Saesneg y 成人快手..
Dydi'r Observer ddim mor garedig gan ddisgrifio The Lake House fel ymdrech ddiweddaraf Sandra Bullock i gyflawni hari-kiri ar sgrin.
Mae adolygydd ar y we yn disgrifio Reeves fel "the acting version of Pinocchio" - bachgen pren sy'n breuddwydio am fod yn actor o ddyn."
Nid pawb sydd mor llawdrwm ac er yn cydnabod fod y syniad yn un braidd yn wirion mae yna ganmol i 'afael' y stori a hynny'n cael ei grynhoi gan y sylw fod stori garu bob amser yn drech na rhesymeg gwyddonol.
Perfformiadau Er yr ymdrech i'n diddori 芒 pherthynas Alex a'i dad (Christopher Plummer) a Kate a'i mam stori gyda dim ond dau gymeriad yw hon mewn gwirionedd.
Ac o'r ddau, Bullock sy'n cael y ganmoliaeth - yn enwedig am ei llwyddiant yn chwarae rhan synhwurus a thra gwahanol i'r un a chwaraeodd ddiwethaf gyferbyn a Reeves yn Speed
Ond na fydded inni anghofio Jack y ci ychwaith - ef i'w weld yn rhychwantu'r ddau gyfnod y mae'r ddau gariad yn byw ynddyn nhw.
Rhai geiriau"Fy amser i, dy amser di. Mae gennym ni'r un ci!"
"Ar dy ddiwrnod i ffwrdd dos cyn belled a phosibl oddi wrth hyn - dos i'r lle yr wyt ti'n teimlo debycaf i ti dy hun."
Mae hi'n rhyw fath o berthynas bell . . ."
Gwerth ei gweld? Os oes gennych chi amser! Diddorol gweld Bullock yn chwarae rhan wahanol i'r arfer.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|