Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit Cadernid traed o glai
Y s锚r Lleisiau Peter Sallis, Ralph Fiennes, Helena Bonham Carter, Peter Kay a Nicholas Smith
Cyfarwyddo Nick Park a Steve Box
Sgrifennu Bob Baker, Steve Box, Mark Burton, Nick Park
Hyd 85 munud
Sut ffilm Ffilm a fydd wrth fodd calon y rhai hynny a fwynhaodd A Close Shave, The Wrong Trousers, Chicken Run ac sy'n dotio at greadigaethau clai hyfryd Creature Comforts.
Y stori Yn dal i wisgo'i fest rwyd ac yn dal i sglaffio caws mae Wallace (Peter Sallis) erbyn hyn yn rhedeg cwmni atal pl芒u, Anti-Pesto, gyda'i gi ffyddlon, Gromit, yn fwy na chymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.
Yn wir, er mai Wallace ydi'r dyfeisydd yn y bartneriaeth Gromit ydi'r br锚ns go iawn.
Ar drothwy'r sioe lysiau leol mae Anti-Pesto'n brysurach nag erioed yn amddiffyn llysiau'r trigolion rhag pla o gwningod rheibus.
Mor effeithiol y ddeuawd maen nhw'n cael eu cyflogi gan wraig y plas, Lady Tottingham (Helena Bonham Carter), sydd wrth ei bodd 芒'u dull caredig o gael gwared 芒'r cwningod trwy eu sugno o'u twnelau gyda'r Bun-Vac 6000 a ddyfeisiwyd gan Wallace fel y gellid eu cadw'n fyw mewn cewyll yn ei gartref wedyn.
Fodd bynnag, wedi i arbrawf i ail-ffurfio meddwl cwningen gydag un arall o'i ddyfeisiadau - y Mind-O-Matic - fynd o chwith mae Wallace yn creu anghenfil o gwningen sy'n troi liw nos yn Were-rabbit rheibus.
Yr her yn awr yw dofi'r gwningen erchyll hon.
Yn gefndir i hyn mae stori garu gyda Lady Tottingham ei hun wedi ymserchu yn Wallace er mawr ofid i'r seimllyd Victor Quartermaine (Ralph Fiennes) sydd wedi mopio'n llwyr 芒 hi.
Y canlyniad Cymeriadau clai sy'n fwy hwyliog ac yn ddifyrrach na sawl actor o gig a gwaed.
Mae yma gybolfa hyfryd o gyfeiriadau at ffilmiau eraill fel The Wolf Man, Frankenstein a King Kong lle mae parodi gyflawn o'r bwystfil hwnnw yn dringo tyrau'r ddinas a'r awyres yn ei law!
Mae ymladdfa dogfight gyda Gromit - wrth gwrs, mewn dogfight - yn hedfan fel y Red Baron.
Mae yna hyd yn oed gandi-flos yn cael ei sgubo gan yr awel fel y tumble-weed, a fu mor ddefnyddiol i Hollywood dros y blynyddoedd.
Ond nid oes angen gwybodaeth drwyadl o fyd ffilm i werthfawrogi'r gymysgedd hyfryd o naws comed茂au Ealing a ffilmiau dychryn Hammer.
Y darnau gorau Mae yna gymaint ohonyn nhw: Dyfeisiadau Heath Robinson Wallace. Y were-rabbit yn llusgo'r car dan ddaear.Wallace yn codi'r bore a gorfod cael help drwy'r twll yn y llawr am ei fod yn rhy dew. Dyfodiad y Were-rabbit.
Perfformiadau Y lleisiau oll yn gweddu i'r dim.
Gystal 芒'r trelar? Heb weld un ond byddai'n anodd difetha hon.
Ambell i farn Graddfeydd o ganmoliaeth sydd yna heb fawr neb yn tynnu'n groes.Y ffilm orau o'i bath a welodd o erioed meddai David Edwards gan roi pob un o'i bump o s锚r i Wallace yn y Daily Mirror a defnyddio geiriau fel funniest, sharpest a most soulfulGwych ac yn llawn doniolwch iach yn 么l gwefan Saesneg y 成人快手. Pennawd y Guardian ydi, Bunny ha-ha sy'n dweud y cyfan.
Yn y cefndir Rhaid gwylio'n ofalus am gyffyrddiadau gogleisiol yn y cefndir megis y llyfrau ar silffoedd y bwyt盲wr caws awchus, Wallace; East of Edam a Fromage to Eternity. Allwch chi ddim fforddio tynnu eich llygaid oddi ar y sgr卯n am eiliad mae yna rywbeth i'ch goglais gydol yr amser.
Heb s么n am yr 么l bysedd ar Gromit!
Ambell i air "Rydw i'n credu na ellir cyfiawnhau lladd creaduriaid fflyffi" - Lady Tottingham. Wallace am y Bun-Vac: "It's capable of 125 rpm - that's rabbits per minute." Wallace am gwningod: "Y peiriannau distrywio llysiau perffaith .
Gwerth mynd i'w gweld? Ydi - gyda neu heb y plant.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|