Scooby Doo 2 : Monsters Unleashed Dychrynllyd heb fod yn rhy ofnadwy Ebrill, 2004
Sut ffilm? Am yr eildro perfformir anturiaethau cymeriadau cartwn Scooby-Doo gan actorion go iawn ac un cymeriad cartwn (Scooby ei hun) a nifer o greaduriaid digidol eraill.
Weles i mo'r Scooby cyntaf ac er nad yw Scooby 2 yn ofnadwy o bell ffordd, go brin y trafferthai i weld Scooby 3 os bydd yna un.
Hynny, er i rai ddweud <i>fod </i>yr ail yn well na'r cyntaf. Druan o'r cyntaf, felly.
Y stori Cychwyn pethau gydag agoriad swyddogol mawreddog yn Coolsville o amgueddfa er clod am orchestion Mystery Inc - sef Scooby a'i gyfeillion; Fred, Daphne, Velma a Shaggy.
Ond mae'r cyfan yn troi'n drychineb hunllefus wrth i fodelau erchyll o hen elynion yn yr amgueddfa gael anadl einioes a dod yn fygythiad gwirioneddol i Coolsville a'r trigolion - ond, yn waeth na hynny, maen nhwn gwneud i Mystery Inc edrych yn wirion yng ngolwg pobl.
Am weddill y ffilm mae pob gewyn o'r blew yn yr ymdrech i ffrwyno unwaith eto hen elynion fel The Zombie, Captain Cutler, Miner 49er, y Sgerbydau unllygeidiog a'r 10,000 Volt Ghost a darganfod pwy sydd tu ôl i'r cynllwyn dieflig i'w troi nhw'n fygythiadau byw unwaith eto.
Daw sawl un dan amheuaeth gan gynnwys ceidwad yr amgueddfa ((Seth Green) y mae Velma (Linda Cardellini) wedi rhyw how syrthio mewn cariad ag ef.
Yn ddraenen barhaus yn eu hystlys a bron cymaint o boen a'r drychiolaethaueu hunain mae Heather, y newyddiadurwraig deledu (Alicia Silverstone).
Y canlyniad Mae cyfle ar ôl cyfle i Raja Gosnell roi technegau digidol ar waith er mwyn creu pob math o olygfeydd yn ymwneud â'r drychiolaethau yn sgrechowndian yn llawn fflachiadau o liwiau ffrwydrol o gwmpas y sgrîn.
Dyma destun y rhan fwyaf o'r hiwmor ar wahan i Shaggy a Scoob diglem yn baglu nid yn unig ar draws ei gilydd ond ar eu traws eu hunain!
"Iawn" - a dim ond "iawn" - ydi'r canlyniad ac mewn sinema lawn prin oedd y chwerthin. Ond doedd neb yn cwyno rhyw lawer ychwaith gan deimlo iddyn hw gael gwerth eu harian.
Felly, os bydd hi'n glawio dros y Pasg gallech wneud dewis gwaeth . . .
Y darnau gorau Pob golygfa gyda'r sgerbydau unllygeidiog.
Yr olygfa yn y bar gyda Scooby'n Affro.
Perfformiadau Er gwaethaf ei phblogrwydd fel Buffy y chwynwraig fampirod dydi Sarah Michelle Gellar ddim hanner mor apelgar a Linda Cardellini fel Velma er mae'n anodd deall pam y penderfynwyd hepgor ei jyrsi oren.
Mae'r drychiolaethau i gyd yn rhoi cyfrif da ohonyn nhw'u hunain
Ambell i farn Digynnig, diraen a diawen oedd barn un beirniad gan ychwanegu nad yw'r dilyniant ddim gwaeth na dim gwell na'r ymdrech chweillyd gyntaf.
Dydi hi ddim yn bwysig gwybod Fod Sarah Michelle Geller a Freddie Prinze Jr yn briod.
Y Ser Sarah Michelle Gellar, Freddie Prinze Jr, Matthew Lillard, Linda Cardellini, Seth Green, Alicia Silverstone
Cyfarwyddwr Raja Gosnell
Sgrifennu James Gunn
Hyd 92 munud
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|