
Gwyl Fflics 2007 Hanes ffilm am 'frenin olaf Cymru' mewn penwythnos o glasuron Cymreig yn Aber
Bydd darluniau o ffilm a wnaed yn y Dauddegau am Lywelyn ein Llyw Olaf yn cael eu dangos mewn g诺yl ffilmiau yn Aberystwyth rhwng 25 Hydref a 28 Hydref.
Am flynyddoedd ni wyddai neb lle'r oedd copi o The Last King of Wales ond bellach daethpwyd o hyd iddi ym meddiant casglwr preifat yn Wiltshire.
 Ni fydd yn bosibl dangos y ffilm yn gyflawn dim ond lluniau ohoni nes y bydd wedi ei hadfer yn iawn a'i throsglwyddo i fformat cyfoes.
Rhoddir hanes y ffilm a dangosir y lluniau ohoni fore Sul yr 糯yl. Dros yr 诺yl bydd nifer o ffilmiau gan gynnwys rhai adnabyddus fel How Green Was My Valley (1941), Proud Valley (1940) ac Y Chwarelwr ac Yr Etifeddiaeth (1935 a 1947) yn cael eu dangos yn ogystal a nifer o ffilmiau byrion o ddiddordeb Cymreig.
Bydd cyfle hefyd i drafod gwahanol agweddau ar ffilmiau Cymreig gyda 'Dehongliad o Gymreictod' yn bwnc trafod ar 27 Hydref er enghraifft.
Dywedodd y trefnwyr y bydd yr 糯yl yn dathlu hanes y sinema yng Nghymru o ddyddiau'r arloeswyr cynnar hyd at ddiwedd cyfnod sy'n cael ei adnabod fel y cyfnod nitrad.
Dangosir 25 o ffilmiau a gynhyrchwyd yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda thrafodaethau, perfformiadau cerddorol byw a sawl digwyddiad arbennig.
 Ymhlith yr uchelbwyntiau mae dangosiad adferedig o How Green Was My Valley, premier fersiwn newydd o'r Chwarelwr, a dangosiad gala o The Life Story of David Lloyd George.
Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae Fflics yn gyfle gwych i ddathlu cyfraniad Cymru i ddyddiau cynnar sinema ac i weld y ffilmiau ar y sgrin fawr; eu priod le.
"Rydym yn hyderus y bydd yr 糯yl yn apelio at ystod eang o bobl o'r dilynwyr ffilm brwd i'r rhai syn mwynhau ffilmiau nas gwelir yn aml ar y sgrin fawr, i'r rhai sy'n awyddus i weld ochr hanesyddol ar Gymru yn hanner cynta'r ganrif."
Ymhlith y rheini bydd ffilmiau byrion o waith gwneuthurwr ffilm cyntaf Cymru, Arthur Cheetham (1864-1937 sy'n cael ei ddisgrifio fel "rebel perfformgar!" Gwnaeth ei ffilmiau cyntaf yn Y Rhyl yn 1898 ac fe ffilmiodd y chwedlonol Buffalo Bill Cody pan oedd hwnnw ar ymweliad 芒 Chymru yn 1903.
"Mae ffilmiau Cheetham o orymdeithiau a'i Mailboat Munster yn cyrraedd Caergybi (1898) yn werth eu hatgyfodi ac mae ei ddelweddau o blant yn chwarae yn cyfuno gweithredu digymell hyfryd gyda hiwmor trawiadol, gwybodus," meddir ar wefan yr Wyl.
Cysylltiadau Perthnasol



|