G诺yl Ffilm Caerdydd 2006 Ffimiau diri ond yn llwm ar y Gymraeg
Bydd G诺yl Ffilm Caerdydd yn agor yn y Brifddinas Tachwedd 8, 2006, ond llwm yw hi ar y rhai sy'n chwilio am ddarpariaeth Gymraeg gydag ond un ffilm hir yn yr iaith yn cael ei dangos.
Tachwedd 18, diwrnod olaf yr 糯yl dangosir Calon Gaeth - Small Country gyda Mark Lewis Jones,
Nia Roberts,
Rhian Morgan,
Catrin Morgan,
Gareth Bale,
Tom Ellis, Sharon Morgan, Richard Elfyn, Rhian Grundy a Gaynor Morgan Rees.
Y cyfnod yw gwanwyn 1914 a Tom Evans (Gareth Bale) yn gwahodd ei ffrind gorau Edward Turncliffe (Tom Ellis) i ymweld 芒 stad ei rieni yn Shir G芒r heb yn wybod bod ei dad Josi (Mark Lewis Jones) wedi gadael ei fam (Rhian Morgan) i fyw gyda Miriam (Nia Roberts), athrawes leol.
"Craidd y stori yw newid cymdeithasol a gwleidyddol, technolegol ac amaethyddol, personol a theulol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin adeg y Rhyfel Byd Cyntaf," meddir.
Saethwyd y ffilm yn gyfangwbl ar leoliadau yn siroedd Penfro, Caerfyrddin, Brycheiniog a Morgannwg ac yn Rhydychen gan gwmni Green Bay - Talbot Studios i S4C.
Bydd dangosiad o ffilmiau byrion Cymreig, Welsh Shorts Tachwedd 11.
Gwreiddiau'r 糯yl Mae gwreiddiau'r 诺yl hon yn ymestyn yn 么l i hen 糯yl Ffilmiau Rhyngwladol Aberystwyth - g诺yl a symudwyd i Gaerdydd rai blynyddoedd yn 么l.
Bu'n uchelgais yng Nghaerdydd i'r ddinas ennill amlygrwydd fel un yn cynnal g诺yl ffilm a barn y trefnwyr yw i gam sylweddol gael ei gymryd i'r cyfeiriad hwnnw eleni.
Penodwyd t卯m rheoli newydd gyda merch o Gaerdydd, Sarah Howells, yn cyfarwyddo'r 诺yl.
'Hynod brofiadol' Mae hi'n gyn reolwr G诺yl Sgrin Caerdydd fel yr oedd yr 诺yl yn cael ei hadnabod cynt.
"Mae'r t卯m yn cyfuno unigolion hynod brofiadol, brwdfrydig ac egn茂ol sydd wedi gweithio ym myd y ffilm a gwyliau ledled y byd. Mae'r noddwyr sydd wedi cael eu cadarnhau ar gyfer y digwyddiad proffil uchel yn cynnwys Y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor y Celfyddydau Cymru, Asiantaeth Ffilm Cymru, Cyngor Sir Caerdydd, Cineworld, Skillset, BAFTA Cymru, Soundworks a Bauhaus," meddai.
Yn gweithio gyda Sarah Howells mae Huw Penallt Jones, Prif Weithredwr yr 糯yl, a chanddo oddeutu 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ffilm.
Mae Lisa Nesbitt - gynt o'r IFFW a BAFTA Cymru - yn gyfarwyddwraig gynorthwyol a Greg Mothersdale yn rheolwr.
Meddai Sarah Howells, "Mae'r 糯yl Ffilmiau yma yn addo bod yr 诺yl ffilmiau orau a welodd Caerdydd, os nad Cymru, erioed.
"Wrth adeiladu ar wyliau'r gorffennol, ond hefyd yn ymwybodol o'r angen i ehangu ap锚l yr 糯yl, ein bwriad yw datblygu ein brand newydd, codi ymwybyddiaeth o'r 糯yl i gynulleidfa ehangach, a hybu ei broffil gan ddarparu cyfuniad arbennig o ffilmiau, y dalent sy'n mynychu a digwyddiadau'r diwydiant sydd wedi eu dylunio'n arbennig.
Mwy cyfeillgar "Bwriad yr 糯yl yw bod yn fwy cyfeillgar a hygyrch i'r cyhoedd yn ogystal 芒'r ffaith mai dyma'r unig 糯yl yn y byd sy'n hyrwyddo talent a ffilmiau Cymraeg ar lwyfan ryngwladol. Fel rhan o'n cynlluniau, byddwn yn cyflwyno gwobr gynulleidfaol newydd ar gyfer y ffilm fer Orau o Gymru."
Dywedodd Huw Penallt Jones+ yntau nad oies rheswm pam na all Cymru gystadlu yn y maes hwn:
"Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio yn y diwydiant ffilm am flynyddoedd bellach, a hynny o Lundain i Hollywood, ac rwy'n credu'n gryf nad oes rheswm pam na all Cymru fod yn gystadleuol gyda'r goreuon.
"Fe fydd gan yr 糯yl yma y 'glamour a'r glitz' ond yn ogystal 芒 hynny fe fydd yn rhoi llwyfan i ffilmiau a digwyddiadau y gall bobl uniaethu 芒 nhw, sydd yn adlewyrchu ysbryd arbennig y ddinas."
Allweddol Dywedodd Peter Edwards, Cadeirydd Asiantaeth Ffilm Cymru, ei fod ef yn gweld G诺yl Ffilmiau Caerdydd fel "rhan allweddol o greu diwydiant ffilm yng Nghymru sydd yn gystadleuol ac yn llwyddiannus ac yn hyrwyddo mwynhad sinema yng Nghymru i'r gynulleidfa ehangaf posib.
Ymhlith nifer o weithdai a sesiynau trafod bydd Dosbarth Meistr gyda'r sgriptiwr a'r nofelydd, Rhidian Brook yn trafod ceisio bod yn sgriptiwr
i ymweld 芒 gwefan yr 糯yl.
Gellir archebu tocynnau'n uniongyrchol oddi yno neu drwy Swyddfa Docynnau Chapter ar 029 20 304400.
Cysylltiadau Perthnasol
Caerdydd - Lleol i Mi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|