The Day After Tomorrow Fawr o fory Dan y don wrth i ddiwedd y byd ddynesu Mehefin, 2004
Sut ffilm? Byddwch barod i gael eich pledu 芒; holl ystrydebau ffilmiau trychineb traddodiadol gyda thad a mab sydd wedi ymbellhau yn ceisio closio at ei gilydd a chyfanu'n deulu dedwydd yn dilyn taith enbydus trwy ffyrnigrwydd yr elfennau ar drothwy diwedd y byd.
Ac, o mae hi'n oer, mewn byd sy'n rhewi drosto wrth i amharch llywodraethau'r byd tuag at yr amgylchedd brysuro gordwymo bydeang.
Mae'r golygfeydd dramatig yn mynd a'ch gwynt a chynhesu calonnau y rhai hynny sy'n gwirioni ar effeithiau cyfrifiadurol.
Y farn gyffredinol. . . yw, fod y trychinebau o'r radd flaenaf ond y cymeriadau megis cysgodion mewn niwl. "Does gan yr un ohonyn nhw bersonoliaeth," meddai un adolygydd ffilmiau!
Y stori Mae rhybuddion y tywyddegwr, Jack Hall (Dennis Quaid), o drychineb bydeang oherwydd gorboethi'r amgylchedd yn cael eu hanwybyddu, yn arbennig gan Is Arlwydd yr Unol Daleithaiu.
Ond, mwyaf sydyn mae rhagdybiaeth Hall a chyfaill o Sais (Ian Holm) yn dod yn wirionedd oer wrth i stormydd chwipio Los Angeles yn rhubannau ac wrth i'r moroedd, yn gyntaf, foddi Efrog Newydd a'r ddinas wedyn yn rhewi'n gorn.
Ymhlith criw sy'n 'mochel yn y llyfrgell gyhoeddus yno gyda'i gariad mae mab Hall (Jake Gyllenhaal) sydd wedi ymbellhau oddi wrth ei dad gweithaholig.
Ond yn wyneb y fath drychineb mae Hall a dau gyfaill yn cychwyn ar daith drwy'r eira 'i fod efo'i fab' ac adfer perthynas deuluol tad a mab.
Y canlyniad Yn hen law ar greu ffilmiau trychineb mae Roland Independence Day Emmerich yn cynnwys holl elfennau ystrydebol y ffilmiau hynny gan gynnwys:
Awdurdod sy'n fyddar i lais proffwyd yn darogan gwae a phan ddaw'r llanast i deffro'r byddariaid mae'n rhy hwyr.
Criw bychan, dewr, yn brwydro'n erbyn yr amhosib i oroesi.
Cyfeillgarwch yn cael ei adfer diolch i weithredoedd arwrol.
Cariad cudd yn cael ei fynegi a'i ennill.
Gobaith ar gyfer y dyfodol. Yma, y nodyn gobeithiol yw i ddynoliaeth oroesi oes rew o'r blaen yr holl filoedd o flynyddoedd yna yn 么l.
Y darnau gorau Mae gweld Los Angeles yn cael ei racsio gan ryferthwy gwyntoedd nerthol yn drawiadol ond go brin bod golygfa well na gweld Efrog Newydd (heb y ddau dwr) yn mynd dan ddwr wrth i'r moroedd orlifo heibio'r Statue of Liberty a thros Manharttan a thrwy'r strydoedd rhwng yr adeiladau uchel. Dyma, heb os, uchafbwynt gwefreiddiol The Day After Tomorrow.
Mae'r lluniau o Efrog Newydd dan rew yn drawiadol hefyd, yn gymysgedd o brydferthwch cerdyn Nadolig a iasau ofn.
Taflu bai Y llyfr, The Coming Global Superstorm gan Art Bell a Whitley Streiber, sydd y tu 么l i'r ffilm. Mae'r neges yn un ddwys; fod y byd a dynoliaeth ar drothwy trychineb amgylcheddol ddychrynllyd.
Yn gwbl ddiamwys, y Ty Gwyn a gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau sy'n cael eu beio am hyn nid yn unig am ganiatau camdrin y ddaear ond hefyd am wrthod gwrando ar rybuddion arbenigwyr amgylcheddol.
Ambell i farn Mae cytundeb unfryd fod y dyfeisgarwch cyfrifiadurol yn benigamp a chytundeb yr un mor unfryd fod y cymeriadu'n wantan.
"Mae cymeriadau diliw yn difetha'r effeithiau arbennig gwych," meddai gwefan Saesneg y 成人快手. "Mae'r distryw yn wych o ran lluniau; trueni nad oes yma neb yr ydych yn gofidio amdanyn nhw," ychwanega.
Gwerth ei gweld Ydi, debyg - a waeth heb na chynghori pobl i ddisgwyl nes bydd y fideo ar gael gan fod y golygfeydd rhyfeddol yn mynnu'r chwarae teg hwnnw sydd ond i'w gael ar sgr卯n fawr . . . fawr.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|