Kingdom of Heaven Brwydr hir a diflas
Y s锚r Orlando Bloom, Liam Neeson, Eva Green, David Thewlis, Marton Csokas
Cyfarwyddwr Ridley Scott
Sgrifennu William Monahan
Hyd 144 munud
Sut ffilm Cyfarwyddwr Gladiator yn mynd i'r afael 芒'r Croesgadau gyda Christnogion a Mwslemiaid yn sgyrnygu a gwneud pethau ofnadwy i'w gilydd yng Nghaersalem y ddeuddegfed ganrif.
Ond mae yma ymgais ddwys i wneud y ffilm yn berthnasol i gyflwr y byd a'i raniadau crefyddol heddiw gyda phwyslais ar lwybr cymedroldeb a goddefgarwch.
Y stori Yn of cyffredin mewn pentref yn Ffrainc gorfodir Balian (Orlando Bloom) gan amgylchiadau i ymuno 芒'i ryfelwr anrhydeddus o dad (Liam Neeson) sy'n ymladd yn Jerwsalem.
"Dos cyn belled a lle maen nhw'n siarad Eidaleg gan ddal i fynd nes maen nhw'n siarad rhywbeth arall," yw'r 'Cynllun Ffordd' fel petai!
J么c sy'n cael ei hailadrodd wrth gau pen y mwdwl ar y stori.
Unwaith mae o'n cyrraedd Jerwsalem mae yna chydig o syrthio mewn cariad, llawer o foesoli, llawer o athronyddu a mwy fyth o ddarnio pobl gyda chleddyfau a bwyelli wrth i Gristion a Mwslim geisio dod i ddealltwriaeth.
Ond mewn ffilm sy'n ymdrechu i fod yn wleidyddol gywir Mwslemiaid rhesymol, cytbwys a chymedrol yw'r rhai dan arweiniad Saladin (Ghassan Massoud) yn Kingdom of Heaven o gymharu a charfan front Knights Templar y Cristnogion imperialaidd.
Y canlyniad Ffilm ysgytiol, cignoeth ei hymladdfeydd ond diflas ei hathronyddu. "Esmwyth i'r llygaid ond caled i'r pen 么l ," meddai un beirniad am ymgais bwysfawr Ridley Scott i ddweud rhywbeth o bwys am yr ymrafael bresennol rhwng gwledydd cred ac Islam.
Trueni nad oes cymaint o liw i'r ddeialog ag sydd yna i'r ymladdfeydd.
Ymddengys i stori a pherthynas rhwng cymeriadau gael eu haberthu ar allor brwydrau ffyrnig a moesoli pregethwrol.
Fel y dywedodd un beirniad: "Marchogion, cestyll, cleddyfau, peli t芒n, olew chwilboeth a bwrlwm gwaed digidol."
Y darnau gorau Os oes gennych awch am waed a ffyrnigrwydd mae'r brwydrau'n anhygoel - yn enwedig y frwydr i fwrw i lawr fur Jerwsalem.
Perfformiadau "Ei ddilyn i frwydr - fydda chi ddim yn ei ddilyn i Woolworth." Anodd anghydweld 芒 barn adolygydd gwefan ffilm y 成人快手 am berfformiad Orlando Bloom.
Mae Neeson, fodd bynnag, yn rhagori a'r ffilm yn bwyiogi drwyddi pan fo ar y sgr卯n ac mae bwlch ar ei 么l.
Difywyd a di sbarc ydi Eva Green yn y stori garu.
Mae Jeremy Irons yn rhagori fel cynghorydd i Baldwin, brenin gwahanglwyfus Jerwsalem (Edward Norton) yn gwisgo mwgwd i guddio rhaib y clefyd ar ei wyneb.
Rhai geiriau "Nid llofruddiaeth ydi lladd y di-gred ond llwybr i'r nefoedd."
"Fe ddaw y dydd pan fydd yn edifar gennyt na wnaethost yr ychydig ddrwg er lles y daioni mawr."
Gystal 芒'r trelar? Ydi - ond yn hirach. Yn llawer hirach.
Ambell i farn Anodd credu gymaint y pegynnu barn sy'n bosib yngl欧n ag un ffilm. Rhai yn canmol i'r cymylau eraill wedi diflasu'n llwyr. Er enghraifft:
- "Rhannol yn wers hanes, rhannol yn ddarlith, yn gyfangwbl syrffedus mae'r Kingdom of Heaven yn burdan.
- "Gweledigaeth ddewr sy'n berthnasol i'r hyn sy'n digwydd yn y byd heddiw."
- "Ydi'r Croesgadau drosodd bellach. Deffrwch fi pan fydd hi'n amser mynd adref."
- "Cael ein hatgoffa'n amserol mai'r Cristnogion bigodd ffeit gyntaf yn yr anghydfod rhwng Cristnogaeth ac Islam."
- "Mae sgript grefftus Monahan yn cadw cydbwysedd rhwng yr ochr wleidyddol-gymdeithasol i bethau."
- "Ffilm fendigedig ei gwedd wedi ei chyfansoddi'n gelfydd ac yn hynod hawdd ei gwylio."
- "Gwell na dim ond heb fod yn bopeth a ddylai fod."
- "Ffilm fwyaf 'slopi' Scott hyd yn hyn . . . sy'n dweud dim o gwbl am y Croesgadau."
Bydd, fe fydd yn rhaid i bawb benderfynu drosto'i hun.
Gwerth mynd i'w gweld? Yn ffodus / yn anffodus - dyna'r unig ffordd i benderfynu drosoch ei hun!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|