Layer Cake Byw ar deisen a chyffuriau
Y s锚r Daniel Craig, Kenneth Cranham, Dexter Fletcher, Jamie Foreman, Michael Gambon
Cyfarwyddwr Matthew Vaughn
Sgrifennu JJ Connolly
Hyd 105 munud
Sut ffilm Ffilm front, waedlyd gydag ambell i air cyffredin rhwng y rhegfeydd. Nid rhegfeydd, mewn gwirionedd, gan i'r rhegi gael ei gyfyngu bron yn llwyr i'r un gair Eff sy'n siwr o'i gwneud yn hawdd i bobol heb Saesneg ddilyn y sgyrsiau.
Yn troi o gwmpas y farchnad gyffuriau yn Llundain a rhannau eraill o Loegr gyda chymeriadau na fu'n agos at Ysgol Sul erioed yn byw ar ei gilydd.
O stabl Lock Stock and Two Smoking Barrels a Snatch mae cynhyrchydd y rheini, Matthew Vaughn, yn gyfarwyddwr yn lle Guy Ritchie.
Addasiad o'i nofel ei hun gan JJ Connolly.
Y stori Penderfyna gwerthwr cyffuriau dienw a hynod lwyddiannus (Daniel Craig) ei bod yn bryd iddo ymddeol cyn i'w lwyddiant droi'n chwerw a chyn cyrraedd ei ddeugain oed.
Ond mae am gwblhau un d锚l fawr cyn mynd ac, yn erbyn ei wirfodd, yn cael ei orfodi gan farwn cyffuriau (Kenneth Cranham) i ddod o hyd i ferch adictaidd cyfaill o farwn arall (Michael Gambon).
Aiff pethau o ddrwg i waeth i'r prif gymeriad wrth iddo dynnu'n groes 芒 gwneuthurwyr ecstasi o Serbia, giangstars o Lundain a Lerpwl a lladdwr proffesiynol oeraidd sy'n berffeithydd yn ei faes.
Y canlyniad Llifeiriant heb ei atal o fryntni, gwaed, rhegfeydd, lladd clinigol, cnocio pennau yn erbyn waliau ac ambell i frawddeg fachog.
Ffilm gwbl amddifad o egwyddorion.
Heb yr un cymeriad y gellir cymryd ato - ond mae golygfa olaf ysgytiol yn peri i rywun ailfeddwl y mymryn lleiaf yngl欧n a hynny.
Mae'r naratif weithiau yn ddryslyd ac yn cael ei chymhlethu gyda gormodedd o 么l-olygfeydd.
Y darnau gorau I'r sawl sy'n mwynhau gwaed yn sbrencian wrth i fwledi gyrraedd eu nod neu wrth i bennau gael eu cnocio'n ddibaid yn erbyn pethau caled mae digonedd o ddarnau gorau.
O ran gwir ysgytwad - yr olygfa olaf un ar risiau'r t欧 bwyta moethus.
Disgwyl am y lladdwr cudd yn y parc.
Perfformiadau Yn brif gymeriad mae Daniel Craig yn chwarae'i ran yn dda - "Nid giangstar ydw i - dyn busnes, y mae ei gynnyrch yn digwydd bod yn goc锚n."
Gwell fyth yw Michael Gambon fel y llwynog o farwn cyffuriau sydd gam ar y blaen i'w elynion ond yn ddigon call i sylweddoli mai peth bregus yw llwyddiant yn y maes hwn.
Ef sy'n egluro arwyddoc芒d y teitl - fod i fywyd haenau fel teisen a'r llwyddiannus yn byw ar yr haen uchaf. Ond am ba hyd?
Gystal 芒'r trelar? Mae syrffed o'r hyn a addewir yn y trelar.
Ambell i farn Y rhan fwyaf o'r beirniaid o'r farn fod mwy o raen ar hon na Lock Stock a Snatch a bod Vaughn yn rhagori ar Ritchie fel cyfarwyddwr.
Gwnaeth Craig argraff ar y rhan fwyaf o'r beirniaid fel y prif gymeriad ond yn 么l un o feirniaid y 成人快手 does yma ddim yr un carisma a ffraethineb ag a welwyd yn Snatch.
Gwelodd beirniaid y New Staesman "a certain cynical charm" yma.
Ambell i air Mewn dialog sy'n aml yn ffraeth a llithrig mae sawl peth cofiadwy.
"Mi allai pobol ddechrau meddwl dy fod ti'n wrywgydiwr, yn defnyddio gair mawr fatha eangfrydedd"
"Nodweddiadol o Loegr - dydi hyd yn oed delwyr cyffuriau ddim yn gweithio ar y penwythnos."
"Paid a phisho yn fy mhoced i a thrio dweud mai glawio mae hi."
Gwerth mynd i'w gweld Waeth disgwyl am y CD ddim - a chael benthyg honno gan rywun.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|