Ladies in Lavender Helyntion broc m么r
Y s锚r Judi Dench, Maggie Smith, Daniel Br眉hl, Natascha McElhone, Miriam Margoyles
Cyfarwyddwr Charles Dance
Sgrifennu Charles Dance yn dilyn stori gan William J Locke.
Hyd 109 munud
Sut ffilm Rhamant llawn naws y tridegau am ddwy hen wraig yn darganfod llanc ifanc yn gorwedd yn anymwybodol ar draeth ger eu cartref yng Nghernyw. Angel ynteu sarff yn eu Heden fydd y broc m么r annisgwyl hwn?
Y stori Mae dwy hen chwaer, Janet Widdington (Maggie Smith) sy'n weddw, ac Ursula (Judi Dench) sy'n hen ferch, yn ymgerleddu, Andre (Daniel Br眉hl) ar 么l ei ddarganfod yn anymwybodol un bore wedi ei olchi ar y traeth ger eu cartref anghysbell yng Nghernyw.
Mae'r ffilm yn ymwneud a'r berthynas sy'n tyfu rhwng y Pwyliad, Andre, nad oes ganddo air o Saesneg ar y cychwyn, a'r ddwy hen wraig - a phentrefwyr cyfagos, i raddau llai.
Mae Ursula, ddiniweitiach na Janet, yn syrthio mewn cariad petrus ag ef yn ei henoed.
Cymhlethir pethau gyda dyfodiad arlunwraig ifanc, ddeniadol, (Natascha McElhone) sy'n sylweddoli fod gan Andrea ddawn ryfeddol fel fiolinydd ond ei diddordeb hi yn cael ei ddehongli fel un o serch gan y ddwy wraig.
Y darnau gorau Y golygfeydd o Gernyw ond does yna ddim unrhyw un olygfa benodol wrth i'r stori dyfu wrth ei phwysau a'r berthynas rhwng y gwahanol gymeriadau yn newid o yn raddol.
Yr olygfa o'r pentrefwyr yn ymgasglu i wrando ar gyngerdd radio yn brothio o hiraeth.
Perfformiadau Roedd South Pacific yn gwbl gywir pan ganwyd nad oes yna ddim byd i'w gymharu 芒 dame ac mae'r ddwy Dame, Smith a Dench, yn rhagorol.
Mae Miriam Margolyes hithau fel Dorcas eu dynes llnau ddi lol yn chwa o hiwmor hefyd.
Gystal 芒'r trelar? Gwell.
Ambell i farn Mae canmoliaeth gyffredinol i berfformiad Smith a Dench ac hefyd i naws ac ysbryd y darn - fel y byddai beirniad adrodd neu ganu yn dweud - yn gyffredinol.
Yn ddifyr, yn dyner, yn afaelgar a hawdd ei gwylio gan ennill nifer barchus o s锚r gan bob un o'r beirniaid.
Ond efallai mai barn y Mirror sydd daclusaf pan ddywed mai ffilm wych sydd ond yn llwyddo i fod ond yn dda iawn yw hi.
Y canlyniad Mwynhad cyffredinol gydag agweddau fel cariad amhosib, cyfeillgarwch, gwrthodiad ac amheuon cymdeithas glos yn cael eu harchwilio gyda chraffter a thynerwch a'r awyrgylch yn newid yn gelfydd o olygfa i olygfa..
Fodd bynnag, er cystal yr adeiladwaith mae'r diwedd yn rhywfaint o siom a'r cyfarwyddwr fel pe byddai'n ansicr sut orau i gau pen y mwdwl.
Ond mae'n delio'n dda ag "ymyrraeth" yr arlunwraig sydd, meddai Ursula, yn bygwth eu Heden gydag Andrea "fel y wrach mewn stori dylwyth teg".
Y peth gorau ddywedwyd "Fi gwelodd o gyntaf," meddai Ursula gan ofni fod Janet hefyd yn ymserchu yn Andrea!
Gwerth mynd i'w gweld Ar bob cyfrif.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|