You, Me and Dupree (2006) Mwy o bla nag o ffrind gorau
Y s锚r
Owen Wilson, Kate Hudson, Matt Dillon, Michael Douglas
Cyfarwyddo
Anthony Russo, Joe Russo
Sgrifennu
Mike LeSieur
Hyd
109 munud
Sut ffilm
Ffilm gomedi Americanaidd am yr effaith ar fywyd a chyfeillgarwch dau ddyn ifanc wedi i un briodi a'r llall yn symud i fyw ato ef a'i wraig.
Y stori
Yn syth wedi i Carl a Molly (Matt Dillon a Kate Hudson) briodi mae Dupree (Owen Wilson), ffrind gorau Carl, yn dod ar eu gofyn ac yn symud atyn nhw i fyw 'nes ei fod yn cael ei draed dano'.
Go brin fod angen dweud fod hyn yn rhoi'r briodas a'r berthynas rhwng y tri dan bwysau rhyfeddol gyda Carl yn dioddef fwyaf wrth i Dupree afradlon ac anghyfrifol fod yn sbardun i bob math o helyntion domestig ystrydebol yn amrywio o orlwytho'r t欧 bach, dangos ei ben 么l wrth gysgu'n noeth ar y soffa a llosgi'r t欧!
Ar ben hyn mae Carl dan bwysau oddi wrth tad Molly (Michael Douglas) - perchennog hunanol y cwmni mawr ariangar y mae Carl yn gweithio iddo.
Rhwng popeth mae bywyd Carl yn prysur chwalu a'i berthynas 芒 Molly ar y dibyn.
Beth ddaw ohonynt? A oes modd cymodi tad a mab yng nghyfraith? A oes modd dofi Dupree? Beth yw'r ots?
Y canlyniad Yr anhawster mwyaf yw ceisio dychmygu sut y daeth Dupree yn ffrind gorau i neb yn y lle cyntaf.
Yn cael ei fwriadu i fod yn rhyw fwddrwg o ysbryd rhydd anystywallt ond hoffus a hynaws fe fydd, yng ngolwg sawl un, yn fwy o bla na hanner dwsin o bryfed chwythu o gwmpas eich clustiau.
Yn wir, dim ond cymeriad mewn ffilm a fyddai'n ei wahodd dros y rhiniog heb s么n am gynnig soffa iddo gysgu arni yn ei gartref.
Mewn cyferbyniad llwyr, mae Carl, yntau, yn gymaint o gymeriad cardbord y mae'n amhosib bron ac ymateb iddo o gwbl na chydymdeimlo ag ef yn ei drafferthion!
Gyda'i chyfres o olygfeydd ystrydebol mae'n syndod fod y ffilm hon yn gafael o gwbl - yn enwedig at y diwedd lle collir gafael ar y llinyn storiol - ond y mae er gwaethaf popeth yn eithaf hawdd ei gwylio.
Mae'n ffilm y byddai wedi bod o les iddi gael ei thynhau yn arw. Gellid fod wedi haneru'n hawdd y golygfeydd o ddoethinebu athronyddol gan Dupree.
Perfformiadau Er mai o gwmpas Dupree y mae'r ffilm hon yn troi ef ydi'r lleiaf hoffus o'r holl gymeriadau. 'Dyw Owen Wilson ddim yn argyhoeddi fel yr afradlon hoffus a'i olwg penrhydd ar fywyd.
Sylwodd sawl un o'r blaen nad yw Matt Dillon yn actor gyda llawer o bresenoldeb ac yn y ffilm hon does gan Kate Hudson ychwaith fawr i'w wneud ar wah芒n i edrych yn dlws. Cyhuddwyd Dillon gan un adolygydd o actio gyda'r un cynildeb 芒 chi yn methu dal ei dd诺r.
Nid dyna farn adolygydd gwefan Saesneg y 成人快手, fodd bynnag, sy'n dweud fod y rhain yn driawd braf i fod yn eu cwmni.
Fel y cyflogwr hunanol a chwbl diegwyddor mae Michael Douglas yn effeithiol yn gwenu fel rasel tra'n bygwth dan gochl geiriau teg.
Ond mae'n dweud rhywbeth am y ffilm i gyd fod dau y ddau bresenoldeb mwyaf yn eiddo dwy nad ydynt i'w gweld ar y sgr卯n o gwbl. Mandy y llyfrgellydd y mae Dupree yn syrthio mewn cariad 芒 hi ac Anne, gwraig un o gyfeillion Carl!
Ambell i farn Mae gwefan Saesneg y 成人快手 yn gwerthfawrogi cyfansoddiad y stori - "cleverly orchestrated yw'r disgrifiad wrth ganmol Wilson a Dillon am gadw'r chwerthin i fynd - ond mae yn cydnabod nad oes yma lawer o "chwerthin mawr".
Gresynus - "dire" - yw barn yr Observer fodd bynnag gyda'r Telegraph o'r farn fod hon yn ffilm hawdd cysgu drwyddi.
Cred yr Independent fod y math o gymeriad penrhydd a chwaraeir gan Wilson wedi chwythu'i blwc iddo erbyn hyn.
Darnau gorau
'Y bois' yn dod draw i weld g锚m b锚l-droed pan fod Molly allan.
Rhai geiriau"Does yna ddim rhagor o Audrey Hepburns ar 么l allan yn fanna erbyn hyn," Dupree
Oes yna unrhyw beth tristach na gorfod a chael gwared o dy gasgliad o ffilmiau porn?" Dupree eto.
Gwerth ei gweld?Gwerth ei gweld - ond mae'n amheus a yw hi werth mynd i'w gweld.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|