G诺yl ffilmiau myfyrwyr Bydd rhewgell yn datrys problemau myfyriwr trwy sgrifennu traethawd coleg ar ei ran mewn ffilm newydd - sydd wedi ei gwneud gan fyfyriwr o Gymru.
Bydd The Fridge i'w gweld mewn g诺yl ffilmiau newydd sydd i'w chynnal ym Mangor.
Yn yr 诺yl dangosir ffilmiau wedi eu creu gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ochr yn ochr 芒 ffilmiau o rai o brif ysgolion ffilm y byd a ffilmiau sydd newydd gael eu dangos yn rhai o'r prif wyliau ffilm rhyngwladol.
Dangosir y ffilmiau yn Theatr Gwynedd ddydd Sul, Mai 15, 2005.
Sgwennu traethawd Yn y bore, pan ganolbwyntir ar wneuthurwyr ffilmiau sy'n dechrau dod i'r amlwg, dangosir ffilm gan Dafydd Launder, myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Roedd ei sgript ar gyfer The Fridge yn un o dair buddugol mewn cystadleuaeth flynyddol sgriptio ffilmiau, Prifysgol Cymru, Bangor, a noddir gan Final Draft Screenwriting Software.
Ffilm yw hi am fyfyriwr sy'n methu'n l芒n a symud ymlaen wrth ysgrifennu traethawd ar 'ddefnydd Shakespeare o atalnodi i gyfleu ymdeimlad o drasiedi sydd ar fin digwydd.'
Yn y ffilm gomedi daw hen ffrij yn llety'r myfyriwr i'r adwy trwy ysgrifennu'r traethawd drosto!
Hefyd yn cael ei dangos yn yr 诺yl bydd Radio Hell a enillodd yr ail wobr yn y gystadleuaeth i Siobahn McCarthy a Hypno-Hip-hop y cymeradwywyd sgript Rory Mathieson iddi.
I'r gogledd Cyfarwyddwr yr 糯yl yw Julie MacLusky, Darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol.
"Mae'r diwydiant ffilm yng Nghymru'n rhywbeth sy'n perthyn i'r de i raddau helaeth; gobeithio y bydd yr 诺yl ffilmiau hon yn rhoi gogledd Cymru'n 么l ar y map," meddai.
"Yn ogystal 芒 rhaglen o ffilmiau byr arloesol, bydd sesiwn diwedd y pnawn yn dangos sut mae ffilmiau'n cael eu gwneud, tra bydd y sesiwn gyda'r nos yn canolbwyntio ar ffilmiau dogfen dadleuol."
Ychwanegodd fod "cenhedlaeth nesaf gwneuthurwyr ffilmiau a chyfarwyddwyr gwledydd Prydain" yn cael eu meithrin ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
"Mae'r myfyrwyr wedi meistroli elfennau sylfaenol sgriptio ffilmiau, llunio fframwaith stori a chreu cymeriadau a drama grymus.
"Gyda'r traddodiad dweud stor茂au cyfoethog iawn sydd yn y rhanbarth a thwf cynhyrchu ffilmiau yn yr ardal, gall yr 诺yl hon fod yn newyddion da yn wir. Bydd yn gyfle gwych i ddathlu doniau, a datblygu cysylltiadau gwaith," meddai.
Yr 糯yl Gall unrhyw un fynychu'r 诺yl rhwng 11.00 y bore a 10.00 y nos ac ar 么l i'r gwahanol ffilmiau gael eu dangos bydd trafodaeth.
Pris tocynnau ydi 拢3.50 (oedolion) i weld ffilmiau unigol a 拢7.50 am docyn diwrnod.; 拢2 a 拢3 i fyfyrwyr.
Swyddfa docynnau - 01248 351708.
Hon fydd g诺yl ffilmiau ryngwladol gyntaf y coleg o ffilmiau annibynnol a ffilmiau gan fyfyrwyr.
Cafwyd nawdd gan Sgrin, y sefydliad datblygu ffilmiau Cymreig, a'r Final Draft Screenwriting Software.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|